O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd defnyddwyr llyfrgell yn cael problemau wrth gyrchu cynnwys ar-lein. Mae'r dudalen hon yn mynd i'r afael â materion cyffredin y mae staff a myfyrwyr yn eu hwynebu wrth ddefnyddio adnoddau electronig y llyfrgell ac yn darparu awgrymiadau ar sut i ddatrys problemau sylfaenol i helpu i ddatrys y mater.
Os nad ydych chi’n cael eich dilysu fel defnyddiwr Met Caerdydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at gynnwys wedi’i danysgrifio. Dylech bob amser gael mynediad at ein hadnoddau drwy ChwilioMet neu’r Cronfeydd Data A-Y er mwyn sicrhau eich bod wedi cael eich dilysu’n gywir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi wrth gyrchu drwy ChwilioMet. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Defnyddio ChwilioMet.
Mae’n bosib y gallwch ddilysu'n uniongyrchol ar gronfa ddata neu wefan cyhoeddwr gan ddefnyddio'r mewngofnodi sefydliadol. Chwiliwch am yr adran mewngofnodi a dod o hyd i opsiwn wedi'i labelu 'Institution Login', 'Sign in with your Institution', neu rywbeth tebyg.
Dewiswch neu nodwch Cardiff Metropolitan University a dylech gael eich annog i fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.
Fel arfer, gallwch ddweud a ydych wedi mewngofnodi drwy'r llyfrgell pan welwch logo Met Caerdydd neu neges fel 'Access provided by Cardiff Metropolitan University.'
Mae rhai o’r adnoddau rydym yn tanysgrifio iddynt yn gofyn am gofrestriad defnyddiwr unigol neu dim ond gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw y gellir eu cyrchu. Cyfeiriwch at restr Cronfeydd Data A-Y neu’r cofnod ar ChwilioMet am unrhyw fanylion cofrestru neu fewngofnodi ychwanegol.
Mae rhai cronfeydd data yn gweithio'n well ar borwyr penodol. I brofi a yw'r gwall mynediad yn cael ei achosi gan y porwr rydych chi'n ei ddefnyddio, ceisiwch gyrchu'r adnodd mewn porwr gwahanol. Er enghraifft, os na allwch gysylltu â'r adnodd drwy ddefnyddio Edge, ceisiwch gyrchu o Chrome i weld a yw newid eich porwr yn gwneud gwahaniaeth. Gwiriwch eich bod yn defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'ch porwr gwe.
Gallwch hefyd geisio agor ffenest porwr preifat / anhysbys. Ar gyfer Firefox, gallwch ddefnyddio’r byrlwybr bysellfwrdd: Ctrl+Shift+P. Os ydych yn defnyddio Chrome, Edge a Safari defnyddiwch y byrlwybr: Ctrl+Shift+N.
Gall cwcis a data storfa weithiau ymyrryd â mynediad at adnoddau. Gall clirio cwcis a storfa ddatrys y broblem yn aml.
I glirio cwcis a storfa:
Microsoft Edge / Google Chrome / Firefox:
Gwasgwch Ctrl+Shift+Delete. Bydd hyn yn agor ffenestr naidlen lle gallwch ddileu’ch cwcis a’ch storfa.
Safari:
Os gallwch fewngofnodi i system arall, megis Moodle, mae’n golygu mae’n fater sy’n ymwneud â'ch cyfrif llyfrgell neu ChwilioMet, dylech gysylltu â'r llyfrgell am gymorth. Os na allwch fewngofnodi i adnoddau eraill Met Caerdydd sydd wedi'u dilysu gan TG, yna mae'n debygol bod problem gyda'ch cyfrif TG a dylech gysylltu â Desg Gymorth TG.
Gwiriwch fod llyfrgell Met Caerdydd yn tanysgrifio i'r gronfa ddata ac, os felly, bod gennym fynediad i'r eitem benodol rydych chi'n chwilio amdani. Os nad yw'r Llyfrgell yn tanysgrifio i'r cylchgrawn, cronfa ddata neu e-lyfr penodol, yna ni fyddwch yn gallu cael mynediad. Gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o'n cynnwys tanysgrifiedig ar ChwilioMet, felly bydd chwilio yno yn eich helpu i benderfynu a oes gennym fynediad testun llawn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllaw Defnyddio ChwilioMet. Os oes angen mynediad at adnodd nad ydym yn tanysgrifio iddo, gallwch osod cais am fenthyg rhwng llyfrgelloedd neu gais am brynu.
Nid yw tanysgrifiadau cyfnodolion bob amser yn rhoi mynediad testun llawn i erthyglau o'r holl flynyddoedd sydd ar gael. Mae’n bosib na fydd deunydd archif hŷn ar gael neu mae’ bosib y bydd embargo ar y materion diweddaraf. Wrth gyrchu drwy ChwilioMet neu Chwilio’r Cyfnodolion, dangosir sylw dyddiad yn y cofnod ar gyfer pob cyfnodolyn.
Mae gan lawer o'n e-lyfrau drwydded un defnyddiwr, sy'n golygu mai dim ond un person y gall eu cyrchu ar y tro. Os na allwch gael mynediad at e-lyfr oherwydd bod terfyn y drwydded wedi'i gyrraedd, edrychwch ar dudalen canlyniadau ChwilioMet rhag ofn bod gennym ddolenni i ddarparwyr eraill. Mae’n bosib na fyddwch yn gallu cael mynediad iddo ar unwaith, mae rhai darparwyr yn cynnig system archebu/ciwio a fydd yn eich hysbysu pan fydd yr e-lyfr ar gael.
Gwiriwch y Cronfeydd Data A-Z, i weld a oes unrhyw broblemau parhaus neu gynnal a chadw gyda’r gronfa ddata penodol. Os yw’n broblem barhaus neu’n eang, byddwn fel arfer yn postio diweddariad ar haf gwefan y llyfrgell.
Os nad ydych yn gallu cyrchu’r adnodd ar ôl rhoi cynnig ar yr opsiynau hyn, cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth ganlynol: