Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Cyrchu E-adnoddau

Dechrau Arni Ar-lein

Mae byd o gynnwys digidol ysgolheigaidd ar gael ar flaenau eich bysedd. Ar-lein. Unrhyw le. 24/7. Mewn gwirionedd, mae yna gymaint o wybodaeth gall dod o hyd ir wybodaeth sydd ei hangen arnoch deimlo'n llethol. Peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu gyda'r canllaw hwn i adnoddau electronig.

Cofiwch ddefnyddio'r dolenni isod i ddod o hyd i E-adnoddau. Bydd y rhan fwyaf yn eich annog i fewngofnodi ai gael mynediad llawn am ddim y mae gennych hawl iddo fel myfyriwr. Os ewch yn syth i adnodd trwy ddefnyddio Google, efallai y gofynnir i chi dalu am gynnwys yn ddiangen.

ChwilioMet

ChwilioMet yw’r porth i gynnwys premiwm, taledig y mae Gwasanaethau’r Llyfrgell Met Caerdydd wedi’i brynu i’ch cefnogi yn eich cyrsiau. Mae ChwilioMet yn eich ddod o hyd i ddeunyddiau o ansawdd, sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac sy’n berthnasol yn academaidd. Fe’i hariennir yn rhannol gennych chi yn eich ffioedd cwrs felly mae’n gwneud synnwyr eich bod yn ei ddefnyddio.

Pan fyddwch yn chwilio, mae ChwilioMet fel arfer yn rhoi llawer o filoedd o ganlyniadau ichi - felly mae’n bwysig hidlo eich canlyniadau I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ChwilioMet, gweler ein Canllaw ChwilioMet.

Y tu hwnt i ChwilioMet

Darganfyddwch ymchwil a gynhyrchwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar figshare, gan gynnwys cyfraniadau mewn cyfnodolion a chynadleddau a llawer mwy gan ein hacademyddion a'n hymchwilwyr.

Wrth i chi ymchwilio i bwnc penodol, efallai y gwelwch fod angen ffynonellau y tu allan i Met Caerdydd. Mae'r Llyfrgell yn cynnig Gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar ddeunydd o lyfrgelloedd eraill, gweler ein canllaw llawn gwybodaeth i fenthyciadau rhwng llyfrgelloedd.

Cronfeydd Data A-Y

Mae ein Cronfeydd Data A-Y yn cynnwys rhestr o’n holl danysgrifiadau i gronfeydd data. Drwy ddefnyddio cronfeydd data gall defnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth o wahanol fathau a fformatau. Delweddau, llyfrau sain, sgyrsiau, rhaglenni teledu, ystadegau, adroddiadau marchnad, Safonau Prydeinig, adroddiadau ariannol, papurau newydd, a llawer mwy.

Archwiliwch y casgliad cyfan o fwy na 100 o gronfeydd data wedi’u rhestru yn nhrefn y wyddor. Fel arall, defnyddiwch y cwymplenni Pynciau neu Ysgolion (ger brig y dudalen) i weld cronfeydd data sy'n berthnasol i'ch cwrs. Byddwch hefyd yn gweld treialon newydd, a chronfeydd data newydd a phoblogaidd (ar y dde i'r dudalen). Rydym yn croesawu unrhyw adborth am ein treialon. Cofiwch fod cronfeydd data yn cael eu darparu at ddefnydd addysgol yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r Cronfeydd Data A-Y, gweler ein canllaw.

Canllawiau Pwnc

Mae Canllawiau Pwnc wedi'u cynllunio i'ch rhoi ar ben ffordd wrth ddod o hyd i gronfeydd data ac adnoddau sy'n berthnasol i'ch Ysgol a'ch cyrsiau penodol chi. Nid yw’r Canllawiau Pwnc yn gynhwysfawr – dim ond y deunyddiau allweddol ydyn nhw y mae’n rhaid ichi ddod yn gyfarwydd â nhw.

E-Gyfnodolion

Mae cyfnodolion academaidd wedi'u hanelu at gynulleidfa academaidd, a dyma lle byddwch chi'n dod o hyd i'r ymchwil mwyaf diweddar yn eich maes.  Mae mwyafrif cyfnodolion Met Caerdydd ar gael yn electronig yn unig, naill ai trwy ChwilioMet, or you can look for individual titles in the Chwiliad Cyfnodolion, neu BrowZine.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i chwilio am a chyrchu e-gyfnodolion, gweler y Canllaw ChwilioMet.

E-Lyfrau

Mae E-lyfrau yn lyfrau academaidd, fel y rhai ar restrau darllen eich cwrs, sydd ar gael mewn fformat electronig. Gallwch eu darllen ar-lein gan ddefnyddio e-ddarllenydd, mewn porwr, neu gyda meddalwedd darllen arall ar eich cyfrifiadur.

Mae e-lyfrau yn rai y gallwch eu chwilio ac yn hawdd eu cyrchu. Gellir gwneud defnydd cyfyngedig o’r e-lyfrau, megis cyfnodau benthyca lawrlwytho a’r nifer y gellir eu copïo, a bennir gan y cyhoeddwr.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i chwilio am a defnyddio e-lyfrau, gweler ein canllaw ChwilioMet.

Estyniadau’r Porwr

Trwy ddefnyddio estyniadau yn eich porwr arferol, gallwch ddod o hyd i gasgliadau digidol y llyfrgell heb fod angen mynd i ChwilioMet yn gyntaf. Trowch ein ategion ymlaen heddiw, chwiliwch am E-lyfrau ac erthyglau a mwynhewch fynediad di-dor i gynnwys academaidd rhagorol. Darllenwch fwy yn ein canllaw i estyniadau porwr.

BrowZine

Mae BrowZine, sydd ar gael fel ap symudol (ar gyfer Android ac iOS) neu yn eich porwr, yn un ffordd o ddarganfod, cyrchu a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr e-Gyfnodolion sydd ar gael gan Met Caerdydd. Darllenwch fwy yn ein canllaw i BrowZine.

Angen Cymorth?

Yn syml, Cysylltwch â Ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.