Gallwch ddefnyddio Leganto i gadw golwg ar yr hyn sydd gennych ac nad ydych wedi’i ddarllen. Cliciwch ar y tic i’r chwith o eitem er mwyn ei nodi fel ‘wedi gwneud’:
Mae’r botwm ‘ffefrynnau’, Favourites, yn eich galluogi i greu casgliad eich hun o adnoddau o restrau darllen neu unrhyw ffynhonnell ar-lein arall. I ychwanegu eitem o restr ddarllen at Favourites, cliciwch ar y tri dot wrth ymyl eitem a dewiswch Save as favourite.
I ychwanegu eitemau o adnodd ChwilioMet, chwiliwch am adnoddau llyfrgell am eitemau sydd yn ein casgliad. Cliciwch ar y teitl a dewiswch yr opsiwn Leganto yn yr adran Send to. Dewiswch Favourites ac yna ychwanegu at Add to reading list.
Gallwch hefyd ychwanegu eitemau at Favourites oddi ar wefannau. I wneud hyn, bydd angen i chi ychwanegu botwm Cite It! at lyfrnodau eich porwr. Cliciwch ar eich enw ar ochr dde uchaf y sgrin, yna dewiswch Cite It! a llusgwch y botwm porffor sy’n ymddangos ar sgrin y ffenestr naid i’ch bar llyfrnodau:
Pan fyddwch yn dod o hyd i eitem berthnasol a restrir ar wefan, dewiswch botwm Cite it! a bydd ffenestr naid yn ymddangos. Yna gallwch ei ychwanegu’n uniongyrchol at Favourites.