Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Defnyddio Cronfeydd Data A-Y

Dewch o hyd i'r gronfa ddata llyfrgell orau ar gyfer eich ymchwil

Rhestr o lwyfannau a gwefannau yn nhrefn y wyddor yw Cronfeydd data A-Y . Gall defnyddwyr ddefnyddio’r cronfeydd i ddod o hyd i wahanol fathau a fformatau o wybodaeth. Mae rhai cronfeydd data yn darparu mynediad i’r testun cyfan; mae eraill yn cynnig crynodebau neu wybodaeth lyfryddol. Gellir gweld y rhan fwyaf o gynnwys y cronfeydd data yn ChwilioMet. Fodd bynnag, mae rhai gwefannau celf, gwybodaeth ystadegau a gwybodaeth gyfreithiol nad ydynt efallai'n ymddangos yn ChwilioMet.

Gellir chwilio drwy’r holl gronfeydd data yn y Cronfeydd Data A-Y yn unigol yn ôl teitl, pwnc, neu ysgol, i ddod o hyd i wybodaeth y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymchwil. Mae'r cronfeydd data sydd ar gael yn cynnwys e-gyfnodolion, e-lyfrau, erthyglau papur newydd, adroddiadau, delweddau, fideo a mwy.

Mae'r holl wybodaeth a chynnwys o'r Cronfeydd Data A-Y ar gael trwy fynediad electronig o bell. O dan bob cronfa ddata mae disgrifiad byr o gynnwys y gronfa ddata honno. Cliciwch ar enw'r gronfa ddata i gyrchu’r gronfa ddata yr hoffech ei chwilio. Gallwch hidlo cronfeydd data fesul Pwnc neu Ysgol, neu gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio i chwilio disgrifiadau o’r cronfeydd data.

Awgrym da! Chwiliwch am y cronfeydd data a ddefnyddir amlaf gan fyfyrwyr Met Caerdydd, lle gwelwch yr arwydd hwn:

Awgrym da! Chwiliwch am gronfeydd data sydd newydd eu caffael neu sy'n cael eu gwerthuso ar gyfer tanysgrifiad yn y dyfodol gan y Llyfrgell, lle gwelwch yr arwyddion hyn:

Cronfeydd data ar gyfer chwiliadau llenyddiaeth

Os ydych yn chwilio am erthyglau cyfnodolion ar gyfer aseiniad academaidd neu adolygiad llenyddiaeth, gallwch chwilio un o'r cronfeydd data amlddisgyblaethol fel Scopus neu ProQuest Central. Gellir chwilio'r cronfeydd data hyn am erthyglau cyfnodolion ar ystod o feysydd pwnc.

Cronfeydd data ar gyfer meysydd pwnc penodol

Mae yna nifer o gronfeydd data ar gael ar gyfer gwahanol feysydd pwnc sy'n cwmpasu erthyglau cyfnodolion ac adnoddau gwybodaeth defnyddiol iawn eraill. Mae rhai cronfeydd data sy’n addas ar gyfer astudiaeth pwnc-ganolog yn cynnwys:

Cronfeydd data cyhoeddwyr

Chwiliwch am erthyglau gan ddefnyddio llwyfannau cronfa ddata'r Cyhoeddwr. Mae'r rhain yn cynnwys:

Pori teitlau cylchgronau

Mae BrowZine yn eich galluogi i gyrchu a phori e-gyfnodolion gan wahanol gyhoeddwyr gan ddefnyddio un rhyngwyneb syml, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y maes/meysydd pwnc o’ch dewis. Gyda BrowZine gallwch adeiladu eich Silff Lyfrau Academaidd personol eich hun o e-gyfnodolion, arbed erthyglau i'w darllen all-lein, gosod rhybuddion ar gyfer diweddariadau ci gynnwys teitlau unigol, a lawrlwytho dyfyniadau i reolwyr cyfeirio fel Zotero a RefWorks.

Gweler ein Canllaw BrowZine am fwy o wybodaeth ar sut i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio.

Cronfeydd data e-lyfrau

Os ydych chi'n chwilio am Gasgliadau o E-lyfrau, gallwch eu chwilio'n unigol. Mae’r casgliadau sydd ar gael yn cynnwys:

Ebook Central yw ein cronfa ddata e-lyfrau fwyaf ac mae’n cynnwys mynediad i’r casgliad Academic Complete.

Casgliad o werslyfrau cyfraith allweddol gan Oxford University Press yw Law Trove.

Mae O'Reilly yn cynnwys e-lyfrau ac adnoddau eraill ym meysydd pwnc cyfrifiadura, mathemateg a pheirianneg.

Ar gyfer testunau cynradd, rhowch gynnig ar ProQuest One Literature, sy’n cynnwys testun llawn o filoedd o weithiau barddoniaeth, drama a rhyddiaith.

Mae VLeBooks yn darparu mynediad testun llawn i e-lyfrau ar draws pob maes pwnc.

Ystadegau a safonau

Ar gyfer llawer o bynciau mae angen gwybodaeth arnoch fel ystadegau, adroddiadau neu safonau gan cwmnïau. Mae’r rhain i’w gweld yn y cronfeydd data canlynol, ymhlith eraill:

  • Mae British Standards Online yn cynnwys mynediad testun llawn at y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr ac awdurdodol o safonau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol wedi'u mabwysiadu.
  • Mae DataGardener yn darparu data ariannol cynhwysfawr a gwybodaeth fusnes am gwmnïau’r DU
  • Mae Fitch Connect darparu cyllid a graddfeydd ar filoedd o sefydliadau bancio ac ariannol.
  • Mae Mintel yn asiantaeth gwybodaeth marchnad fyd-eang sy'n darparu mynediad at adroddiadau ymchwil i'r farchnad.
  • Mae Occupational Health and Safety Information Service yn adnodd ar-lein sy’n cynnwys canllawiau swyddogol, deddfwriaeth, arferion gorau a safonau ar gyfer y DU.
  • Mae Statista llwyfan data byd-eang a gwybodaeth busnes gyda chasgliad helaeth o ystadegau, adroddiadau, mewnwelediadau a ffeithluniau.

Delweddau

Mae'r Brifysgol hefyd yn tanysgrifio i gronfeydd data delweddau i gefnogi eich gwaith academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Mae Berg Fashion Library yn cynnwys dros 17,000 o ddelweddau yn ymwneud â ffasiwn a dylunio.
  • Mae Bridgeman Education yn gronfa ddata bwrpasol o ddelweddau sy’n darparu delweddau o brif amgueddfeydd, orielau ac artistiaid cyfoes y byd.
  • Archif o gartwnau papurau newydd Prydeinig yw British Cartoon Archive
  • Mae Vogue Archive yn cynnwys y casgliad cyfan o gylchgrawn Vogue, a atgynhyrchir mewn delweddau tudalen lliw eglur iawn.
  • Mae Worth Global Style Networkyn ddarogan tueddiadau defnyddwyr sy'n cynnig ymchwil, dadansoddi arddull, delweddau a newyddion.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau hawlfraint / telerau ac amodau yn ofalus cyn i chi atgynhyrchu unrhyw ddelweddau at unrhyw ddiben arall. I gael arweiniad pellach ar Hawlfraint a Thrwyddedu, gweler gwefan y llyfrgell, neu Cysylltwch â Ni.

.

Clyweledol

Mae ystod eang o gronfeydd data clyweledol ar gael gydag adnoddau defnyddiol i gefnogi eich astudiaethau.

Box of Broadcasts (BoB) yw’r gwasanaeth teledu a radio ar-alw ar gyfer addysg. 

Ar gyfer Addysg a Drama edrychwch ar BBC Shakespeare Archive and ProQuest One Literature ar gyfer barddoniaeth a dramâu, yn ogystal â Teacher's TV - casgliad o 3,500+ o fideos addysgiadol.

Edrychwch ar HS Talks: The Business & Management Collection, adnodd amlgyfrwng ar gyfer addysgu a dysgu.

Papurau newydd

Am erthyglau papur newydd gallwch chwilio cronfa ddata European Newsstream am destun llawn prif gyhoeddiadau newyddion y DU. Mae gennym hefyd fynediad i'r Financial Times Online a'r Times Digital Archive.

Dulliau ymchwil

Mae Sage Research Methods Foundations yn rhoi cyflwyniad i dulliau a thermau ymchwil ar gyfer y rhai sy'n newydd i ymchwil yn gyffredinol neu ar gyfer dull penodol.

I gael cyngor a chanllawiau cyfeirio defnyddiwch Cite Them Right Online, gwerslyfr cyfeirio poblogaidd ar gyfer creu eich dyfyniadau. Edrychwch hefyd ar gronfa ddata Oxford English Dictionary Online.