Rydym yn cefnogi pob agwedd ar ddefnyddio TG yn Met Caerdydd. Rydym yn delio â materion cyfrinair a phroblemau cyfrifiadurol; gallwn helpu gyda' wi-fi a rhoi cyngor ar brynu caledwedd TG a meddalwedd. Gallwch ein ffonio neu’n e-bostio Gallwch ein ffonio neu’n e-bostio ni ar gyfer unrhyw ymholiad TG. Fel arall gallwch chi ymweld â'r desgiau cymorth technoleg yn y canolfannau dysgu.
Ceir gwybodaeth am ein horiau agor ar ein tudalen oriau agor.
Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o ffyrdd i staff a myfyrwyr gael mynediad at e-bost. Am ragor o wybodaeth ewch i'n canllaw fflach e-bost
Mae Met Caerdydd yn cynnig cysylltiad Wi-Fi trwy Eduroam. Am ragor o wybodaeth ewch i'n canllaw fflachia wifi
Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o opsiynau ar gyfer prynu meddalwedd a chaledwedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r Desg Gymorth TG.
Ceir gwybodaeth am statws gwasanaeth ar gyfer Systemau TG ar eu tudalen Statws Gwasanaeth penodedig.
Y Ddesg Gymorth TG yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw fater neu ymholiad sy'n gysylltiedig â TG. Rydym yn darparu cefnogaeth uniongyrchol a chyngor TG cyffredinol i fyfyrwyr a staff ledled y Brifysgol.
Ein nod yw datrys eich ymholiad cyn gynted â phosibl trwy naill ai gysylltu o bell â'ch peiriant i ddatrys y mater, gan roi'r wybodaeth berthnasol i chi sydd ei hangen neu drosglwyddo'r alwad i un o'n Cynghorwyr TG a fydd yn ymweld â chi'n uniongyrchol.
Mae pob galwad yn cael ei rheoli o fewn ein system Desg Wasanaeth a byddant yn cael eu blaenoriaethu yn ôl natur y mater.
Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Desg Gymorth TG.
Amcanion Diogelwch TG yn Met Caerdydd yw cynnal argaeledd gwasanaethau TG, diogelu cyfrinachedd a chywirdeb adnoddau gwybodaeth a sicrhau bod y defnydd o gyfrifiaduron yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.
Mae rhan bwysig o hyn yn gysylltiedig â'r mesurau a roddwyd ar waith gan y Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth i amddiffyn adnoddau gwybodaeth. Mae llawer o'r rhain yn digwydd yn y cefndir felly efallai nad fyddwch chi’n ymwybodol eu bod nhw'n digwydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Diogelwch TG
Gallwch newid eich cyfrinair Met Caerdydd drwy’r wefan Rheoli Cyfrinair Hunanwasanaeth. Cliciwch ar y ddolen isod:
Os ydych chi'n cael trafferth mynd i’r wefan Rheoli Cyfrinair Hunanwasanaeth, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG ar 02920 41 7000 (est. 7000) neu drwy e-bost: ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk.
Mae Met Caerdydd yn darparu gwasanaeth Benthyciad Gliniadur. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Benthyciadau Gliniaduron.