Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Terminoleg y Llyfrgell

A

Opsiwn yn sgrin canlyniadau chwilio ChwilioMet (ar yr ochr dde) sy'n gadael i chi addasu eich canlyniadau . Gelwir hyn hefyd yn hidlo.

GWELER HEFYD: Hidlo

Ymestyn benthyciad ar ôl y dyddiad dychwelyd gwreiddiol.

GWELER HEFYD: Adnewyddu Awtomatig (isod)

Caiff eitemau ar fenthyciad eu hadnewyddu'n awtomatig, oni bai bod defnyddiwr arall wedi cyflwyno cais am yr eitemau a fenthycwyd gennych neu bod eich cyfrif llyfrgell wedi dod i ben.

Byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost os yw defnyddiwr arall wedi cyflwyno cais am yr eitemau a fenthycwyd gennych. Gallwch gadw'r llyfr tan y dyddiad dychwelyd.

Sylwch nad yw hyn yn cynnwys llyfrau a fenthycwyd trwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd.

Adnoddau sydd ar ffurf electronig, er enghraifft cronfa ddata ar-lein, e-gylchgronau, e-lyfrau a gwefannau.

Dogfen yn crynhoi ac yn pwyso a mesur gwerth unrhyw lenyddiaeth neu ffynonellau eraill y gallech gyfeirio atynt wrth ddatblygu darn o waith academaidd megis traethawd hir. I gael rhagor o wybodaeth am greu Adolygiad_Llenyddiaeth cysylltwch â Llyfrgellydd Academaidd.

Llenyddiaeth neu wybodaeth arall megis astudiaethau gwyddonol sydd wedi'u dilysu gan aelodau o ddisgyblaeth academaidd heblaw'r awdur(on) gwreiddiol. Gellir ymddiried mewn llyfrau a chyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ond rhaid i chi feddwl yn feirniadol am yr hyn a ddarllenwch. Wrth ddefnyddio dyddlyfrau yn eich gwaith, mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid.

Defnyddwyr llyfrgell nad ydynt yn aelod o staff Met Caerdydd neu sydd wedi cofrestru ar gwrs gyda'r Brifysgol.

GWELER HEFYD: Benthyciwr Cymunedol, Benthyca Cilyddol a SCONUL.

Ap llawn nodweddion a gwasanaethau defnyddiol gan gynnwys, e-bost, gwasanaethau llyfrgell, Moodle, mapiau campws, gwasanaethau golchi dillad, canllaw poced, sgwrs fyw, amserlenni bysiau a llawer mwy. Gweler erthygl Halo Gwasanaethau Digidol am ragor o wybodaeth ar sut i lawrlwytho'r ap.

GWELER HEFYD: FyMetCaerdydd.

Gofyn i'r llyfrgell gadw llyfr i chi ei gasglu yn nes ymlaen.

GWELER HEFYD: Cais

Os yw pob copi ffisegol o lyfr allan ar fenthyg, bydd angen i chi glicio ar 'Reserve @ Met Caerdydd' sy'n opsiwn yng nghanlyniadau ChwilioMet o dan 'Get It'. Dyma'r dull o ofyn am y llyfr.

GWELER HEFYD: Cais; Archebu

Mae Arfer Academaidd, a elwir weithiau’n sgiliau academaidd yn cyfeirio at yr ymddygiadau, y galluoedd, y strategaethau a'r prosesau meddwl sy'n eich helpu i wneud y gorau o fod yn fyfyriwr. Mae enghreifftiau’n cynnwys ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol, neu sgiliau cyflwyno.

Llyfr rydych chi wedi ei fenthyg o'r llyfrgell y mae'n rhaid ei ddychwelyd atom. Byddwch yn cael e-bost i'ch cyfrif e-bost myfyriwr yn rhoi gwybod i chi am hyn.

GWELER HEFYD: Adnewyddu_Awtomatig