Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Benthyca a Gofyn

Beth ydyn ni'n ei gynnig?

Mae Llyfrgell y Brifysgol yn cymryd rhan mewn dau gynllun benthyca allanol sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr a staff Met Caerdydd i gasgliadau llyfrgelloedd sefydliadau eraill: cynllun Mynediad SCONUL a chynllun benthyca cyfatebol gyda thair prifysgol leol arall.

Cynigir y ddau gynllun am ddim.

Ein nod yw prosesu ceisiadau newydd o fewn un wythnos waith. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn hysbysiad e-bost ynghylch statws eu cais.

Cynllun Mynediad i SCONUL

Mae Mynediad SCONUL Access yn galluogi defnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion i gael mynediad i fannau astudio neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill o fewn y cynllun.

Mae ein holl fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr yn gymwys i wneud cais am Fynediad i SCONUL. I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau gwneud cais, ewch i wefan SCONUL.

Anfonir e-bost at ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys eu Band SCONUL (A, B, C neu R), dyddiad dod a’u mynediad i ben a chyfarwyddiadau ar y camau dilynol.

Gall ymgeiswyr ddefnyddio'r un e-bost cadarnhau i gofrestru gyda sefydliadau eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio'r gofynion cofrestru’r sefydliad perthnasol.

Mae breintiau llyfrgell yn amrywio rhwng sefydliadau ac mae myfyrwyr israddedig amser llawn fel arfer â mynediad at ddibenion cyfeirio’n unig.

Cynllun Benthyca Cyfatebol gyda phrifysgolion lleol

Mae gan Met Caerdydd Gynllun Benthyca Cyfatebol gyda Phrifysgol Caerdydd,Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Mae'r cynllun hwn yn galluogi myfyrwyr israddedig llawn amser i ymuno â'r llyfrgell yn y sefydliadau sy'n cymryd rhan, i gael mynediad i'w gofodau astudio ac i fenthyg hyd at ddwy eitem.

I wneud cais, llenwch ein ffurflen gais ar-lein.

Anfonir e-bost at ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys cyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf.

Mae aelodaeth yn para tan ddiwedd mis Mai y flwyddyn academaidd gyfredol a gellir ei hadnewyddu ar gyfer y flwyddyn ganlynol.