Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Leganto ar gyfer Staff: Rhagymadrodd

Rhagymadrodd i Leganto

Leganto yw system reoli rhestrau darllen Met Caerdydd. Mae’n ddull effeithlon a hawdd o lunio a chyhoeddi rhestrau darllen ar gyfer carfannau o fyfyrwyr. Mae’r system wedi’i hintegreiddio’n llawn â MetSearch a Moodle, ac mae’n rhoi mynediad hwylus i fyfyrwyr at holl ddeunyddiau cyrsiau trwy un rhyngwyneb.

Bydd modd defnyddio Leganto i greu rhestr ddarllen sy’n cynnwys deunyddiau amrywiol: llyfrau ac e-lyfrau, penodau o lyfrau ar-lein neu sydd wedi’u digideiddio, erthyglau ysgolheigaidd, fideos, delweddau, podlediadau a llawer mwy, gan greu rhestr ddarllen hyblyg, amrywiol a rhyngweithiol.

Manteision i Staff

  • Mae’n hawdd defnyddio’r system
  • Mae modd cynnwys adnoddau mewn fformatau gwahanol; gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, llyfrau ffisegol, penodau o e-lyfrau a hyd yn oed deunyddiau amlgyfrwng
  • Mae’r system wedi’i hintegreiddio’n llawn â system reoli’r llyfrgell fel bod modd cynnwys dolenni uniongyrchol i ddeunyddiau ar ChwilioMet
  • Mae’n ei gwneud yn haws diweddaru rhestrau darllen a sicrhau bod yr argraffiadau diweddaraf yn cael eu rhestru
  • Mae gwasanaeth dadansoddeg ac adroddiadau ar gael i ddysgu am y defnydd o adnoddau ac addasu cynnwys cyrsiau yn unol â hynny
  • Mae modd darparu cynnwys digidol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cyfreithiol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint

Manteision i Fyfyrwyr

  • Mynediad hwylus at holl ddeunydd darllen a deunyddiau eraill cyrsiau mewn un lle
  • Mae modd defnyddio’r system yn uniongyrchol trwy Moodle
  • Mae’n cynnwys dolenni uniongyrchol i MetSearch, gan ddarparu mynediad hwylus at adnoddau ar-lein yn uniongyrchol o’r rhestr
  • Mae’n darparu gwybodaeth am faint o gopïau caled sydd gennym a ble i ddod o hyd iddyn nhw yn y llyfrgell
  • Mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu’n weithredol at eu rhestrau darllen – gall myfyrwyr awgrymu adnoddau i’w hychwanegu yn ogystal â hoffi adnoddau, rhoi sylwadau ar restrau a chreu eu rhestrau eu hunain

Hyfforddiant a Chymorth

Rydym yn cynnal cyfres o weithdai hyfforddi ar Teams yn ystod misoedd yr haf i’ch helpu i fynd i’r afael â Leganto a dysgu sut i grynhoi a golygu rhestrau darllen.

COFRESTRWCH YMA: METHUB

Am unrhyw gymorth pellach ar sut i ddefnyddio Leganto cysylltwch â: