P’un a ydych yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o astudiaethau yma, neu os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd yn ôl am flwyddyn newydd arall, hoffai staff Gwasanaethau Llyfrgell ar gampysau Cyncoed a Llandaf estyn croeso cynnes ichi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio os oes gennych unrhyw gwestiynau, rydym bob amser yn hapus i helpu!
Yma fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch i ragori. Mae gennym wybodaeth am sut i ddod o hyd i adnoddau a'u defnyddio, y gweithdai sgiliau academaidd diweddaraf, a ble i ddod o hyd i help pan fydd ei angen arnoch, a mwy. Rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau i staff academaidd i gefnogi eich gwaith gyda'ch myfyrwyr a chefnogi eich ymchwil.
Fel dechreuad, edrychwch ar ein tudalennau Hanfodion y Llyfrgell lle byddwch yn dod o hyd i’r holl awgrymiadau a gwybodaeth i’ch rhoi ar ben ffordd i ddechrau gwych ar eich taith ddysgu.