Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Lawrlwytho e-lyfrau ar gyfer mynediad all-lein

Dechrau arni

Gellir lawrlwytho'r rhan fwyaf o'n e-lyfrau i'w darllen all-lein am gyfnod cyfyngedig naill ai ar ffurf EPUB neu PDF. Mae'r canllaw hwn yn manylu ar sut i lawrlwytho penodau a llyfrau cyfan ar ein llwyfannau mwyaf poblogaidd.

Chwiliwch am y llyfr rydych am ei gyrchu ar ChwilioMet a chliciwch ar y teitl neu'r ddolen Mynediad arlein i gyrraedd y dudalen hon:

Mae'r gronfa ddata y mae'r llyfr yn cael ei chadw arni wedi'i nodi yn yr adran View Online a bydd y weithdrefn lawrlwytho yn dibynnu ar y gronfa ddata, y byddwch yn ei defnyddio i gael mynediad at yr e-lyfr. Mae'r rhan fwyaf o lwyfannau yn caniatáu i chi lawrlwytho naill ai pennod / darn neu'r llyfr cyfan. I lawrlwytho'r testun llawn, bydd angen i chi gael Adobe Digital Editions wedi’i osod ar eich dyfais.

BibliU

Cambridge Core

Ebook Central

EBSCO

Law Trove

O'Reilly

Taylor & Francis

VLeBooks