Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Darganfod adnoddau

Darganfod a defnyddio ffynonellau

Llwyddo yn y 'gwyddor chwilio' trwy fynd i'r afael â'r offer a'r arferion hanfodol sy'n gysylltiedig â nodi a gwerthuso ffynonellau dysgu allweddol o fewn eich maes disgyblaeth.

Beth mae dod o hyd i ffynonellau a'u defnyddio yn ei olygu

Mae dod o hyd i ffynonellau academaidd addas a'u defnyddio'n effeithiol yn agwedd hanfodol ar brosesau dysgu ac asesu yn y brifysgol. Yn y bôn, y broses o ddod o hyd i ddeunyddiau credadwy a pherthnasol i gefnogi eich dysgu maes pwnc trwy astudio annibynnol a darllen ehangach ac, wrth gwrs, yr ymchwil rydych chi'n ei wneud ac yn ei defnyddio mewn asesiadau modiwlau crynodol a phrosiectau academaidd cyffredinol. Dylech fod yn anelu at sicrhau cywirdeb, dibynadwyedd a dilysrwydd y wybodaeth a ddefnyddir yn y ffynonellau rydych yn eu hadnabod, yn enwedig os byddwch yn eu defnyddio i gefnogi eich dadleuon a'ch casgliadau eich hun yn eich gwaith academaidd.

Er mwyn chwilio a dod o hyd i ddeunyddiau yn effeithiol rhaid i chi feddwl am eich strategaethau a'ch dulliau chwilio eich hun a'r offer digidol rydych chi'n eu defnyddio a fydd yn cynnwys ChwilioMet Met Caerdydd sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i chi i'r casgliadau, y cronfeydd data a'r ystorfeydd y mae'r brifysgol yn tanysgrifio iddynt (ac y mae ffioedd eich cwrs yn mynd tuag atynt).

Mae'n ymarfer datblygu sgiliau a dysgu pwnc gwerthfawr i dreulio peth amser yn gynnar yn eich astudiaethau'n dysgu 'gwyddoniaeth chwilio'. Dysgwch sut i ddefnyddio cronfeydd data i gynnal chwiliadau trylwyr a datblygu eich gallu i nodi adnoddau defnyddiol yn y llyfrgell er mwyn nodi deunyddiau sydd wedi cyfrannu at drafodaeth academaidd gyfredol ac yn cyd-fynd â phwnc eich ymchwil.

Datblygwch eich dealltwriaeth o'r broses adolygu gan gymheiriaid, safonau ysgolheigaidd a pham bod trylwyredd academaidd mor bwysig yn y brifysgol. Mae dod o hyd i'ch ffynonellau yn gam cyntaf pwysig cyn i chi fynd ati i gynnal eich gwerthusiad beirniadol eich hun o'u hygrededd a'u dilysrwydd. Bydd angen i chi ystyried arbenigedd yr awdur, y dyddiad cyhoeddi, dilysrwydd y ffynonellau neu'r methodolegau y maent wedi'u defnyddio, p'un a oes gan y ffynhonnell enw da yn y gymuned academaidd a ph’un a yw'r awdur yn yn ysgrifennu’n wrthrychol ac yn rhydd o unrhyw ragfarn yn eu barn a'u honiadau.

Mae'r uchod i gyd yn hanfodol wrth osod y sylfeini wrth i chi ddysgu am eich pwnc ac ysgrifennu academaidd llwyddiannus lle gallwch ddangos digon o wybodaeth, dadansoddi, dealltwriaeth a thrafodaeth sy’n deillio o’ch gwaith ymchwil.

Ble i ddechrau?

O ran datblygu eich sgiliau chwilio, beth am fynd draw a sbio ar yr holl ganllawiau ar waelod y dudalen hon , sydd yn rhoi’r holl wybodaeth am yr holl offer y mae Gwasanaethau Llyfrgell Met Caerdydd yn eu darparu. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys hanfodion defnyddio'r offer hyn. Gallwch hefyd archwilio rhannau eraill o wefan Arfer Academaidd y Llyfrgell, gan fod y gallu i ddod o hyd i adnoddau a'u defnyddio'n effeithiol yn eich dysgu a'ch asesu yn gofyn am ystod o sgiliau ac arferion academaidd cydberthynol eraill gan gynnwys gwerthuso beirniadol a dadansoddi yn ogystal â chyfleu eich canfyddiadau a'ch meddyliau yn eglur fel rhan o'ch ysgrifennu academaidd. Gallwch hefyd ofyn i’n llyfrgellwyr arbenigol naill ai wyneb yn wyneb yn llyfrgelloedd Cyncoed neu Landaf neu drwy ein gwasanaeth Sgwrs Llyfrgell y gellir ei gyrchu drwy ddefnyddio'r togl i'r dde. Yn ogystal ag adnoddau ar y we a staff medrus y Llyfrgell, mae ein tîm o lyfrgellwyr academaidd ac arbenigwyr sgiliau academaidd hefyd yn cynnal cyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar y prosesau a'r sgiliau cydrannol sy'n gysylltiedig â chanfod, gwerthuso a defnyddio ffynonellau academaidd credadwy yn eich dysgu annibynnol a'ch ysgrifennu academaidd.

Beth am ddechrau drwy ddysgu ychydig am ddefnyddio ChwilioMet? Mae yn darparu cyfoeth o wybodaeth am eitemau Llyfrgell Met Caerdydd i’ch galluogi i ddod o hyd i drosolygon o feysydd pwnc neu bapurau ymchwil arbenigol. Mae ChwilioMet hefyd yn cynnig cyfres o offer, cyfleustodau a swyddogaethau defnyddiol ar gyfer coladu, storio a gwneud nodiadau ar ffynonellau pwysig. Gall hefyd anfon cyfeiriadau yn uniongyrchol at offer rheoli cyfeirio fel EndNote neu Zotero lle gallwch storio eich holl fanylion ymchwil hanfodol a phapurau digidol cyn eu defnyddio i reoli eich dyfyniadau a'ch rhestrau cyfeirio wrth ysgrifennu aseiniadau neu brosiectau.

Beth ddylech chi fod yn chwilio amdano?

Bydd ffynonellau academaidd pwysig yn cynnwys gwaith darllen gofynnol, a argymhellir a phellach a geir ar restrau darllen eich modiwl, ond bydd disgwyl i chi hefyd gynnal eich ymchwil eich hun o ffynonellau academaidd fel rhan o asesiadau ysgrifenedig, yn enwedig traethodau hir neu brosiectau mawr. Dylech chwilio am ffynonellau academaidd dylanwadol ac arbenigol sy'n berthnasol i'ch maes pwnc. Bydd aseswyr yn disgwyl gweld tystiolaeth o'ch ymgysylltiad â phrif ddeunydd pwnc y modiwl a’r cwrs. Gallech gneud hyn drwy ddefnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth, gan gynnwys:

  • Awduron dylanwadol: Bydd gan bob maes academaidd ychydig o awduron pwysig sydd wedi neu sy'n gwneud cyfraniadau pwysig i ddatblygiad gwybodaeth a dealltwriaeth academaidd. Ymgyfarwyddwch â gwaith awduron diweddar a chyfoes, cyn hir, fe wnewch chi ddechrau dod yn gyfarwydd a’u henwau a'u cyhoeddiadau allweddol a pha mor aml maent yn ymddangos mewn dyfyniadau gan bobl eraill. Mae’n debygol y bydd eich darlithydd yn amlygu ffigurau o'r fath, os na, ewch ati i ofyn. Mae argyhoeddi eich gwybodaeth am ffigurau allweddol a'u syniadau a'u dylanwad yn ffordd o ddangos i aseswyr eich gwybodaeth am y pwnc.
  • Llyfrau arwyddocaol: Mae awduron dylanwadol yn cyhoeddi llyfrau arwyddocaol (a phapurau mewn cyfnodolion). Buddsoddwch amser yn y gwaith ymchwil i nodi cyhoeddiadau pwysig sydd wedi cael dylanwad ar eich maes astudio ac wrth wneud hynny ystyriwch pam bod y llyfrau hyn wedi cael cymaint o effaith. Pa syniadau newydd, unigryw neu arloesol mae'n ei gynnig? Sut mae hyn wedi helpu pobl i weld y ddisgyblaeth mewn ffordd newydd? Beth fu'r manteision i'r gymdeithas ehangach sydd wedi deillio ohoni? Beth yw ei gyfraniad i'r maes pwnc, sut mae'n dylanwadu ar academyddion, ymarferwyr, y byd ehangach heddiw? Gall dangos eich bod yn gyfarwydd a chyhoeddiadau o'r math yma yn amlygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o agweddau craidd eich pwnc. Os yw llyfrau o'r fath yn amlwg ar restr ddarllen eich modiwlau, yna byddai'n syniad doeth i fuddsoddi amser yn ei darllen. Os, fodd bynnag, nad ydynt yn waith darllen a argymhellir, cofiwch y gallwch yn aml gael darlun cadarn o'r cynnwys allweddol a'i bwysigrwydd drwy ddarllen am yr awdur a'u syniadau mewn gwerslyfrau neu ganllawiau rhagarweiniol i'ch maes pwnc.
  • Cyfrolau wedi’u golygu: Mae cyfrolau wedi’u golygu yn mynd i'r afael â maes pwnc penodol o fewn maes ehangach ac yn cynnwys ystod o benodau sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y pwnc, pob un gan wahanol awduron amlwg o'r maes astudio. Yn aml golygir y cyfrolau hyn gan unigolyn neu dîm o arbenigwyr yn y maes. Gall cyfrolau wedi’u golygu fod yn ddefnyddiol iawn am nifer o resymau:
    • Gallant eich helpu i gael cipolwg cyflym o’r awduron allweddol mewn maes penodol, bydd rhai yn awduron yn y llyfr, a bydd y rhai nad ydynt awduron yn cael eu dyfynnu a'u cyfeirio atynt yn rheolaidd;
    • Mae cyfrolau wedi'u golygu fel arfer yn darparu trosolygon defnyddiol o faes pwnc penodol, ac yn rhoi dealltwriaeth gyflym, academaidd gadarn i chi o faterion, syniadau, dadleuon er enghraifft;
    • Gall penodau’r cyfrolau hyn fod yn eithaf arbenigol, a bydd awduron penodau yn aml yn rhoi crynodebau cryno fydd yn cynnwys gwybodaeth ehangach sy'n sail i'r arbenigeddau y maent ar fin eu trafod, sy’n ffordd ddefnyddiol o drin gwybodaeth gryno yn gyflym a datblygu eich gwybodaeth am faes penodol;
    • Yn olaf, fel arfer fe welwch sawl pennod sy'n tanio eich diddordeb, bydd darllen rhain yn drwyadl yn eich helpu i ddechrau deall sut y gall gwybodaeth am ddisgyblaeth fod yn eang ac yn arbenigol.
    Os ydych chi newydd ddechrau, gall peth o'r deunydd fod yn heriol, ond cyn hir fe fydd yr hyn rydych chi wedi'i ddarllen yn gwneud synnwyr, ac fe wnewch chi sylweddoli sut mae'n berthnasol i agwedd arall ar eich dysgu. Mae dangos eich ymgysylltiad â mathau mwy arbenigol o wybodaeth academaidd, a'i defnyddio i gefnogi eich syniadau eich hun trwy ddadansoddi, gwerthuso dadlau beirniadol yn bwysig os ydych chi am berfformio'n dda mewn asesiadau ysgrifenedig.
  • Erthyglau mewn cyfnodolion: Yn debyg i gyfrolau wedi'u golygu, mae erthyglau mewn cyfnodolion a , adolygir gan gymheiriaid yn ffynonellau academaidd arbenigol. Fel arfer, bydd awduron allweddol neu ymchwilwyr mewn maes yn cyhoeddi eu canfyddiadau, eu tystiolaeth, eu damcaniaethau a'u syniadau yn ogystal ag ymchwiliadau arbenigol mewn cyfnodolion uchel eu parch sy'n berthnasol i'w maes. Mae cyhoeddi mewn cyfnodolyn yn fantais i awduron academaidd gan ei fod yn caniatau iddynt gyhoeddi eu syniadau newydd yn gyflym (a all fod yn bwysig os ydynt yn cystadlu ag eraill mewn prosiectau ymchwil yn yr un maes). Mae erthyglau mewn cyfnodolion hefyd yn cynnig ffordd o ysgrifennu a chyhoeddi sy'n ymdrin â meysydd pwnc arbenigol iawn yn gryno, tra eu bod hefyd yn cynnig fformat ar gyfer codi cwestiynau neu gynnig syniadau sydd eto i'w hymchwilio'n llawn. Defnyddiwch erthyglau mewn cyfnodolion yn eich dysgu ac ysgrifennu academaidd. Bydd eich aseswyr eisiau gweld eich ymgysylltiad â chyhoeddiadau a gwybodaeth arbenigol, ac maent yn ffynonellau dysgu gwych. Mae cyfnodolion hefyd yn darparu llwyfan allweddol ar gyfer trafodaethau academaidd a thrafodaethau ar bynciau lle nad oes consensws academaidd. Gall darllen am anghytundebau a dadleuon o'r fath yn eich maes fod yn ddefnyddiol ar sawl lefel i chi fel dysgwr: yn gyntaf mae'n ffordd wych o fynd i'r afael â'r syniad nad yw gwybodaeth yn absoliwt a'n bod ni fel cymunedau academaidd yn creu neu'n adeiladu gwybodaeth a thrwy gonsensws y daw'n wybodaeth gydnabyddedig; yn ail, gall dadleuon beirniadol fod yn ffynhonnell ddefnyddiol i'w trafod yn eich ysgrifennu academaidd eich hun gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gynnig dadansoddiad a gwerthusiad o safbwyntiau a chynnig casgliad rhesymegol.
  • Cyhoeddiadau'r diwydiant: Bydd meysydd academaidd sy'n gysylltiedig ag arferion neu ddiwydiannau proffesiynol yn aml yn defnyddio cyhoeddiadau sy'n berthnasol i astudiaethau academaidd a'i gymhwysiad yn y maes proffesiynol. Bydd disgyblaethau fel busnes a rheolaeth, peirianneg, addysg neu ofal iechyd er enghraifft yn defnyddio cyhoeddiadau’r diwydiant neu gyfnodolion masnach sy'n mynd i'r afael â natur ymarferol y maes pwnc. Yn aml, bydd y rhain yn ffynonellau ddefnyddiol ar gyfer datblygu gwybodaeth, tystiolaeth neu ddata am faterion cyfoes, arloesiadau neu newidiadau sy'n digwydd yn y byd go iawn. Mae'r rhain yn aml yn feysydd pwnc y bydd academyddion yn ymateb iddynt ac wrth gwrs mae gallu dangos eich ymgysylltiad â meysydd pwnc o'r fath fel rhan o'ch ymchwil ar gyfer eich ysgrifennu academaidd eich hun yn ffordd ddefnyddiol arall o ddangos ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol ddyfnach o'ch maes.
  • Gwyddoniadur pwnc-benodol: Yn gynnar yn eich astudiaethau, gall y rhain fod yn ffynhonnell wych ar gyfer dod o hyd i drosolwg cryno o ddamcaniaethau, modelau, methodolegau a hanesion pwysig o fewn disgyblaethau academaidd. Yn benodol, maent yn darparu esboniadau, diffiniadau a therminoleg sy'n gysylltiedig â phynciau arbenigol neu ganghennau ymchwil o fewn maes penodol. Defnyddiwch y rhain i gael dealltwriaeth gyflym ond ystyrlon a dibynadwy o feysydd arbenigol yn eich maes astudio. Yn debyg iawn i'r cyfrolau wedi’u golygu a drafodir uchod, yn aml gall awduron amlwg gyfrannu atynt, felly gallant fod yn ffordd ddefnyddiol o ymgyfarwyddo â'r ffigurau allweddol, syniadau canolog yn ogystal â therminoleg ac iaith sy'n benodol i bwnc. Wrth i chi ddecrhau ar eich taith academaidd, gall ffynonellau o'r fath fod yn ffordd wych o egluro eich dealltwriaeth ac fel ffynonellau academaidd gadarn sy'n dangos eich ymgysylltiad â'ch dysgu i'ch aseswyr. Yn aml fe welwch ystod o fathau o wyddoniaduron, o gyhoeddiadau syml oddi ar y silff sy'n cynnig trosolwg rhagarweiniol neu sawl cyfrol neu wyddoniaduron a gyhoeddwyd yn ddigidol sy'n cynnwys trafodaeth academaidd fanwl ar bynciau trafod amlwg sy'n adlewyrchu meysydd ymchwil ac ymchwilio cyfoes. Gall cyhoeddiadau o'r fath fod yn ffynonellau academaidd hynod ddefnyddiol i academyddion a myfyrwyr.

Pam mae'n bwysig i chi?

Gall meistroli'r sgil o ddod o hyd i ffynonellau academaidd addas helpu chi i lwyddo yn yr asesiadau. Mae’r gallu i ddod o hyd i ffynonellau a'u gwerthuso, yn sicrhau uniondeb, dibynadwyedd a dilysrwydd y wybodaeth rydych chi'n dod ar ei thraws ac yn dewis dysgu ohoni neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn gwaith a asesir. Mae'r broses o ddatblygu eich sgiliau chwilio a gwerthuso yn cyfrannu'n uniongyrchol at eich dysgu cyffredinol a gall fod yn ddull ymarferol ac effeithiol o ddatblygu eich gwybodaeth feddyliol, mapiau cysyniadau a blociau adeiladu gwybodaeth sy'n gwasanaethu ac yn ennyn dysgu trylwyr yn eich maes pwnc. Mae'r weithred syml o brosesu enwau, teitlau, dyddiadau, termau, meysydd pwnc fel agweddau ar eich chwiliadau cyn coladu'r canlyniadau defnyddiol yn ffordd o ddysgu ynddo'i hun. Efallai yr hoffech hefyd wneud nodiadau wrth i chi wneud darganfyddiadau; i rai gall ysgrifennu enw neu deitl papur fod yn gymorth gwych i’ch chwiliadau. I eraill, mae'r broses o goladu llyfrgell ddigidol a chyfeiriadau cysylltiedig drwy ddefnyddio meddalwedd rheoli cyfeirio yn ddull effeithiol o gydnabod patrymau awduron amlwg a'r meysydd yr oeddent yn arbenigo sydd, wrth gwrs, yn cynorthwyo mewn gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach.

Gall chwilio effeithiol ac arfarnu ffynonellau eich helpu i ddatblygu eich syniadau, dadleuon a chasgliadau academaidd eich hun yn ogystal â darparu ystod o ffynonellau academaidd dibynadwy. Mae chwilio a chanfod, dadansoddi a gwerthuso i gyd yn rhan o'r broses feirniadol ac yn helpu i feithrin eich gallu eich hun i feirniadu gwaith eraill neu ddatblygu eich honiadau rhesymegol, beirniadol eich hun. Wrth i'ch dysgu eich hun fynd rhagddo ac wrth i chi ddatblygu eich dealltwriaeth o'ch gwybodaeth pwnc, gallwch feirniadu gweithiau academaidd eraill, a bydd eich dealltwriaeth eich hun yn caniatau i chi i fod yn hyderus wrth asesu dibynadwyedd, y rhagfarnau a chryfder y dystiolaeth a'r dadleuon yng ngwaith pobl eraill. Mae'r uchod i gyd yn elfennau sylfaenol o ddysgu ac arfer academaidd llwyddiannus, a bydd dod o hyd i a defnyddio ystod o ffynonellau academaidd yn gwella eich gallu i ymgysylltu â chysyniadau a damcaniaethau cymhleth a'u meistroli, dod yn fedrus wrth gymhwyso methodolegau ac arferion heriol yn ogystal â bod yn fedrus iawn wrth ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar eich aseswyr i roi’r marciau gorau i chi! Ewch at i ddefnyddio ChwilioMet... Nawr!

Mae'r manteision o ddatblygu eich canfyddiadau a gwerthuso adnoddau academaidd yn cynnwys:
  • Llythrennedd gwybodaeth a meddwl yn feirniadol: Mae gallu gwerthuso ffynonellau er mwyn nodi’r rhai sy'n rhagfarnllyd, yn annibynadwy neu'n wan, gan gydnabod y rhai sy'n dangos dilysrwydd a thrylwyredd yn sgil academaidd a phroffesiynol allweddol.
  • Uniondeb academaidd: Trwy ddefnyddio sgiliau chwilio a gwerthuso doeth, gallwch chi osgoi llên-ladrad damweiniol. Mae meddu ar wybodaeth a gallu defnyddio ystod o ffynonellau academaidd perthnasol a chredadwy yn dangos gwybodaeth am bynciau yn ogystal â'r parch academaidd sy'n gynhenid yn yr arfer academaidd o briodoli a chyfeirio.
  • Cyfeirio a dyfynnu: Mae prosesu, trin a mwynhau chwilio, rheoli a defnyddio ffynonellau yn golygu y byddwch yn dod yn fwy cyfarwydd ac yn hyddysg yn gyflymach yn y prosesau cyfeirio a dyfynnu.
  • Astudio hunanreoledig: Mae dysgu dod o hyd i ffynonellau academaidd addas yn elfen allweddol o ddysgu annibynnol ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at eich gwybodaeth o’r pwnc ehangach y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
  • Chwilfrydedd deallusol: Trwy archwilio eich pwnc y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, fe welwch ffynonellau a phynciau sy'n tanio eich diddordeb ymhellach, ac sy’n annog ymchwilio a dealltwriaeth bellach a all gyfnerthu eich dysgu
  • Hyder i ddysgu: Mae ymgysylltu â deunyddiau academaidd a gwybodaeth ddyfnach am y pwnc y mae'n ei ennyn yn cynyddu hyder yn eich galluoedd eich hun ac yn eich annog a'ch ysbrydoli i gyfrannu'n ystyrlon at sgyrsiau academaidd parhaus yn eich maes.
  • Mwynhau dysgu: Mae darganfod gwybodaeth newydd, yn enwedig am bwnc rydym yn angerddol amdano yn bleserus. Bydd defnyddio’r dull yma o astudio yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr a'ch canlyniadau academaidd.
  • Meistroli dysgu: Mae'r gallu i ddarganfod a nodi deunyddiau dysgu priodol yn sail i’ch dysgu, a bydd sgiliau chwilio a gwerthuso effeithiol yn caniatau i chi barhau i ddysgu am oes!
  • Yn barod i ymchwilio: Bydd meistroli'r wyddoniaeth o chwilio'n gynnar yn rhoi sgiliau sylfaenol a gwybodaeth am eich pwnc i chi ar gyfer ymdrechion ymchwil yn y dyfodol, boed yn draethawd hir yn y flwyddyn olaf, neu fel agwedd ar yrfa broffesiynol.
  • Hyblygrwydd a chwaeth: Mewn byd sy'n gynyddol gymhleth ac yn llawn gwybodaeth, mae'r gallu i weithredu ac addasu strategaethau chwilio er mwyn dadansoddi symiau mawr o wybodaeth er mwyn nodi'r data pwysig a pherthnasol yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt.

Gwerthuso ffynonellau

Mae sawl model seiliedig ar acronymau a all fod yn ddefnyddiol wrth ddysgu a chofio'r camau a'r ystyriaethau allweddol y dylech eu gwneud wrth werthuso perthnasedd a dibynadwyedd ffynonellau. Cymerwch olwg ar y rhai isod ac fe welwch y cwestiynau a'r profion cyffredin sy'n gysylltiedig â dadansoddiad cychwynnol o ffynonellau. Mae'r dulliau hyn yn ffordd effeithiol o asesu'n gyflym pa ffynonellau sy'n werth eu dilyn ymhellach a pha rai y gellir eu diystyru.

CRAAP source evaluation worksheet

CRAAP

Mae gwir angen i chi ofyn y cwestiwn hollbwysi - A yw fy ffynonellau yn rhai CRAAP?

Fel y trafodwyd yn fanwl uchod, er mwyn i'ch gwaith academaidd eich hun fod yn ddibynadwy a’ch dadleuon yn bendant, mae angen i chi sicrhau bod y ffynonellau rydych chi'n eu defnyddio yn gredadwy ac yn ddilys, sy'n golygu eu hasesu am eu cyfrededd, perthnasedd a didueddrwydd. Dull syml yw cymhwyso'r prawf CRAAP, i weld os ydyn t yn pasio ai peidio.

  • Cyfrededd: Pryd cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi, ei hadolygu, ei phostio neu ei diweddaru?
  • Perthnasedd: A yw'r wybodaeth yn ymwneud â'ch pwnc neu ateb y cwestiwn?
  • Awdurdod: Pwy yw'r ffynhonnell? Pa gymwysterau sydd ganddynt?
  • Cywirdeb: A yw'r wybodaeth a ddarperir yn cael ei chefnogi gan dystiolaeth, ystadegau, ac ati? A ellir gwirio'r rhain yn hawdd?
  • Diben: Beth yw pwrpas y wybodaeth? Er enghraifft, i addysgu, gwerthu, i ddiddanu?

Lawrlwythwch y daflen waith CRAAP a gan awdur gwreiddiol y model

RADAR

Mae gwir angen i chi ofyn y cwestiwn hollbwysig - A yw'r ffynhonnell hon ar fy RADAR?

Mae'r ail fodel hwn sy'n seiliedig ar acronymau ar gyfer gwerthuso yn ymchwilio yn gofyn y mathau o gwestiynau beirniadol y dylech fod yn eu gofyn o unrhyw ffynhonnell wrth ymgymryd â darllen academaidd.

  • Sail Resymegol: Mae sail resymegol a chymhelliant yn siapio cynnwys a phwrpas llyfrau, erthyglau a thudalennau gwe. Nid oes unrhyw wybodaeth heb rywfaint o ragfarn, gan y bydd safbwynt awdur yn dylanwadu ar ei waith. Mae unigolion yn cael eu cymell i gyhoeddi gweithiau neu greu cynnwys ar-lein am bob math o resymau, am resymau addysgol dilys, neu fel modd o adloniant neu fel llwybr ar gyfer cynhyrchu elw, neu i geisio dylanwadu ar bobl mewn ffyrdd negyddol. Weithiau bydd awduron sydd â diddordebau masnachol yn rhoi'r hyn y mae’r cwsmer ei hangen ar draul didueddrwydd neu dystiolaeth galed, gall eraill geisio cuddio'u rhagfarnau. Yn y pen draw, gall safbwyntiau amrywiol neu aneglur fod yn berffaith ddilys o hyd cyn belled â'u bod wedi'u seilio ar resymu cadarn a'u cefnogi gan dystiolaeth. Yn y pen draw, cyfrifoldeb y darllenydd yw mynd at wybodaeth yn feirniadol a bod yn ddeallus yn eu gwerthusiad o ffynonellau.
  • Awdurdod: Mae'r cysyniad o awdurdod yn dal pwysau sylweddol wrth asesu hygrededd honiadau awdur. Bydd awduron sydd â phrofiad, arbenigedd a gwybodaeth arbenigol yn cael eu hystyried yn fwy dibynadwy na rhywun nad yw'n rhannu enw da tebyg, waeth beth fo'u honiadau.
  • Dyddiad: Mae nodi'r dyddiad a sicrhau cyfrededd o fewn ymchwil yn bwysig gan bod meysydd astudio academaidd yn datblygu’n gyflym. Gall data neu ffeithiau hen ffasiwn sydd wedi cael eu disodli gan ymchwil neu ddigwyddiadau mwy diweddar wanhau dilysrwydd dadl academaidd yn sylweddol. Fodd bynnag, mae'n werth nodi y gall rhai cyhoeddiadau barhau;n berthnasol ac y gall deunyddiau hŷn fod yn werthfawr o hyd, yn enwedig wrth fynd i'r afael â chyd-destun hanesyddol neu drosolwg o'r pwnc. Gall perthnasedd dyddiad ffynhonnell amrywio ar draws disgyblaethau academaidd, y math o wybodaeth, y pwnc, ei gymhwysedd yn y byd go iawn a'r cyflymder y mae'r maes yn symud i gyd yn gallu dylanwadu ar i ba raddau y mae cyfrededd yn bwysig.
  • Cywirdeb: Mae cywirdeb yn sylfaen ar gyfer hygrededd, ymddiriedaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus. Mae darparu gwybodaeth gywir o fewn ysgrifennu academaidd yn sicrhau cyfathrebu adeiladol sy'n glir ac yn gryno gan sicrhau nad yw camddealltwriaeth a dryswch yn digwydd. O fewn y byd academaidd, mae'r angen i fod yn gywir yn rhwymedigaeth sy'n cynnal syniadau o uniondeb academaidd. a'r broses o adolygu cyfoedion.
  • Perthnasedd: Mae perthnasedd yn pennu alinio gwybodaeth â'r pwnc dan sylw. Wrth gyflwyno syniadau, mae'n hanfodol eu cadarnhau â gwybodaeth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc ac sy'n osgoi materion dryslyd. Mae cynnal perthnasedd yn sicrhau cyfathrebu ystyrlon cydlynol.

Lawrlwythwch daflen waith RADAR gan awdur gwreiddiol y model.

Darperir y dolenni allanol hyn mewn perthynas ag ansawdd y wybodaeth a'r cyngor cyffredinol y maent yn eu darparu am y maes pwnc ymarfer academaidd penodol hwn.

Ymwadiad byr: byddwch yn ymwybodol bod yr adnoddau sy'n gysylltiedig â nhw ar y dudalen hon yn cael eu creu a'u hysgrifennu gan sefydliadau ac unigolion y tu allan i Met Caerdydd ac nad yw gwybodaeth a chyngor penodol a roddir, yn enwedig o ran polisïau, gwasanaethau, darpariaeth ac arferion prifysgolion eraill yn cyfeirio at rai Met Caerdydd. Rydym yn argymell yn gryf ymweld â Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ti egluro polisïau, prosesau a gweithdrefnau perthnasol sy'n berthnasol i fyfyrwyr Met Caerdydd pe bai angen.

Technegau chwilio

Gwefannau
Fideos
Podlediadau

Gwerthuso Ffynonellau

Gwefannau
Videos