Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Terminoleg y Llyfrgell

D

Rhyngwyneb ar-lein i'ch helpu i lywio adnoddau, ymchwil a dulliau darganfod Met Caerdydd.

Gair arall am luniau, paentiadau neu ffotograffau. Mae gennym gronfeydd data o ddelweddau yn yr Cronfeydd Data A-Y sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio delweddau yn eu haseiniadau. Gallwch chwilio am gronfeydd data Delweddau yn y Cronfeydd Data A-Y trwy ddewis Delweddau / Images yn yr hidlydd Mathau / Types yn y bar Chwilio.

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio delweddau, cysylltwch â Llyfrgellydd Academaidd.

Mae Desgiau Cymorth ar loriau gwaelod Llyfrgelloedd Llandaf a Chyncoed. Dyma lle gallwch ofyn am gymorth pan fyddwch yn defnyddio ein llyfrgell.

Gwasanaeth llyfrgell yw digideiddio sy'n trosi gwybodaeth ffisegol i fformat digidol - er enghraifft, sganio erthygl o gyfnodolyn i'r cyfrifiadur fel y gellir ei chyrchu ar-lein. Gwneir ceisiadau am ddigido gan ddarlithwyr trwy Leganto.

Ystyr DOI yw Digital Object Identifier, sef cyfres unigryw o rifau, llythrennau a symbolau a neilltuwyd i erthygl neu ddogfen dDigideiddio. Mae hyn yn rhoi cyfeiriad gwe parhaol i'r erthygl/dogfen dan sylw, gan wneud y DOI yn ffordd fwy dibynadwy o'i olrhain na hyperddolen. Er enghraifft, DOI: 10.2147/OAJSM.S125845.

Gwasanaeth a gynigir i staff a myfyrwyr i gael deunydd ar gyfer eu hymchwil nad yw ar gael drwy'r llyfrgell.

GWELER HEFYD: Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd