Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Benthyca a Gofyn

Hawlfraint ac Thrwyddedu

Mae hawlfraint yn hawl gyfreithiol, sy'n amddiffyn perchennog yr hawlfraint neu greawdwr gwaith. Yma fe welwch wybodaeth am hanfodion cyfraith hawlfraint y DU gan gynnwys delio teg, eithriadau, a thrwyddedau a ddelir gan y Brifysgol. Mae angen i bob aelod o staff a myfyriwr fod yn ymwybodol o gyfraith hawlfraint a sut mae'n effeithio ar addysgu, dysgu ac ymchwil. Gall y Gwasanaeth Llyfrgell gynnig cyngor ar ystod eang o faterion hawlfraint - cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

Hanfodion hawlfraint

Mae hawlfraint yn hawl eiddo deallusol sy'n bodoli'n awtomatig cyn gynted ag y caiff gwaith ei greu (h.y. nid oes angen i chi wneud cais am hawlfraint). Mae cyfraith hawlfraint wedi'i chynllunio i ddiogelu hawliau awduron, artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr, cyhoeddwyr a chrewyr eraill.  

Mae’n bosibl y bydd angen i unigolion sydd am atgynhyrchu gwaith gwreiddiol eraill ofyn am ganiatâd i wneud hynny.  

Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau, 1988 (CPDA) yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud. Hanfod y ddeddf yw gwarchod buddiannau masnachol.

Mae’r mathau canlynol o ddeunydd wedi’u diogelu gan hawlfraint:

  • Gweithiau llenyddol (argraffu ac electronig)
  • Gweithiau cerddorol
  • Gweithiau artistig (diagramau, darluniau, ffotograffau)
  • Recordiadau sain
  • Ffilmiau, DVD, fideos
  • Darllediadau radio a theledu
  • Trefniant argraffyddol o argraffiadau cyhoeddedig

 Mae’r gweithgareddau canlynol wedi’u cyfyngu dan hawlfraint: :

  • Copïo
  • Rhoi copïau i'r cyhoedd, eu rhentu neu eu benthyca
  • Perfformio, dangos neu chwarae'n gyhoeddus
  • Darlledu
  • Addasu neu ddiwygio gwaith
  • Mewnforio, dosbarthu neu gaffael copïau tor-rheol

Nid yw cyfraith hawlfraint yn diogelu syniadau ar gyfer gwaith, dyma lle mae'n aml yn cael ei ddrysu â meysydd eraill o eiddo deallusol. I ddeall y gwahanol fathau o eiddo deallusol, a'r hyn y maent yn ei gwmpasu, gweler gwefan y Swyddfa Eiddo Deallusol  am ragor o fanylion.

Pwy sy'n berchen ar hawlfraint?

Perchennog hawlfraint fel arfer yw’r person a greodd y deunydd ond mae eithriadau:  

  • Os yw unigolyn yn creu deunydd o dan delerau ei gyflogaeth, yna'r cyflogwr sydd â'r hawlfraint fel arfer.  
  • Trwy gyflwyno deunydd i'w gyhoeddi, mae awdur yn aml yn llofnodi hawlfraint i gyhoeddwr y llyfr neu'r cyfnodolyn.  

Pa mor hir mae hawlfraint yn para?

Mae hawlfraint yn berthnasol i wahanol fathau o waith am gyfnodau amrywiol o amser:  

 Gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig 

 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur​ ​​ 

​ Ffilmiau   

 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript a chyfansoddwr 

 Recordiadau sain a cherddoriaeth 

 70 mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gyntaf  

​​ Darllediadau 

 50 mlynedd o'i ddarlledu gyntaf  

 Cynllun argraffiadau cyhoeddedig o weithiau ysgrifenedig, dramatig neu gerddorol   

 25 mlynedd o'i gyhoeddi gyntaf  

 

Mae'r cyfnod amser yn rhedeg o ddiwedd y flwyddyn galendr y bu farw'r awdur(on) neu o'r adeg y gwnaed y darllediad neu'r recordiad sain. Pan ddaw'r hawlfraint i ben, mae'r gwaith yn dod i mewn i'r parth cyhoeddus, sy'n golygu y gall unrhyw un ei ddefnyddio a'i ailddefnyddio am ddim heb yr angen i gael caniatâd perchennog yr hawlfraint. 

Delio teg ac eithriadau

Gallwch gopïo at ddibenion addysgol gan ddefnyddio’r ‘eithriadau delio teg’, mae’r terfynau ar gyfer delio teg yn cael eu derbyn yn gyffredinol fel a ganlyn:

  • un bennod gyflawn o lyfr neu 5% o'r cyfanswm, pa un bynnag sydd fwyaf.
  • un erthygl gyflawn o rifyn cyfnodolyn neu set o drafodion cynhadledd.
  • adroddiad cyfan un achos o set o adroddiadau cyfraith
  • un stori fer neu gerdd (hyd at uchafswm o 10 tudalen) o flodeugerdd.
  • dyfyniad byr o waith cerddorol, ar yr amod nad yw at ddibenion perfformio.
  • gellir defnyddio detholiad byr o destun neu ffilm neu ddelwedd cyn belled ag y bo hynny i egluro neu ymhelaethu ar bwynt a wneir gan athro ar gyfer cyfarwyddyd

Nid yw copi yn "deg" oni bai mai "ydy" yw'r ateb i bob un o'r tri chwestiwn isod.

  • A yw'r copi yn cadw budd masnachol cyfreithlon perchennog yr hawlfraint? (e.e. ni ddylai'r defnyddiwr gopïo eitem mewn ymdrech i osgoi ei brynu)
  • A yw'r copi'n cael ei wneud ar gyfer y person sy'n gwneud y copïo?
  • A yw'r copi at un o'r dibenion canlynol:
    • Ymchwil o natur anfasnachol
    • Astudiaeth breifat
    • Beirniadaeth neu adolygiad
    • Adrodd am ddigwyddiadau cyfredol
    • I'w ddefnyddio mewn arholiad
    • Darlun (testun neu ddelwedd neu ffilm) ar gyfer Dyfarwyddyd

Mae'n hanfodol cydnabod ffynhonnell unrhyw ddeunydd a gopïwyd yn y modd hwn lle bynnag y bo modd.

Eithriadau hawlfraint ar gyfer defnyddwyr ag anableddau

Mae deddfwriaeth y DU yn darparu eithriadau penodol sy'n caniatáu i gopïau gael eu gwneud mewn fformat hygyrch at ddefnydd person anabl, heb dorri hawlfraint.   :

Mae hyn yn caniatáu i sefydliadau addysgol, fel Met Caerdydd, sicrhau bod copïau fformat hygyrch o waith gwarchodedig ar gael, eu dosbarthu a rhoi benthyg ar ran pobl anabl. Mae'r trwyddedau eithriad yn gweithredu fel:  

  • gwneud copïau braille, sain neu brint bras o lyfrau, papurau newydd neu gylchgronau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg  
  • ychwanegu disgrifiadau sain at ffilmiau neu ddarllediadau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg  
  • gwneud ffilmiau neu ddarllediadau is-deitl ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw  
  • gwneud copïau hygyrch o lyfrau, papurau newydd neu gylchgronau ar gyfer pobl dyslecsig  

Mae canllawiau pellach ar gael ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol:   

Eithriadau i hawlfraint: Helpu pobl anabl  

Trwyddedau

Mae trwyddedau sydd gan Met Caerdydd ar hyn o bryd yn cynnwys y canlynol:

Copyright Licensing Agency (CLA)​ 

​Mae'r drwydded AU Llungopïo a Sganio yn caniatáu i SAU wneud sawl llungopïau a sganio detholiadau o lyfrau printiedig, cyfnodolion a chylchgronau.

Design and Artists Copyright Society (DACS)​

​Mae'r drwydded yn caniatáu copïo gweithiau artistig ar sleidiau a thryloywder

Educational Recording Agency (ERA)​ 

Mae'r drwydded yn caniatáu recordio darllediadau radio a theledu

Filmbankmedia Single Title Screening Licence (STSL)  

Mae’r drwydded yn caniatáu sgrinio ffilmiau i gynulleidfa ar sail pob dangosiad.

​NLA Education Establishment Licence (NLA)​

Mae’r drwydded yn caniatáu llungopïo erthyglau o amrywiaeth o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol.

TheMusicLicence (PRS) 

Mae'r drwydded gan PPL PRS yn caniatáu i gerddoriaeth gael ei chwarae'n gyfreithlon i weithwyr neu gwsmeriaid trwy'r radio, teledu, dyfeisiau digidol eraill a pherfformiadau byw.

 

e-Adnoddau ac cronfeydd data

Mae Met Caerdydd yn dal trwyddedau ar gyfer ein holl gronfeydd data a chyfnodolion electronig.  

Yn y mwyafrif o achosion trefnir bod yr adnoddau hyn ar gael i staff a myfyrwyr Met Caerdydd o dan delerau llym at ddibenion preifat ​chwilio ac astudio. Mae'n bwysig eich bod yn cadw at y telerau ac amodau penodol ar gyfer pob adnodd gan fod camddefnydd yn peryglu mynediad electronig i'r brifysgol gyfan. Yn benodol:  

  • Ni ddylech roi eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i unrhyw un arall i'w galluogi i gael mynediad i'n e-adnoddau
  • Ni ddylech anfon copïau o unrhyw ran o'r wybodaeth a gafwyd o'r cronfeydd data ymlaen at ddefnyddiwr nad yw wedi'i awdurdodi i ddefnyddio'r adnodd
  • Rhaid i chi beidio ag ailgyhoeddi'r deunydd mewn unrhyw ffurf (h.y. ar y we, yn Moodle ac ati) heb ganiatâd penodol gan berchennog yr hawlfraint. Os hoffech gyfeirio unrhyw un at gronfa ddata benodol neu erthygl mewn cyfnodolyn defnyddiwch hyperddolen yn lle hynny.

Atgoffir staff a myfyrwyr o'r amodau defnyddio TG y maent wedi'u derbyn.  

Anogir staff hefyd i edrych ar y Polisi Defnydd Derbyniol TG am ragor o wybodaeth.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau hawlfraint penodol ychwanegol ynghylch e-adnoddau, cysylltwch â electronicservices@cardiffmet.ac.uk

Gwefannau

Os ydych am ddefnyddio deunydd o'r Rhyngrwyd dylech fod yn ymwybodol, er bod rhywfaint o gynnwys ar y we yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i chi ei gopïo, nid yw'r rhan fwyaf ohono. Bydd gan bob gwefan ei hysbysiad hawlfraint ei hun lle gallwch wirio'r cyfyngiadau ar ddefnyddio ei chynnwys.


Cyswllt Byw

Mae modd mynd o gwmpas y mater o hawlfraint ar wefannau trwy daflunio tudalennau neu chwarae sain o wefannau yn fyw yn ystod darlith neu seminar. Gelwir hyn yn "gysylltu byw". Nid yw cyswllt byw â gwefan yn cael ei ystyried yn gopïo ac nid ydych yn torri cyfraith hawlfraint trwy ddangos tudalennau gwe fel hyn.

Defnyddiwch yr URL i wneud hyn - gallwch hefyd ddarparu dolen i dudalen we (yn hytrach na chopïo ei chynnwys) i fodiwl Moodle neu restr ddarllen Leganto heb dorri cyfraith hawlfraint.


Mewnblannu

Yn yr un modd, os ydych chi'n mewblannu fideo YouTube neu fap Google mewn blog, rydych chi'n dod â ffynhonnell wreiddiol y cynnwys hwnnw i'ch gwefan yn hytrach na chreu copi arall ohono ac felly eto nid yw hyn yn mynd yn groes i hawlfraint.


Yn gofyn am ganiatâd i gopïo

Beth i'w wneud os yw cyfyngiadau hawlfraint yn eich atal rhag copïo a defnyddio cynnwys gwe yn y ffordd yr oeddech yn dymuno:

  • Os yw'r cynnwys hefyd yn bodoli mewn ffurf brintiedig efallai y gallwch gael copi sydd wedi'i glirio at ddefnydd addysgol trwy ddefnyddio Gwasanaeth Digido'r Llyfrgell.
  • Gallwch gysylltu â pherchennog yr hawliau yn uniongyrchol i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio eu cynnwys.

Cymorth pellach

Am arweiniad pellach ar unrhyw beth yn ymwneud â hawlfraint, cysylltwch â centralservices@cardiffmet.ac.uk