Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Cyfnodolion ac eGyfnodolion

Ar y dudalen hon:

Mae cyfnodolion yn rhan hanfodol o lenyddiaeth academaidd a byddant yn rhan o'ch astudiaethau yn y brifysgol.

Gall erthyglau mewn cyfnodolyn gael eu cyhoeddi o fewn misoedd, gan ganiatáu i ymchwil a datblygu cyfredol fod ar gael i academyddion a myfyrwyr eu cyrchu a'u defnyddio. Gellir cyhoeddi cyfnodolion, yn wythnosol, yn fisol, yn chwarterol neu'n flynyddol.

Ar hyn o bryd mae gan Lyfrgell Met Caerdydd dros 120 mil o gyfnodolion yn ei chasgliad ar draws pob maes, ac mae bron pob un ohonynt ar gael ar-lein. Gall defnyddwyr hefyd gyrchu cyfnodolion ar y campws. Fodd bynnag, ni ellir benthyg copïau print.

Cyfnodolion Print

Mae cyfnodolion print ar gael yn llyfrgelloedd Campws Cyncoed a Llandaf. Ni ellir benthyg y rhain ond maent ar gael at eich defnydd yn y llyfrgell. Gallwch chwilio a chael mynediad atynt gan ddefnyddio ChwilioMet.

Y ffordd hawsaf o gael mynediad i gyfnodolion print yw trwy chwilio yn ChwilioMet yn ôl pwnc.

I gyfyngu ar ganlyniadau chwilio i gyfnodolyn print sy'n cael ei gadw yn llyfrgelloedd Met Caerdydd, defnyddiwch hidlyddion 'Held by Library' a 'Journals' ar ochr dde'r sgrin canlyniadau chwilio.

Mae rhagor o wybodaeth am chwilio am gyfnodolion ac adnoddau eraill ar gael yn ein canllaw cynhwysfawr Defnyddio ChwilioMet.

eGyfnodolion

Mae Met Caerdydd yn cynnig mynediad i filoedd o e-gyfnodolion o amrywiaeth o gyhoeddwyr a phlatfformau. Gallwch chwilio a chael mynediad atynt gan ddefnyddio ChwilioMet neu eu pori gan ddefnyddio cronfeydd data e-gyfnodolion unigol, sydd i'w gweld wedi'u rhestru yn y Cronfeydd Data A-Z. Mae'r llyfrgell yn tanysgrifio i dros 40 o gasgliadau e-gyfnodolion a chronfeydd data gyda chynnwys e-gyfnodolyn. Gellir chwilio'r Cronfeydd Data A-Z yn ôl 'e-gyfnodolion' am y rhestr lawn.

Y ffordd hawsaf i gael mynediad at erthyglau e-gyfnodol yw drwy chwilio yn ChwilioMet yn ôl teitl, awdur, neu eiriau allweddol.

I gyfyngu ar ganlyniadau chwilio i erthyglau e-gyfnodolion ac neu e-gyfnodolion, defnyddiwch y hidlyddion 'Online Access' ac ‘Articles’ a neu 'Journals' ar ochr dde y sgrin canlyniadau chwilio.

Mae'n bosibl lawrlwytho erthyglau e-gyfnodolion a darllen all-lein ac yn y mwyafrif o achosion gallwch arbed erthygl fel PDF.

Mae rhagor o wybodaeth am chwilio am gyfnodolion ac adnoddau eraill ar gael yn ein canllaw cynhwysfawr Defnyddio ChwilioMet.

Gellir pori e-gyfnodolion hefyd gan ddefnyddio BrowZine, s'yn eich galluogi i gyrchu a phori e-gyfnodolion gan wahanol gyhoeddwyr gan ddefnyddio un rhyngwyneb syml. Nid yw BrowZine yn cymryd lle ChwilioMet. Mae'n un ffordd o gael mynediad i'n e-Gyfnodolion ond nid yw wedi'i gynllunio ar gyfer chwilio manwl neu ymchwil - defnyddiwch MetSearch ar gyfer hynny. Hefyd, nid yw Browzine yn cynnwys ein holl e-Gyfnodolion, dim ond cynnwys mor bell yn ôl â 2005 sydd ar gael. Mae'r un cynnwys, ynghyd â chynnwys hŷn, hefyd ar gael yn y Chwiliad Cyfnodolion. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ChwilioMet, y Chwiliad Cyfnodolion a BrowZine, edrychwch ar ein canllawiau llawn gwybodaeth.

Am gymorth pellach gydag unrhyw un o'r uchod, dewch i sesiynau gweithdy'r Gwasanaethau Llyfrgell y gallwch archebu lle iddynt trwy MetHub. Fel arall, cysylltwch â ni i drefnu sesiwn 1-2-1 gydag un o'n Llyfrgellwyr Academaidd.