Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Metawybyddiaeth

Adnabod eich hunan!

Metawybyddiaeth yw ymwybyddiaeth, dadansoddiad a dealltwriaeth o'ch prosesau meddwl eich hun. Mae'n cynnwys arsylwi, gwerthuso a rheoleiddio gweithgareddau gwybyddol, megis datrys problemau a dysgu. Mae medrau o'r fath yn galluogi dysgwyr i gynllunio, asesu a gwella eu strategaethau dysgu eu hunain yn well.

Metwybyddiaeth – Trosolwg byr

Metawybyddiaeth yw’r wybodaeth a’r rheolaeth o'ch prosesau gwybyddol eich hun.
  • Bathwyd y term "metawybyddiaeth" gyntaf gan John Flavell yn y 1970au.
  • Cyfieithiad llythrennol o'r term metawybyddiaeth yw 'uwchben meddwl' neu 'or wybyddiaeth' neu 'meddwl uwch', sydd i gyd yn dynodi'r trosolwg deallusol a geir wrth arsylwi ar eich prosesau gwybyddol eich hun.
  • Cyfieithiad mwy ystyrlon o'r term yw 'meddwl am feddwl' neu 'dysgu am ddysgu'.
  • Felly gwybodaeth fetawybyddol yw gwybodaeth am brosesau gwybyddol, megis dysgu, sylw, y cof, a datrys problemau.
  • Profiadau metawybyddol neu reoleiddio yw'r gallu i ddefnyddio gwybodaeth fetawybyddol i reoli eich prosesau gwybyddol.
  • Pan gaiff ei gymhwyso i ddysgu, defnyddir y term dysgu hunanreoleiddiedig i ddisgrifio'r gallu i ddefnyddio gwybodaeth fetawybyddol i reoli a datblygu ein prosesau dysgu.
  • Mae metawybyddiaeth yn sgil meddwl lefel uwch gan ei fod yn cynnwys dadansoddi a gwerthuso'r prosesau dysgu rydym yn arsylwi arnynt cyn i ni greu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw beth yr ydym am ei wella.
Mae’n cynnwys y gallu i:
  • Gwybod eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun fel dysgwr.
  • Nodi nodau dysgu tasg.
  • Cynllunio a dewis strategaethau priodol ar gyfer cwblhau tasg.
  • Monitro eich cynnydd ac addasu strategaethau yn ôl yr angen.
  • Gwerthuso eich perfformiad a gwneud newidiadau i wella.
  • Trwy ddatblygu sgiliau metawybyddol, gall myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u proses ddysgu eu hunain a chymryd camau i wella eu perfformiad.
  • Mae metawybyddiaeth yn bwysig i bob dysgwr, ond mae'n arbennig o bwysig i fyfyrwyr sy'n dymuno datblygu mwy o synnwyr o'u harfer academaidd, disgyblaethol neu broffesiynol eu hunain.
  • Myfyrio ar ein profiadau, galluoedd a dealltwriaeth ohonom ein hunain fel ymarferwyr.

Metawybyddiaeth - Fideos allanol

Metawybyddiaeth – Podlediadau allanol

An Overview of Important Ideas about Metacognition from a University of Alberta Podcast - The Metacognition Channel