Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Hanfodion y Llyfrgell

Hyfforddiant Sgiliau Digidol

Mae’r tîm Sgiliau Digidol yn falch o gynnig ystod o gyrsiau hyfforddi i fyfyrwyr Met Caerdydd sy’n datblygu sgiliau digidol sy’n berthnasol i’ch astudiaethau ac yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae pob cwrs yn arwain at ardystiadau - tystiolaeth o'ch sgiliau y gallwch chi eu rhannu'n hawdd â chyflogwyr a chyfoedion trwy LinkedIn a'r cyfryngau cymdeithasol.

Y cam cyntaf yw cwblhau'r rhaglen sefydlu Hanfodion Digidol. Drwy gwblhau’r cyfnod sefydlu, byddwch yn dysgu am y technolegau a’r arferion a fydd yn eich galluogi i gwblhau eich astudiaethau wrth ddysgu wyneb yn wyneb ac wrth ddysgu ar-lein.

Os oes gennych cyfrif Met Caerdydd, gallwch gwblhau elfen gyntaf y cyfnod sefydlu nawr. Dilynwch y ddolen i’r dudalen Hanfodion Digidol, mewngofnodwch gyda’ch Rhif Myfyriwr Met Caerdydd (st[rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk) a chwblhewch yr e-wers fer lle byddwch yn dysgu am eich cyfrif TG, systemau TG hanfodol, cyfleusterau a gwasanaethau TG ar y campws a chyngor diogelwch digidol hollbwysig.

Ar ôl cwblhau'r e-wers sefydlu, byddwch wedyn yn mynychu dwy sesiwn hyfforddi yn ystod yr wythnos groeso i ddysgu dwy sgil craidd ar gyfer astudio ym Met Caerdydd - cyfathrebu'n effeithiol trwy Microsoft Teams a rheoli'ch dogfennau.

Mae'r tîm TG ehangach yn darparu cymorth ac arweiniad ar bob agwedd ar ddefnyddio TG ym Met Caerdydd. Gall y tîm eich cysylltu â'r wi-fi a rhoi cyngor ar brynu caledwedd a meddalwedd TG.

Ar gyfer unrhyw ymholiad TG, gallwch ein ffonio ar +44 (0)29 20417000 neu e-bostio ni.  Fel arall gallwch ddod draw i’r Ddesg Gymorth TG yn y Canolfannau Dysgu.

Desg Gymorth TG

Y Ddesg Gymorth TG yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw fater neu ymholiad sy'n gysylltiedig â TG, a gellir cysylltu â nhw drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ymweld â'r naill Ddesg Gymorth Technoleg, a leolir yn Ystafell TG y Ganolfan Ddysgu ar y ddau gampws.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn ni helpu:

  • Ailosod cyfrinair a datgloi cyfrifon defnyddwyr
  • Office 365
  • Eduroam Wi-Fi
  • Moodle
  • E-bost Staff/Myfyrwyr
  • Meddalwedd a Chaledwedd

Gallwch gysylltu â ni trwy'r canlynol:

Ffôn: x7000 (02920 41 7000)

E-bost: ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk

Porth Hunanwasanaeth: itservicedesk.cardiffmet.ac.uk

Trydar: @CardiffMetLearn

I gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r uchod, ewch i'r wefan TG. Yma fe welwch wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, yr hyfforddiant Sgiliau Digidol diweddaraf a chanllawiau defnyddiol ar bob math o faterion TG.