Bydd ymwelwyr â’r brifysgol yn gorfod cofrestru i ddefnyddio’n Wi-Fi Gwesteion. Mae’r dull hunan-gofrestru yn cynnig 5 diwrnod o fynediad i bob ymwelydd ar ôl iddynt gofrestru.
1. Agorwch osodiadau Wi-Fi eich dyfais a dewiswch y rhwydwaith gwesteion o'r rhestr.
Os nad yw'r rhwydweithiau Wi-Fi yn weladwy, efallai bod swyddogaeth wireless eich dyfais wedi'i chloi.
Gall ailosod eich dyfais ddatrys llawer o broblemau cyffredin.
2. Bydd porwr gwe yn agor y ffurflen gofrestru yn awtomatig.
Os oes gwall neu os nad oes ffurflen yn ymddangos, yna ailgychwyniwch eich dyfais a phrofwch gamau 1 a 2 eto.
Ar rai dyfeisiau, gall defnyddwyr gael eu hannog i glicio ar ddolen ‘Parhau’ i fynd ymlaen – yn yr achos hwn, cliciwch arni a dylai'r ffurflen gofrestru lwytho'n gywir.
3. Llenwch y manylion sydd eu hangen i gyd ac cliciwch ‘Cofrestru’.
Dylai eich manylion mewngofnodi ymddangos ar eich sgrin (maent hefyd yn cael eu hanfon i’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig).
Cliciwch ar y botymau 'Mewngofrestru' a 'Derbyn' i dderbyn telerau ein gwasanaeth – dylech fod wedi cysylltu â’n Wi-Fi Gwesteiwr am 5 diwrnod.
Os nad yw’n cysylltu – mae rhai dyfeisiau angen clic arall ar y rhwydwaith Gwesteiwr (gweler cam 1).