Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Hygyrchedd E-lyfrau

Mae e-lyfrau yn darparu amrywiaeth o offer a swyddogaethau hygyrchedd. Yma gallwch ddod o hyd i drosolwg o nodweddion hygyrchedd ein casgliadau a sut y gallwch fanteisio ar y rhain i wella eich profiad darllen. 

Hygyrchedd y platfform e-lyfrau

Mae llawer o lblatfformau e-lyfrau yn darparu ystod o opsiynau hygyrchedd wedi’u mewnosod, fel eich galluogi i newid maint y testun, cefndir a lliw y ffont neu eu haddasu i'w defnyddio wrth ddarllen sgrinau neu feddalwedd darllen yn uchel. Isod mae gwybodaeth am y nodweddion hygyrchedd sydd wedi'u cynnwys yn rhai o'n cronfeydd data e-lyfrau mwyaf poblogaidd, yn ogystal â'u datganiadau hygyrchedd.

BibliU Datganiad Hygyrchedd

  • Chwilio testun llawn ar gael
  • Read aloud - nodwedd testun-i-leferydd wedi'i fewnosod
  • Chwyddo - gallwch newid maint y testun, ffont a bylchau’r testun gan ddefnyddio dewislen Opsiynau Arddangos wedi’i fewnosod
  • Ail-ffrydio testun - mae cynnwys yn ail-ffrydio pan gaiff ei chwyddo
  • Cefndir a lliw y ffont - gallwch newid cefndir y dudalen a lliwiau’r ffont

Cambridge Core Datganiad Hygyrchedd

  • Lawrlwytho testunau llawn - lawrlwythiadau llyfrau cyfan a phennodau fel dogfennau PDF
  • Chwilio testunau llawn ar gael
  • Chwyddo hyd at 500% drwy ail-ffrydio’r testun gan ddefnyddio opsiwn plws a minws ar y porwr

Ebook Central Datganiad Hygyrchedd

  • Chwilio testunau llawn ar gael – gallwch chwilio am eiriau allweddol ac ymadroddion gan ddefnyddio'r blwch chwilio wedi'i labelu "Search within book"
  • Chwyddo - chwyddo hyd at 300% gan ddefnyddio'r botymau plws a minws yn y rhyngwyneb darllenydd ar-lein
  • Ffont testunau - gallwch newid ffurfdeip y wefan a ffont e-lyfr testun llawn i OpenDyslexic yn y ddewislen User Profile

EBSCO eBook Collection Datganiad Hygyrchedd

  • Chwiliad testun llawn ar gael - gan ddefnyddio'r nodwedd "Search within book"
  • Chwyddo - chwyddo hyd at 200% (dim ail-ffrydio yn y porwr)
  • Ail-ffrydio testun – mae dynnwys EPUB yn ail-ffrydio yn y darllenydd ar-lein

O'Reilly Datganiad Hygyrchedd

  • Addasu maint y ffont, cynllun lliw, a dewisiadau teipograffig eraill o'r ddewislen Reader Settings yr e-lyfr
  • Mae chwaraewr fideo yn cefnogi capsiynau caeedig a gellir addasu cyflymder y chwarae
  • Chwyddo hyd at 500% gdrwy ail-ffrydio’rtestun gan ddefnyddio opsiwn plws a minws ar y porwr
  • Cefndir a lliw y ffont - gallwch newid cefndir y dudalen a lliwiau’r ffont i un o saith lliw gwahanol sy'n ystyriol o ddyslecsia

VLeBooks Datganiad Hygyrchedd

  • Read aloud - darllenydd wedi adeiladu testun i leferydd
  • Chwilio testun llawn ar gael
  • Chwyddo - 20 lefel chwyddo gan ddefnyddio'r swyddogaeth chwyddo adeiledig yn
  • Cefndir a lliw ffont - gallwch newid cefndir y dudalen a lliwiau ffont i un o saith lliw gwahanol sy'n ystyriol o ddyslecsia

Lawrlwytho e-lyfrau

Mae'r rhan fwyaf o e-lyfrau yn caniatáu ichi lawrlwytho pennod neu'r llyfr cyfan. Am fwy o wybodaeth ar sut i lawrlwytho e-lyfrau, gweler ein canllaw cam wrth gam

Gweler isod am fanylion am sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd penodau ac e-lyfrau, pan gânt eu lawrlwytho gydag Adobe Acrobat neu Adobe Digital Editions.

Nodweddion hygyrchedd Adobe Acrobat

Os gallwch lawrlwytho e-lyfr neu bennod fel PDF, mae'r nodweddion canlynol ar gael yn Adobe Reader:

Read Out Loud

  • I actifadu, ewch i'r Menu a chliciwch View, yna Read Out Loud
  • Cliciwch Activate Read Out Loud
  • Ewch i'r ddewislen View a chliciwch ar Read Out Loud eto
  • Dewiswch Read this page only neu Read to end document
  • I stopio, ewch i'r ddewislen View yna Read Out Loud eto a dewis Pause neu Stop

Gallwch newid y llais diofyn ar Read Out Loud drwy ddilyn y camau canlynol:

  • Cliciwch ar Menu ac yna Preferences
  • O danCategories, cliciwch ar Reading ac ewch i'r Read Out Loud Options
  • Dad-diciwch Use default speecha dewiswch y llais yr hoffech chi ei gael
  • Newid y dwymp flwch i godi neu ostwng traw y llais
  • Rhowch rif yn y blwch Words Per Minute os ydych chi am newid cyflymder yr adrodd.
  • Cliciwch OK.

Troi Ail-Ffrydio Testun Ymlaen

Pan fyddwch yn chwyddo dogfen PDF bydd y testun yn rhedeg oddi ar ochr y sgrin. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sgrolio i'r chwith a'r dde i ddarllen pob llinell destun, gan ei gwneud hi'n anodd darllen PDFs. Mae ail-ffrydio yn trosi'r testun yn un golofn fel nad oes angen sgrolio pan fyddwch yn chwyddo:

  • Cliciwch ar Menu ac yna Preferences
  • O dan Categories, cliciwch ar Accessibility
  • Ticiwch Always use Zoom Setting a newid y gwympflwch i Reflow
  • Cliciwch OK.
  • Caewch ac ailagorwch Adobe

Newid cefndir tudalen neu liw testun

  • Cliciwch ar Menu ac yna Preferences
  • O dan Categories, cliciwch ar Accessibility
  • Ticiwch Replace Document Colours
  • Dewiswch Custom Colour
  • Dewiswch Page Background a Document Text colours
  • Cliciwch OK.

Adobe Digital Editions

Mae Adobe Digital Editions yn caniatáu ichi lawrlwytho e-lyfrau mewn fformat PDF ac EPUB i'w defnyddio all-lein. Nid oes gan y feddalwedd hon ei nodweddion hygyrchedd ei hun, a gall defnyddwyr amlygu a llyfrnodi testun yn ogystal ag addasu maint ffont a chwyddo yn unig. Yn lle hynny, mae Digital Editions yn defnyddio'r nodweddion hygyrchedd ar systemau gweithredu Windows a Mac i ddarparu hygyrchedd, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer dulliau cyferbyniad uchel a chefnogaeth ar gyfer newid testun llyfrau. Mae Digital Editions hefyd yn cynnig gwell cymorth bysellfwrdd (gyda llywio tabiau, llwybrau byr bysellfwrdd, a chefnogaeth cyferbyniad uchel). Gellir ei ddefnyddio hefyd gyda darllenwyr sgrin (testun-i-leferydd), gan gynnwys JAWS a NVDA ar Windows a VoiceOver ar Mac.

Wrth wylio e-lyfrau fformat EPUB wedi'u diogelu yn Adobe Digital Editions, gall defnyddwyr ddewis dangos neu guddio rhifau tudalennau yn y testun llawn. Mae'r tudalennau hyn yn cyfateb i'r rhai mewn fersiynau print o'r un llyfr. Gellir dangos rhifau tudalen yn y ffordd ganlynol:

  • I ddangos rhifau tudalennau, ewch yn gyntaf i'r ddewislen Reading
  • Ar waelod y ddewislen, dewiswch Choose Page Numbers

Mae dolenni a chyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho Adobe Digital Editions ar gael ar wefan Adobe