Unrhyw eiriau a ddefnyddiwch i chwilio unrhyw wefan neu beiriant chwilio, er enghraifft ChwilioMet neu Gronfeydd Data, i ddod o hyd i adnoddau neu wybodaeth ar bwnc penodol.
GWELER HEFYD: Geiriau allweddol
Mae testun llawn dogfen ar gael i chi ei ddarllen. Yn aml, defnyddir y term mewn cronfeydd data i nodi bod erthygl lawn mewn cyfnodolyn ar gael i chi ei darllen ar-lein.
Yn yr iaith Saesneg, dyma ffordd o restru geiriau yn y drefn ganlynol: A, B, C, ayyb. Weithiau gelwir y drefn hon yn A i Y neu AY neu ABC. Er enghraifft, mae ein Cronfeydd Data A-Y yn defnyddio'r drefn hon ar gyfer rhestru cronfeydd data.