Dyfynnu’n gywir! - Mae cywirdeb academaidd yn gonglfaen y byd academaidd ac fe'i cedwir trwy briodoli ffynonellau eich dysgu i'w hawduron gwreiddiol o fewn ysgrifennu academaidd.
Defnyddiwch y canllaw hwn a’r cynnwys ynddo i ddeall pam, pryd a sut i ddyfynnu a chyfeirio at y ffynonellau sydd wedi dylanwadu ar eich meddwl a’ch dadl academaidd.
Ymwadiad byr: mae’r adnoddau ar y dudalen hon wedi cael eu creu gan sefydliadau ac unigolion y tu allan i Met Caerdydd ac nid yw’r wybodaeth a chyngor penodol a roddir, yn enwedig o ran polisïau, gwasanaethau, darpariaeth ac arferion prifysgolion eraill yn cyfeirio at rai Met Caerdydd. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â Lawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarllen y polisïau, prosesau a gweithdrefnau perthnasol sy'n berthnasol i fyfyrwyr Met Caerdydd pe bai angen.
Cite them Right - Mae'r gronfa ddata hon yn ffynhonnell hynod werthfawr ar gyfer darganfod a chadarnhau fformatau dyfynnu a chyfeirio ar gyfer amrywiaeth enfawr o fathau cyffredin ac aneglur o ffynonellau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) print, digidol, delwedd, gwrthrychau ffisegol a ffynonellau sain a gweledol.
Referencing and academic integrity | University of Sussex
How to Use Sources - Referencing Sources and Avoiding Plagiarism | Trent University, Canada
Referencing | Newcastle University
Why and when to reference | University of Leeds
Zotero Download a Zotero Support Documentation - Mae Zotero yn feddalwedd ffynhonnell agored rheoli cyfeiriadau rhad ac am ddim. Defnyddiwch y dolenni hyn i gael mynediad at y ffeil gosod Zotero ddiweddaraf a'r canllawiau i ddefnyddwyr cysylltiedig sy'n mynd i'r afael â sut i osod a defnyddio’r feddalwedd yn ogystal â rheoli’r llyfrgell. Sylwch ei fod hefyd yn hygyrch trwy AppsAnywhere Met Caerdydd.
5 Steps to Using Zotero - Zotero - Guides at Milner Library, Illinois State University - Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg cyflym o'r 5 cam angenrheidiol sydd angen i chi eu dilyn i ddefnyddio’r meddalwedd rheoli cyfeiriadau ffynhonnell agored, Zotero.
EndNote - Cliciwch yma am dudalennau cymorth EndNote. Sylwch, fel myfyriwr Met Caerdydd mae gennych fynediad i fersiwn trwyddedig o'r meddalwedd rheoli cyfeiriadau masnachol EndNote, (fersiwn EndNote 20.6 ar hyn o bryd), gallwch ei osod trwy AppsAnywhere Met Caerdydd.