Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Cronfeydd Data

Cronfeydd Data

Mae Llyfrgell Met Caerdydd yn tanysgrifio i gynhyrchion gwybodaeth amrywiol sy'n cynnwys adnoddau llyfryddiaethol i gefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil Cymuned Met Caerdydd. Gall defnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth o wahanol fathau a fformatau. Mae rhai cynhyrchion yn darparu mynediad testun llawn; mae eraill yn cynnig crynodebau neu wybodaeth lyfryddiaethol. Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o gronfeydd data yn ChwilioMet. Fodd bynnag, mae yna rai gwefannau celf, ystadegau a setiau gwybodaeth gyfreithiol, nad ydynt ar gael yn ChwilioMet. Gellir dod o hyd i'r cronfeydd data hyn yn y Cronfeydd Data A-Y a gellir eu chwilio yn ôl teitl, pwnc neu ysgol. Mae'r holl wybodaeth a chynnwys o'r Cronfeydd Data A i Y ar gael trwy fynediad electronig o bell.

Edrychwch ar ein canllaw, Defnyddio Cronfeydd Data A-Y, am wybodaeth ar sut i lywio'r Cronfeydd Data A-Y.