Sticer a geir fel arfer ar waelod meingefn llyfr, ar ei glawr allanol. Mae'r sticer hwn yn dweud wrthych ble y gellir dod o hyd i'r eitem ar y silffoedd, ac ym Met Caerdydd mae'n dilyn system Degol Dewey .
GWELER HEFYD: Rhif Dewey
Loceri clyfar hunanwasanaeth sy’n cynnwys gliniaduron y gellir eu benthyca am gyfnod o hyd at 24 awr. Mae loceri Lapsafe ar gael yn ardaloedd 24 awr y ddwy Ganolfan Ddysgu.
GWELER HEFYD: Benthyciadau Gliniaduron am gyfnodau benthyca hirach.
Rhyngwyneb rhestr ddarllen ar-lein yw Leganto sy'n eich galluogi i weld y gwaith darllen y mae eich darlithydd wedi'i osod ar gyfer modiwl, cadw golwg ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen, a 'hoffi' eitemau i greu casgliad o adnoddau. Gallwch ddod o hyd i Restrau Darllen Leganto eich cwrs yn Moodle ac ym mar dewislen uchaf ChwilioMet.
Estyniad porwr sy'n galluogi mynediad un clic i erthyglau ac e-lyfrau y mae'r llyfrgell wedi tanysgrifio iddynt a rhai mynediad agored.