Fel myfyriwr Met Caerdydd sy’n astudio yn un o’n Sefydliadau Partner, mae eich mynediad i’n gwasanaethau bron yn union yr un fath ble bynnag yr ydych chi’n astudio ar draws y byd. Y brif ffordd rydym yn cefnogi eich cwrs yw’n electronig, ar-lein. Mae gennym bopeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau eich cwrs, fel e-Lyfrau, e-Gyfnodolion a chronfeydd data.
Mae ChwilioMet yn cynnwys ffynonellau academaidd premiwm, gwerthfawr, ansawdd uchel yr ydym wedi talu amdanynt i gefnogi eich cwrs. Mae ChwilioMet ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, beth bynnag yw eich lleoliad. Rhowch flaenoriaeth i ChwilioMet cyn gwefannau eraill, fel Google Scholar.
Sylwch: ni fyddwch yn gallu cyrchu unrhyw adnoddau premiwm ar ChwilioMet ar ôl i’ch cwrs orffen.
Mae ein casgliad o e-Lyfrau academaidd yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil. Yn yr un modd â’r enghraifft hon, dewiswch Online Resources gyda gair allweddol.
Cylchgronau academaidd yw e-Gyfnodolion, ac maen nhw’n ffordd wych o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar eich pwnc. Gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein ar ChwilioMet,, neu drwy ap o’r enw BrowZine sydd wedi’i restru yn ein rhestr o Gronfeydd Data yn nhrefn yr wyddor o dan ‘B’.
Mae Met Caerdydd yn tanysgrifio i 100+ o gronfeydd data sy’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth, fel adroddiadau’r farchnad, delweddau, darlithoedd fideo, ac ati. Mae ‘na gronfa ddata o’r enw Cite Them Right, sef canllaw ‘sut i’ cynhwysfawr i gydnabod gwaith eraill yr ydych chi wedi’i ddarllen, y’i gelwir hefyd yn gyfeirio.
O’n gweithdai Sgiliau Llyfrgell ac Academaidd i ganllawiau gwe, megis y canolbwynt Ymarfer Academaidd a Chanllawiau Pwnc, mae gennym gasgliad o adnoddau i wella’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo ym Met Caerdydd.
Sylwch: mae'n ddrwg gennym, oherwydd Cyfraith Hawlfraint y DU, na allwn gynnig gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd i unrhyw fyfyrwyr coleg partner, p'un a ydynt wedi'u lleoli yn y DU neu'r tu allan iddi. Cysylltwch â'ch coleg lleol neu lyfrgell leol am gymorth.