Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Hanfodion y Llyfrgell

Hanfodion y Llyfrgell

P’un a ydych yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o astudiaethau yma, neu os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd yn ôl am flwyddyn newydd arall, hoffai staff Gwasanaethau Llyfrgell ar gampysau Cyncoed a Llandaf estyn croeso cynnes ichi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio os oes gennych unrhyw gwestiynau, rydym bob amser yn hapus i helpu!

Canolfannau Dysgu

Croeso i'r Ganolfan Ddysgu, mae hwn yn lle gwych i astudio gyda mannau cyfforddus llawn planhigion a golau, ardaloedd tawel a chymdeithasol, cyfrifiaduron, argraffwyr, cyfarpar oeri dŵr, llyfrau i'w benthyca a chyfnodolion i bori trwyddynt.

Rydym yn cynnig croeso cyfeillgar lle byddwch yn cael cymorth TG a Llyfrgell broffesiynol ac arweiniad wrth ein desgiau cymorth, a mynediad i hyfforddiant sgiliau digidol ac academaidd, mae ein Canolfannau Dysgu yn agored i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y mannau astudio sydd ar gael, a’r gwasanaethau y gallwch gael mynediad iddynt, lle da i ddechrau yw ein tudalennau Canolfan Ddysgu.

Camau Cyntaf...

Felly, rydych chi wedi derbyn eich rhestr ddarllen gyntaf neu aseiniad ac angen cael gafael ar ddeunyddiau astudio? Yna dechreuwch eich taith gyda ChwilioMet!

ChwilioMet yw peiriant chwilio adnoddau astudio Met Caerdydd. Yma fe welwch gannoedd o filoedd o adnoddau academaidd y mae'r gwasanaeth llyfrgell wedi'u darparu ar gyfer eich astudiaethau.

Y lle gorau i ddechrau wrth chwilio am adnoddau yw’r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl neu gwrs – bydd hyn yn rhoi teitlau llyfrau penodol, a chyfnodolion y mae angen ichi edrych arnynt.

I'ch helpu i ddechrau, edrychwch ar y canllawiau canlynol:

Angen mwy o help? Yna dewch draw i un o Weithdai’r Llyfrgell lle byddwch yn derbyn arweiniad arbenigol ar sawl agwedd ar astudio llwyddiannus, gan gynnwys sut i ddefnyddio ChwilioMet. Gallwch hefyd archebu sesiwn 1-2-1 gyda'n tîm o Lyfrgellwyr Academaidd.

Archwiliwch ein tudalennau Ymarfer Academaidd am gyfoeth o wybodaeth am Ddysgu yn y Brifysgol, Dod o Hyd i Adnoddau a'u Defnyddio, Ysgrifennu Academaidd a mwy. A pheidiwch ag anghofio edrych ar ein Hawgrymiadau Astudio Da!

Help!!

Cael trafferth cysylltu â'r wi-fi, defnyddio argraffydd neu gael mynediad at adnoddau? Yna edrychwch ar wefannau Gwasanaethau Llyfrgell neu Wasanaethau TG lle byddwch yn dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth i'ch helpu. Os ydych chi'n dal i gael trafferth neu'n methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi, yna cysylltwch â ni.

Mae yna amrywiaeth o ffyrdd i gysylltu â ni. P'un a oes gennych gwestiwn penodol neu ddim ond angen gwybodaeth am Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth (GLlG), dylech ddod o hyd i'r holl fanylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar ein gwefan. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ganllawiau cyflym ar sut i gysylltu â wi-fi a gwybodaeth ar sut i drefnu apwyntiadau 1-2-1 gyda Llyfrgellydd Academaidd neu archebu lle ar weithdy. Rydyn ni yma i'ch helpu chi ar-lein ac ar y campws, felly cysylltwch â ni!