Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Sgiliau Chwilio: Cyflwyniad i Chwilio ar gyfer eich Adolygiad Llenyddiaeth

Diffinio eich Cwestiwn Chwilio

Mae Adolygiadau Llenyddiaeth yn rhan bwysig o waith academaidd sy’n darparu trosolwg a dadansoddiad o gwestiwn neu bwnc ymchwil. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu un ar gyfer eich traethawd hir, prosiect neu aseiniad ar ffurf traethawd.

Dylai Adolygiad Llenyddiaeth da roi eich ymchwil yn ei gyd-destun, gan ddangos sut mae’n berthnasol i ymchwil ehangach yn eich maes pwnc. Dylai'r Adolygiad Llenyddiaeth ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth glir ar bwnc o’ch dewis, cynnwys ymchwil gyfredol berthnasol ac awduron allweddol, a nodi unrhyw feysydd yn y llenyddiaeth sy'n cefnogi'r angen am ymchwil pellach.

Ble i Chwilio?

Ar gyfer Adolygiadau Llenyddiaeth a Thraethodau ac Aseiniadau fel arfer gofynnir i chi ganolbwyntio ar ffynonellau academaidd ac a adolygir gan gymheiriaid, megis gwerslyfrau, erthyglau cyfnodolion, adroddiadau ymchwil a thrafodion cynadleddau. Gallwch ddod o hyd i'r rhain o gasgliadau Electronig a Phrint y Llyfrgell.

Creu eich Strategaeth Chwilio

  • Canolbwyntiwch ar eich cwestiwn: dechreuwch eich chwiliad trwy ganolbwyntio ar eich cwestiwn i ddatblygu eich strategaeth chwilio. Bydd strategaeth chwilio strwythuredig â ffocws yn eich helpu i chwilio'n gyflym ac yn effeithlon ac yn rhoi canlyniadau defnyddiol!
  • Dewiswch eich Termau Chwilio: dewiswch eiriau allweddol ac ymadroddion byr i’w defnyddio wrth chwilio. Defnyddiwch amrywiaeth o eiriau allweddol, ceisiwch feddwl am eiriau amgen neu eiriau tebyg i ehangu eich chwiliad.
  • Meddyliwch am Gyfystyron : geiriau gwahanol sy’n cyfeirio at rywbeth o’r un ystyr, er enghraifft: arolwg neu holiadur.
  • Rhowch Allweddeiriau yn eu cyd-destun, byddwch yn ofalus o Homonymau : geiriau sy'n cael eu sillafu'n debyg ond ag ystyr gwahanol er enghraifft, 'De = Cywir' a 'De = Cyfeiriad, yn groes i chwith'
  • Defnyddiwch unrhyw dermau cysylltiedig i hyrwyddo'ch chwiliad e.e. Busnes - Rheoli
  • Meddyliwch am fyrfoddau ac acronymau perthnasol yn eich pwnc.

Technegau Chwilio

Mae defnyddio Technegau Chwilio yn eich galluogi i ehangu eich chwiliad neu ganolbwyntio eich canlyniadau.


Chwiliad am ymadrodd

Mae gosod eich geiriau allweddol, dau air neu fwy mewn “dyfynodau dwbl”, yn creu chwiliad am ymadrodd. Gellir defnyddio hwn i ganolbwyntio eich chwiliad ar ganlyniadau mwy perthnasol, yn enwedig os oes nifer fawr o ganlyniadau chwilio.

“Asesiad Ffurfiannol” “Rheolaeth Strategol”

Awgrym! Defnyddir hwn yn y rhan fwyaf o gronfeydd data, ond mae Scopus yn defnyddio {cromfachau cyrliog} ar gyfer yr union ymadrodd - {Hyrwyddo Iechyd}


Technegau chwilio Cwtogi a Phenagored

Mae’r techneg cwtogi yn ddefnyddiol os ydych chi am gynnwys amrywiadau o allweddair, mae'n caniatáu ichi chwilio am wahanol derfyniadau geiriau ar yr un pryd. Chwiliwch gan ddefnyddio bôn gair a seren * er enghraifft, therapi* i ddod o hyd i therapi, therapïau, therapydd, therapiwteg.

Mae chwilio penagored yn ddefnyddiol i chwilio am eiriau a sillafiadau gwahanol – sydd fel arfer yn defnyddio marc cwestiwn ? yn lle llythyren o air. Er enghraifft, bydd “sefy?liad” yn rhoi “sefydliad” i chi yn y canlyniadau chwilio.

Awgrym! Mae cronfeydd data gwahanol yn defnyddio symbolau gwahanol, felly gwiriwch hyn cyn chwilio.


Gweithredwyr Boole

I greu chwiliad effeithiol, mae angen i chi gyfuno'ch geiriau allweddol gyda'i gilydd yn llinyn, gan eu cysylltu â'i gilydd i greu eich chwiliad. Gallwch gysylltu'r allweddeiriau gan ddefnyddio Gweithredwyr Boole AC, NEU, NID i adeiladu llinyn i ehangu neu gyfyngu eich canlyniadau. Cânt eu defnyddio mewn Priflythrennau gan eu bod yn dweud wrth y gronfa ddata sut yr hoffech chi chwilio am yr allweddeiriau.

AC - Defnyddiwch AC i ganolbwyntio eich chwiliad, mae chwiliad AC yn cynnwys y ddau allweddair yn y canlyniadau, er enghraifft, myfyrwyr AC “Addysg Uwch”.

NEU - Defnyddiwch NEU i ehangu eich chwiliad, mae chwiliad NEU yn cynnwys y ddau allweddeiriau yn y canlyniadau, er enghraifft, prifysgol NEU addysg.

NID - Defnyddiwch NID i eithrio geiriau allweddol o'ch canlyniadau, er enghraifft, “De Cymru” NID Awstralia.

Gall hyn helpu i gael gwared ar ganlyniadau nad ydynt yn berthnasol, ond rhaid ei ddefnyddio ar ddiwedd y llinyn chwilio. Gall defnyddio NID hidlo rhai canlyniadau defnyddiol felly gyfer rhai chwiliadau gallwch ychwanegu Allweddeiriau ychwanegol i ganolbwyntio'r canlyniadau.