Figshare yw ein cadwrfa ymchwil - mae'n llwyfan ar gyfer rhannu unrhyw fath o allbwn ymchwil neu waith. gallwch gysylltu â ni i ofyn mwy am y gadwrfa neu ofyn am ychydig o hyfforddiant yn figshare@cardiffmet.ac.uk. Pure yw'r system gwybodaeth ymchwil gyfredol (CRIS) ym Met Caerdydd - cysylltwch â pure@cardiffmet.ac.uk
Mae Figshare yn llwyfan i unrhyw aelod o staff, ymchwilydd neu Ymchwilydd Doethurol ym Met Caerdydd rannu unrhyw waith sy'n gysylltiedig ag ymchwil ac unrhyw fath o allbwn ymchwil.
Gallwch rannu ac archifo erthyglau ymchwil, setiau data, cyflwyniadau, posteri ymchwil a fideos ymhlith llawer o fathau eraill o ddeunydd digidol. Gall Figshare arddangos llawer o wahanol fathau o ffeiliau i fod yn uniongyrchol hygyrch yn y porwr ac mae'r platfform yn bodloni safonau hygyrchedd digidol yn llawn.
Mae Figshare yn helpu unrhyw un sy'n gwneud ymchwil i gyflawni llawer o wahanol agweddau ar ofynion a allai fod yn berthnasol i gyllidwyr ymchwil a chanllawiau a pholisi ymchwil Met Caerdydd ei hun.
Mae hyn yn cynnwys gallu cyflawni agweddau ar ymchwil agored a rheoli data ymchwil trwy wneud defnydd llawn o wrthrychau/allbynnau a grëwyd yn ystod cylch bywyd yr ymchwil a ffordd o fathu’n hawdd dynodwyr parhaus (PIDs) ar gyfer gwaith ymchwil.
Mae Figshare yn cynnig swyddogaethau preifat cyhoeddus a diogel i alluogi dewis o ran sut y gellir sicrhau bod gwaith ar gael yn ehangach. Rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant ar sut i wneud y gorau o nodweddion figshare - cysylltwch â figshare@cardiffmet.ac.uk.
Mae Figshare ar gael ar unrhyw borwr a dyfais yn figshare.cardiffmet.ac.uk.
Edrychwch ar ein fideo rhagarweiniol i gael mwy o fanylion am sut i gael mynediad at a chreu cyfrif figshare.
Gall unrhyw un weld y cynnwys sydd ar gael i’r cyhoedd yn figshare – rydym yn darparu casgliadau o waith sy’n ymwneud â meysydd fel Traethodau Ymchwil Doethurol, cynadleddau a digwyddiadau ymchwil a fersiynau mynediad agored o gyhoeddiadau gan awduron Met Caerdydd. Mae'r holl gynnwys cyhoeddus ar figshare hefyd ar gael trwy MetSearch.
Isod mae enghraifft o'r cynnwys sydd ar gael ar hyn o bryd ar figshare!