Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Dod o Hyd i Gymorth: Hyfforddiant Sgiliau Digidol

Hyfforddiant Sgiliau Digidol

Mae’r tîm Sgiliau Digidol yn falch o gynnig ystod o gyrsiau hyfforddi i fyfyrwyr Met Caerdydd sy’n datblygu sgiliau digidol sy’n berthnasol i’ch astudiaethau ac yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae pob cwrs yn arwain at ardystiadau – tystiolaeth o'ch sgiliau y gallwch chi eu rhannu'n hawdd â chyflogwyr a chyfoedion trwy LinkedIn a'r cyfryngau cymdeithasol.

Y cam cyntaf yw cwblhau'r rhaglen sefydlu Hanfodion Digidol. Drwy gwblhau’r cyfnod sefydlu, byddwch yn dysgu am y technolegau a’r arferion a fydd yn eich galluogi i gwblhau eich astudiaethau wrth ddysgu wyneb yn wyneb ac wrth ddysgu ar-lein.

Os oes gennych cyfrif Met Caerdydd, gallwch gwblhau elfen gyntaf y cyfnod sefydlu nawr. Dilynwch y ddolen i’r dudalen Hanfodion Digidol mewngofnodwch gyda’ch Rhif Myfyriwr Met Caerdydd (st[rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk) a chwblhewch yr e-wers fer lle byddwch yn dysgu am eich cyfrif TG, systemau TG hanfodol, cyfleusterau a gwasanaethau TG ar y campws a chyngor diogelwch digidol hollbwysig.

Ar ôl cwblhau'r e-wers sefydlu, byddwch wedyn yn mynychu dwy sesiwn hyfforddi yn ystod yr wythnos groeso i ddysgu dwy sgil craidd ar gyfer astudio ym Met Caerdydd - cyfathrebu'n effeithiol trwy Microsoft Teams a rheoli'ch dogfennau.

Mae'r tîm TG ehangach yn darparu cymorth ac arweiniad ar bob agwedd ar ddefnyddio TG ym Met Caerdydd. Gall y tîm eich cysylltu â'r wi-fi a rhoi cyngor ar brynu caledwedd a meddalwedd TG.

Ar gyfer unrhyw ymholiad TG, gallwch ein ffonio ar +44 (0)29 20417000 neu e-bostio ni. Fel arall gallwch ddod draw i’r Ddesg Gymorth TG yn y Canolfannau Dysgu.