Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Gwybodaeth ar gyfer: Staff

Defnyddio Gwasanaethau’r Llyfrgell

Os ydych chi'n newydd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, dewch â'ch CerdynMet i Ganolfan Dysgu Llandaf neu Gyncoed i ddechrau benthyca. Gallwch fenthyg hyd at 30 o eitemau ar unrhyw un adeg. Gweler Benthyca a Gofyn am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal â llyfrau print ac e-Lyfrau, mae gan ein llyfrgelloedd gyfnodolion print ac electronig. Mae’r holl gyfnodolion print at ddefnydd cyfeirio yn unig.


ChwilioMet

Defnyddiwch ChwilioMet, teclyn chwilio a darganfod y Llyfrgell i:

  • chwilio am lyfrau print
  • cyrchu e-Lyfrau
  • i weld ein tanysgrifiadau i gyfnodolion
  • i ddod o hyd i erthyglau yn ein tanysgrifiadau i gyfnodolion electronig
  • i nodi allbynnau ymchwil y Brifysgol ar figshare, a mwy.

Er nad yw MetChwilio yn cymryd lle chwiliad llenyddiaeth drylwyr, mae’n symleiddio chwilio ar draws nifer o'n cronfeydd data testun llawn, crynhoi ac mynegeio. Os hoffech gyngor ar wneud y mwyaf o MetChwilio, siaradwch ag un o'n llyfrgellwyr academaidd.


Casgliadau Arbennig

Mae gan Lyfrgelloedd Llandaf a Chyncoed gasgliadau arbennig i gefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil.


Gofod Astudio

Mae staff a myfyrwyr yn mwynhau mynediad i amrywiaeth o fannau astudio yn ein Llyfrgelloedd Cyncoed a Llandaf, gan gynnwys ystafelloedd astudio grŵp at ddefnydd myfyrwyr yn unig. Fe welwch gyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron Mac wedi eu rhwydweithio hefyd, ochr yn ochr â dyfeisiau amlswyddogaethol ar gyfer eich anghenion argraffu, llungopïo a sganio.

Darganfod deunydd nad yw'n cael ei gadw gan y Llyfrgell

Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd

Gellir gofyn am lyfrau, erthyglau cyfnodolion, papurau cynadledda a deunydd arall nad ydynt yn cael eu cadw ym Met Caerdydd, sydd eu hangen arnoch i gefnogi eich ymchwil, drwy ein ein gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd.


Deunydd Addysgu ar Gyfer Casgliad y Llyfrgell

Rhaid gofyn am lyfrau nad ydynt yn llyfrgelloedd y Brifysgol, sy'n ofynnol ar gyfer addysgu, drwy greu rhestr ddarllen modiwlau gan ddefnyddio Leganto. Rhaid gofyn am ddigideiddio erthyglau mewn cyfnodolion nad ydym yn tanysgrifio iddynt, ac yr ydych yn eu cynnwys ar restr ddarllen modiwlau, hefyd gan ddefnyddio Leganto. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnig gwasanaeth digideiddio far gyfer penodau llyfrau ar eich rhestrau darllen. Mae defnyddio Leganto i ddigideiddio yn sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'i thrwydded Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint ac nad yw'n torri deddfwriaeth hawlfraint.


Deunydd Ymchwil ar Gyfer Casgliad y Llyfrgell

Dylid gofyn am lyfrau nad ydynt yn llyfrgelloedd y Brifysgol, a ystyriwch fod yn berthnasol ac yn ychwanegiadau gwerthfawr i'n casgliad, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio wrth addysgu, naill ai drwy e-bostio LibraryAcademicServices@cardiffmet.ac.uk neu drwy lenwi'r ffurflen gais i Brynu ar MetChwilio. Os ydych yn dymuno argymell tanysgrifiad cyfnodolyn newydd, anfonwch e-bost at LibraryAcademicServices@cardiffmet.ac.uk gyda thystiolaeth o sut y bydd y tanysgrifiad yn cefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol.


Benthyca o Lyfrgelloedd Prifysgol Eraill

Mae SCONUL Access yn gynllun benthyca dwyochrog, sy'n caniatáu i staff academaidd a chymorth Met Caerdydd, ôl-raddedigion ymchwil, ôl-raddedigion llawn amser a addysgir, ac israddedigion rhan-amser, dysgu o bell a lleoliad benthyg o'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd prifysgolion yn y DU ac Iwerddon. Rhaid i chi gofrestru gyda chynllun Mynediad SCONUL cyn i chi fynychu llyfrgell prifysgol arall.

Gneud y mwyaf o’r Adnoddau Electronig

Cronfeydd Data

Mae'r Llyfrgell yn cynnig mynediad i gronfeydd data testun llawn, crynhoi a mynegeio sy'n cynnwys erthyglau cyfnodolion a phapurau cynadledda, ynghyd â mynediad i gronfeydd data delweddau a fideo, cronfeydd data ystadegol a mapio, adroddiadau marchnad, Safonau Prydain, data ariannol, papurau newydd a llawer mwy. Rhestrir y cronfeydd data hyn yn nhrefn yr wyddor ac yn ôl disgyblaeth ar ei Cronfeydd Data A-Y, and most are also accessible via ChwilioMet.

Am gymorth dod o hyd a ddefnyddio’r adnoddau hyn, gan gynnwys creu rhybuddion chwilio a dyfynnu sy'n berthnasol i'ch ymchwil, siaradwch ag un o'n Llyfrgellwyr Academaidd.


Mynediad Hawdd at Adnoddau Electronig

Mae'r Llyfrgell yn darparu offer, gan gynnwys Browzine, Lean Library a LibKey Nomad, sy'n hwyluso mynediad at ein hadnoddau electronig.

  • Mae Lean Library yn estyniad porwr sy'n cynnig mynediad un clic i gynnwys cyfnodolion a danysgrifiwyd gan lyfrgell ac eLyfrau, ble bynnag yr ydych ar-lein.
  • Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n cynnig mynediad un clic i gyfnodolion a danysgrifiwyd gan lyfrgell a mynediad agored, ble bynnag yr ydych ar-lein.
  • Mae Browzine, mewn fformatau ap a phorwr, yn darparu rhyngwyneb hawdd, poradwy ar gyfer eJournals gan sawl cyhoeddwr.

Am ragor o wybodaeth gweler Darganfod@MetCaerdydd ar wefan y Gwasanaethau Llyfrgell.


Offer Rheoli Ryfeiriadau

Mae Metropolitan Caerdydd yn cefnogi defnyddio Endnote a Zotero, offer rheoli cyfeiriadau i storio a rheoli eich cyfeiriadau llyfrydol a'ch dogfennau pdf o erthyglau ac i awtomeiddio ychwanegu dyfyniadau i'ch dogfennau. Mae ChwilioMet yn cynnwys swyddogaeth Fy Ffefrynnau ar gyfer storio cyfeirio sylfaenol a chynhyrchu. Gallwch fynychu gweithdy EndNote neu Zotero neu siarad ag un o'n Llyfrgellwyr Academaidd os ydych yn anghyfarwydd a’r offer yma.

Cyrchu Cymorth Ymchwil

Rydym yn cynnig cefnogaeth arbenigol i ymchwilwyr wrth gynnal adolygiadau llenyddiaeth, gan optimeiddio'ch defnydd o, figshare, ystorfa ymchwil y Brifysgol, cyhoeddi mynediad agored a defnyddio technoleg sy'n gysylltiedig ag ymchwil.

Datblygu sgiliau Academaidd a Llyfrgell eich myfyrwyr

Sesiynau Cynefino’r Llyfrgell

Mae amserlennu sesiynau cynefino’r llyfrgell yn sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod ble a sut i ddod o hyd i wybodaeth allweddol i gefnogi eu dysgu. Yn dibynnu ar eich dewis ac argaeledd staff y llyfrgell, gallwn gynnig cyflwyniad rhyngweithiol i’ch ysgol a/neu deithiau o amgylch Llyfrgelloedd Cyncoed neu Llandaf. E-bostiwch LibraryAcademicServices@cardiffmet.ac.uk gyda'ch ceisiadau.


Sgiliau Llythrennedd Gwybodaeth

Grymuswch eich myfyrwyr gyda sgiliau llythrennedd gwybodaeth, sgiliau sy'n sail i'w dysgu. Mae ein llyfrgellwyr academaidd yn cynnig hyfforddiant ar sut i ddarganfod, cyrchu, gwerthuso a threfnu gwybodaeth yn effeithiol, gan roi'r cymwyseddau a'r hyder i fyfyrwyr lwyddo.

Mae gennym praglen o weithdai amlddisgyblaethol yn nhymor yr hydref a'r gwanwyn. Mae'r gweithdai yn cael eu hysbysebu'n eang, ac rydym yn annog myfyrwyr i fynychu. Efallai y bydd ein llyfrgellwyr academaidd hefyd ar gael i gynnig gweithdai pwnc-benodol, wedi'u hymgorffori o fewn eich amserlen ac yn cyd-fynd â'ch cwricwlwm. E-bostiwch LibraryAcademicServices@cardiffmet.ac.uk gydag unrhyw geisiadau o'r fath.


Sgiliau Academaidd

Mae ein tîm ymroddedig o arbenigwyr sgiliau academaidd yn gwella'r cwricwla ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy ddarparu gweithgareddau addysgu a dysgu sgiliau academaidd arbenigol.. Maent yn cwmpasu ystod o bynciau ymarfer academaidd megis dulliau o ddysgu ac asesu, datblygu ysgrifennu academaidd a dadl ac ymarfer myfyriol. Cysylltwch ag AcademicSkills@cardiffmet.ac.uk i drafod unrhyw agwedd ar ein gwaith academaidd.