Gofyn i'r llyfrgell, trwy ChwilioMet, i gadw llyfr i chi ei gasglu yn ddiweddarach neu brynu/ffynhonnell o lyfr nad yw yn y Casgliad.
GWELER HEFYD: Benthyciad Rhwng Llyfrgelloedd; Cais Prynu (gweler isod); Archebu
Os oes angen adnodd penodol arnoch ar gyfer eich astudiaethau neu ymchwil nad yw ar gael ar hyn o bryd, naill ai trwom ni neu drwy Fenthyciad Rhwng Llyfrgelloedd, gallwch ofyn i'r llyfrgell brynu copi gan ddefnyddio'r ffurflen Cais am Brynu. Mae dolen i'r ffurflen ar frig hafan ChwilioMet.
Canllawiau i'ch rhoi ar ben ffordd i ddod o hyd i adnoddau gwybodaeth a llyfrgell sy'n berthnasol i'ch cwrs.
Yr adeilad ar bob campws sy'n gartref i leoedd astudio, y Llyfrgell a'r ystafell TG/Desg Gymorth.
Yr holl lyfrau, cyfnodolion, erthyglau, ac adnoddau eraill a gasglwyd at ei gilydd at ddibenion astudio a gwneud gwaith ymchwil. Mae gan Met Caerdydd brif gasgliad (y rhan fwyaf o'r hyn sydd i’w gweld ar silffoedd y llyfrgell, neu sydd ar gael ar-lein) ond mae ganddi hefyd gasgliadau arbenigol llai fel y Casgliad Cymreig, neu'r Casgliad Ymarfer Clinigol. Gall hefyd gyfeirio at fathau arbennig iawn o lyfrau neu gyfnodolion neu weithiau celf nad ydynt efallai ar silffoedd y llyfrgell gan eu bod yn werthfawr neu'n unigryw. Cedwir y casgliadau llai hyn ar wahan.
Ystod o ddeunydd sydd o ddiddordeb i'r Brifysgol a'r gymuned ehangach. Cedwir y stoc hon ar wahân i'r prif gasgliadau o lyfrau a chyfnodolion ac mae'n cynnwys llyfrau Artistiaid, Casgliad Cerameg, Casgliad Iaith Gymraeg, Casgliad Profiad Ysgol, Casgliad Sleidiau a Chasgliad Ymarfer Clinigol.
Gweler y diffiniad o ChwilioMet.
Cite Them Right yw canllaw dewisol Met Caerdydd ar gyfer cyfeirnodi’n gywir, ac mae ar gael fel llyfr yn y llyfrgell ac fel gwefan y gellir ei chyrchu trwy’r Cronfeydd Data A-Y. Gall Cite Them Right y esbonio sut i gydnabod unrhyw ffynhonnell wybodaeth yr ydych wedi cyfeirio ati yn eich aseiniad. Gelwir y weithred hon o gydnabod gwaith eraill weithiau yn gydnabyddiaethau, dyfynnu neu gyfeirnodi; mae'n sgil sylfaenol yn mae’n rhaid i bob myfyriwr ei ddysgu.
Gwefan ar gyfer archebu ystafelloedd astudio, offer a chyfleusterau ym Met Caerdydd. Rhoddir cyfarwyddiadau pellach ar ddrysau ystafelloedd astudiomLlyfrgelloedd Llandaf a Chyncoed, ac ar wefan y llyfrgell.
Gall ‘copi’ fod â dau ystyr. Yn gyntaf, gallai copi gyfeirio at lungopi neu gopi papur wedi’i argraffu. Yn ail, gall copi gyfeirio at un copi o lyfr sydd ar gael yn y llyfrgell.
Mae cronfa ddata yn gasgliad ar-lein o lawer o wahanol fathau o wybodaeth. Gallai gwybodaeth o'r fath fod yn bapurau newydd, erthyglau cyfnodolion, E-lyfrau, lluniau, a llawer mwy. Gellir dod o hyd i'n cronfeydd data yn y Cronfeydd Data A-Y, a gyrchir o ddewislen uchaf ChwilioMet neu wefan y llyfrgell. Mae cronfeydd data unigol yn aml yn edrych ar un pwnc a allai fod yn berthnasol i'ch gradd. Gweler ein Canllawiau Pwnc am ragor o wybodaeth am gronfeydd data penodol ar gyfer eich gradd, neu cysylltwch ag un o’m Llyfrgellwyr Academaidd.
GWELER HEFYD: Cronfeydd data AY (gweler isod)
Rhestr o gronfeydd data Met Caerdydd yn nhrefn yr wyddor.
GWELER HEFYD: Cronfa Ddata (gweler uchod)
Crynodeb byr o eitem o ymchwil academaidd, fel erthygl mewn cyfnodolyn neu lyfr.
Pan fyddwch yn dyfynnu, yn aralleirio neu'n crynhoi gwaith neu syniadau rhywun neu'n cyfeirio at y rhain, bydd angen i chi gynnwys cydnadbyddiaethau. Rhoddir cydnabyddiaethau yn y testun, ger y ffynhonnell a ddefnyddiwyd. Ar ddiwedd y gwaith, mae'r cydnabyddiaethau'n cael eu crynhoi mewn rhestr Cyfeiriadau.
GWELER HEFYD: Cite Them Right (gweler uchod); Cyfeirnodi (gweler isod); Rheolwr Cyfeiriadau
Llyfr neu gyfnodolyn na ellir ei fenthyg o'r Llyfrgell, a ddefnyddir yn y llyfrgell yn unig. Ar y silffoedd mae'r llyfrau hyn bob amser naill ai wedi'u labelu fel 'cyfeirnod yn unig' neu mae ganddynt sticeri coch. Yn ChwilioMet rhoddir eu lleoliad fel 'Prif Silffoedd (cyfeiriad)' ac fe'u labelir fel 'Ni chaniateir ei fenthyca'.
Cyfeirinodi yw'r arfer o gydnabod ffynonellau tystiolaeth wrth i chi eu defnyddio yn eich gwaith.
GWELER HEFYD: Dyfynnu
Y cynfod y gellir benthyca eitem.
GWELER HEFYD: Adnewyddu Awtomatig
Cyhoeddiad academaidd sy'n gasgliad o erthyglau. Yn y bifysgol, cyfnodolion academaidd yw'r brif ffordd y mae academyddion yn cyhoeddi eu hymchwil. Wrth ddefnyddio cyfnodolion yn eich gwaith, mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Gallwch ddod o hyd i gyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid yn Chwiliad Cyfnodolyn ChwiloMet a thrwy BrowZine.
Mae myfyrwyr a staff Met Caerdydd yn cael cyfrif llyfrgell yn awtomatig. Mae'r cyfrif hwn yn gofnod o'r hyn rydych wedi'i fenthyg neu ei archebu. Gallwch weld eich cyfrif llyfrgell, a elwir yn 'Fy Nghyfrif Llyfrgell', ar ChwilioMet trwy glicio Mewngofnodi ar ochr dde uchaf hafan ChwilioMet.
GWELER HEFYD: ChwilioMet
Cyhoeddiad unigol o gyfnodolyn neu gylchgrawn.
GWELER HEFYD: Cyfnodolyn (uchod)
Graddedigion neu gyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Bydd cofrestru i fod yn gyn-fyfyriwr yn rhoi'r hawl i chi gael rhai buddion. Gallwch barhau i ddefnyddio'r llyfrgell fel benthyciwr cymunedol.
Trefniant rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Phrifysgol De Cymru (PDC) sy’n caniatáu i israddedigion amser llawn un brifysgol gofrestru i ddefnyddio llyfrgelloedd y tair arall.
Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i ymwelwyr â champysau'r prifysgolion gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau electronig. I gael mynediad i'r gwasanaeth hwn, ewch ag ID dilys i ddesg gymorth y Llyfrgell. Rydym yn argymell cysylltu â ni ymlaen llaw i gadarnhau bod y gwasanaeth ar gael.