Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Terminoleg y Llyfrgell

B

Pan fyddwch yn benthyca eitem o'r Llyfrgell mae ar fenthyg i chi.

Gwasanaeth a gynigir i staff a myfyrwyr i gael deunydd ar gyfer eu hymchwil nad yw ar gael trwy ein llyfrgell.

GWELER HEFYD: Dosbarthu Dogfennau

Gwasanaeth sydd ar gael o ddesgiau cymorth TG yng Nghanolfannau Dysgu Cyncoed a Llandaf sy'n gadael i chi fenthyg gliniaduron am fwy na 24 awr.

GWELER HEFYD: Lapsafe ar gyfer benthyciadau gliniaduron hyd at 24 awr. (uchod)

Aelod llyfrgell nad yw wedi ymrestru nac yn gweithio yn y brifysgol.

GWELER HEFYD: Cyn-fyfyrwyr

Blwch y tu allan i fynedfeydd y ddwy lyfrgell yng Nghyncoed a Llandaf lle gallwch ddychwelyd unrhyw lyfrau o lyfrgelloedd Met Caerdydd drwy ddefnyddio’r blwch hwn.

Sylwch nad yw hyn yn cynnwys llyfrau a fenthycwyd trwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd.

Mae Boolean yn ffordd o gysylltu dau neu fwy o eiriau allweddol. Y tri chysylltydd cyffredin yw AND, OR a NOT. Mae defnyddio Boolean yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich chwiliad. Os oes angen help arnoch neu eisiau gwybod mwy, cysylltwch ag un o’m Llyfrgellwyr Academaidd.

Ap symudol/gwefan i borwyr yw BrowZine sy'n eich galluogi i gyrchu a phori e-gyfnodolion gan wahanol gyhoeddwyr drwy ddefnydio un rhyngwyneb. Gallwch gael mynediad i BrowZine trwy'r Cronfeydd Data A-Y.