Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Canolfannau Dysgu: Ystafelloedd Astudio

​​​​Mae Ystafelloedd Astudio ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio os ydyn nhw'n chwilio am rywle tawelach i astudio ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau a chael mynediad at gyfrifiadur. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ystafelloedd ewch i un o'r Desgiau Cymorth yn y Canolfanau Dysgu.

Rheolau Archebu

Gall myfyrwyr archebu uchafswm o 2 x archeb 2 awr y dydd.

Gall myfyrwyr adnewyddu 1 o’r archebion hyn yn unig, a hynny 15 munud cyn diwedd yr archeb, cyhyd â nad yw'r ystafell wedi'i harchebu gan fyfyriwr arall.

Gall myfyrwyr archebu hyd at 4 wythnos ymlaen llaw.

Cofiwch ganslo'ch archeb os nad oes angen yr ystafell arnoch mwyach.  Os byddwch dros 30 munud yn hwyr ar gyfer eich archeb, bydd staff y Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth yn canslo'ch archeb fel y gall myfyrwyr eraill ddefnyddio'r ystafell.

Noder: Mae ystafelloedd astudio y gellir eu harchebu yng Nghyncoed yn hygyrch yn ystod oriau agor staff yn unig.

Sut i Archebu

Gellir archebu ystafelloedd astudio trwy system Connect2 Met Caerdydd yn ogystal â chaniatáu i chi wirio argaeledd ystafelloedd a rheoli unrhyw archebion sydd ar ddod. Gallwch gael mynediad i'r system hon trwy fewngofnodi i'ch cyfrif gyda'ch ID myfyriwr a'ch cyfrinair yn connect2.

Ystafelloedd Astudio Cyncoed

Mae pedair ystafell astudio ar gael yn y Ganolfan Ddysgu yng Nghyncoed.  Mae ystafelloedd astudio 1-4 i gyd ar lawr 1af y Llyfrgell ac mae gan bob ystafell o leiaf un cyfrifiadur ar gael.

Mae'r ystafelloedd hyn ar agor i fyfyrwyr eu defnyddio cyn belled nad oes neb arall yno. Fodd bynnag, i warantu eich defnydd o'r ystafell bydd angen i chi ei harchebu.

Ystafelloedd Astudio Llandaff

Mae pedair ystafell astudio yn y Ganolfan Ddysgu yn Llandaf. Mae 2 yn yr Ystafell TG, un ar gyfer gwaith tawelach ar y llawr 1af ac un ar y llawr gwaelod.

Mae gan T1.01a a T1.01b 2 gyfrifiadur ym mhob ystafell, ac mae gan L1.04a a L0.06 yn y cyntedd arddangosfa wedi'i gosod ar y wal y gallwch gysylltu eich gliniadur ag ef.