Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Terminoleg y Llyfrgell

Ll

Defnyddio gwaith rhywun arall a chymryd clod amdano yn eich gwaith academaidd. Os ydych yn darllen ac yn defnyddio llyfr neu gyfnodolyn, yna rhaid i chi roi clod i'r awdur(on) drwy gydnabod y gwaith. Gelwir hyn yn Cyfeirnodi. Os oes angen cymorth arnoch gyda Chyfeirnodi, rhoi geiriau pobl eraill yn eich geiriau eich hun, neu unrhyw sgil arall, yna ewch i un o'n Gweithdai Arfer Academaidd.

Testun ysgrifenedig gan un neu fwy o awduron fel arfer am un pwnc, a man cychwyn gwych ar gyfer eich gwaith ymchwil. Mae gan lyfrau wahanol rannau gan gynnwys clawr, tabl cynnwys, penodau a mynegai. Mae llyfrau ar gael i'w benthyca oddi wrthym ar ffurf copi caled wedi'i argraffu ar ein silffoedd llyfrgell. Gelwir llyfrau mewn fformat electronig yn E-lyfrau a gellir eu darllen ar-lein a'u canfod drwy ddefnyddio ChwilioMet, neu ar eich rhestrau darllen Leganto. Mae mwyafrif y llyfrau yn ein llyfrgell yn ffeithiol ac ar lefel gradd.

Tîm bach o lyfrgellwyr proffesiynol sydd ar gael i roi cyngor a chymorth gyda'ch dysgu a’ch gwaith ymchwil. Gallant ddangos i chi sut i ddefnyddio llyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data yn effeithiol yn eich astudiaethau. Defnyddiwch wefan Llyfrgell Met Caerdydd i drefnu apwyntiad.

Rhestr o’r deunyddiau (llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion ayyb), yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw’r awdur y cyfeiriwyd atynt mewn darn o waith academaidd. Fe'i gelwir hefyd yn rhestr gyfeirio.

Term cyffredinol sy'n golygu'r sgil o chwilio am, a defnyddio, gwybodaeth yn effeithiol. Mae’n cynnwys y gallu i feddwl yn feirniadol a llunio barn gytbwys am wybodaeth rydym yn dod o hyd iddi ac yn ei defnyddio. Os oes angen help arnoch gyda hyn, cysylltwch â Llyfrgellydd Academaidd.

GWELER HEFYD: Arfer Academaidd