Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Dod o Hyd i Gymorth

Mae'r canllawiau hyn yn disgrifio sut i gysylltu â rhwydweithiau Wi-Fi Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Y prif rwydwaith ym Met Caerdydd yw Eduroam, y gall myfyrwyr neu staff ei ddefnyddio gydag enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Argymhellir eich bod yn cysylltu ag Eduroam gan ddefnyddio'r opsiwn Cysylltu Diogel.

Ar ôl cysylltu ag Eduroam, byddwch yn cysylltu'n awtomatig ym Met Caerdydd a sefydliadau eraill sy'n defnyddio Eduroam, sef y rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU.

Mae rhwydwaith Wi-Fi i Westeion hefyd ar gyfer ymwelwyr â'r brifysgol, gweler ein canllawiau ar gyfer cysylltu â Wi-Fi i Westeion.