Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Dod o Hyd i Gymorth

Cofrestrwch eich Consol Gemau, Teledu neu Ddyfais

Er mwyn cysylltu eich consol gemau neu ddyfais glyfar â'r rhwydwaith Cyfryngau, bydd angen i chi gofrestru cyfeiriad MAC eich dyfais yn gyntaf.

Mae gan y cyfeiriad MAC 12 nod - fel arfer cyfuniad o lythrennau a rhifau.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r cyfeiriad MAC, ysgrifennwch ef i lawr, a chofrestrwch eich dyfais. Am ragor o wybodaeth, gweler yr erthygl yn y Gronfa Wybodaeth TG ar Halo.

Dysgwch sut i ddod o hyd i'r MAC ar gyfer:

Consolau Gemau

Nintendo Switch
  1. Dewiswch 'System Settings' yn y ddewislen Hafan.
  2. Sgroliwch i lawr a dewiswch 'Internet'.
  3. Bydd y cyfeiriad MAC yn cael ei restru yn y 'System MAC Address'.

Playstation 4 (PS4)
  1. O'r brif ddewislen, dewiswch 'Settings' > 'System'.
  2. Dewiswch 'System Information'.
  3. Bydd y cyfeiriad MAC ar gyfer WIFI a LAN yn cael ei arddangos ar y sgrin.

Playstation 5 (PS5)
  1. Cliciwch yr eicon 'Settings’ o'r sgrin hafan.
  2. Dewiswch 'System'.
  3. Dewiswch 'System Software'.
  4. Dewiswch 'Console Information'.
  5. Yna byddwch yn gweld y cyfeiriadau MAC gwifrog a diwifr ar gyfer y consol.

Xbox (yn cynnwys Xbox One, Series S and Series X)
  1. Pwyswch y botwm Xbox i agor y canllaw.
  2. Dewiswch 'Profile & System' yna 'Settings'.
  3. Dewiswch 'Network Settings'.
  4. Dewiswch 'Advanced Settings'.
  5. Byddwch yn gweld y cyfeiriadau MAC gwifrog a diwifr wedi'u rhestru.

Ffrydio Teledu

Amazon Fire Stick
  1. O'r brif sgrin hafan, dewiswch 'Menu'.
  2. Cliciwch 'Settings' a bydd y cyfeiriad MAC yn cael ei restru yn yr adran 'Device Info'.

Teledu Apple 4K / Teledu Apple HD
  1. Ewch i 'Settings'.
  2. Dewiswch 'General'.
  3. Dewiswch 'About'.
  4. Chwiliwch am y Cyfeiriad Wi-Fi neu'r Cyfeiriad Ethernet (yn dibynnu ar y math o gysylltiad). Dyma'r cyfeiriad MAC.

Google Chromecast
  1. Plygiwch a gosodwch eich Chromecast ar y teledu.
  2. Agorwch y sgrin gosod Chromecast (mae hyn fel arfer yn dangos yn ystod y gosodiad cychwynnol neu ar ôl ailosod ffatri).
  3. Dylai’r cyfeiriad MAC gael ei arddangos ar waelod y sgrin hon, wedi'i restru fel cyfeiriad Wi-fi MAC neu gyfeiriad Ethernet MAC (os ydych chi'n defnyddio cysylltiad gwifrog).

Ffon Ffrydio Roku
  1. Cysylltwch eich Ffon Roku â'ch teledu.
  2. Ar sgrin gartref Roku, ewch i ‘Settings’.
  3. Ewch i ‘Network’.
  4. Dewiswch ‘About’ neu ‘Check Connection’.
  5. Fe welwch y Cyfeiriad Wi-Fi MAC ac, os yw'n berthnasol, y Cyfeiriad Ethernet MAC.

Seinyddion Clyfar

Amazon Echo
  1. Agorwch ap Alexa ar eich dyfais symudol.
  2. Dewiswch y ddewislen llywio chwith uchaf.
  3. Dewiswch 'Settings'.
  4. Dewiswch 'Device Settings'.
  5. Dewiswch eich dyfais.
  6. Sgroliwch i lawr i'r gwaelod a dewiswch 'About'.

Apple HomePod
  1. Agorwch ap 'Home' ar eich iPhone neu iPad
  2. Dewch o hyd i'r eicon HomePod a gwasgwch yn hir.
  3. Sgroliwch i lawr a thapiwch ‘Settings’ (eicon gêr yn y gornel isaf).
  4. Sgroliwch ymhellach i'r adran ‘Wi-fi Address’. Dyma gyfeiriad MAC eich HomePod.
  5. Bydd y cyfeiriad MAC yn ymddangos fel cyfres o rifau a llythrennau wedi'u gwahanu gan colonau (e.e., 00:1A:2B:3C:4D:5E).

Google Home
  1. Agorwch ap Google Home.
  2. Tapiwch a daliwch teil eich dyfais.
  3. Ar y dde uchaf, tapiwch ‘Settings’. Gwybodaeth am ddyfais.
  4. Dylai’r cyfeiriad MAC fod wedi’i restru o dan Gwybodaeth Dechnegol. Os nad ydyw, gwiriwch gysylltiad Wi-FI y ddyfais.

Teledu Clyfar

Teledu Clyfar Samsung
  1. Trowch eich Teledu Clyfar Samsung ymlaen.
  2. Pwyswch y botwm ‘Home’ ar y rheolydd pell ac ewch i ‘Settings’.
  3. Ewch i ‘General’ (ar fodelau mwy newydd, efallai y bydd yn cael ei alw’n ‘Connection’ neu ‘Network’).
  4. Dewiswch ‘Network’ ac yna ‘Network Status’.
  5. Dewiswch ‘Network Settings’ neu ‘Wireless/Wired’ (yn dibynnu ar eich math o gysylltiad).
  6. Dewiswch ‘IP Settings’ neu ‘View Details’.
  7. Bydd y Cyfeiriad MAC yn cael ei arddangos o dan gyfeiriad Wi-Fi MAC neu gyfeiriad Ethernet MAC.

Teledu Clyfar LG
  1. Trowch eich Teledu Clyfar LG ymlaen.
  2. Pwyswch y botwm ‘Home’ ar y rheolydd pell i gael mynediad i'r Brif Ddewislen.
  3. Ewch i ‘Settings’ (eicon gêr) neu ‘All Settings’.
  4. Ewch i’ Network’ a dewiswch ‘Wi-Fi Connection’ neu ‘Wired Connection’ (Ethernet), yn dibynnu ar eich math o gysylltiad.
  5. Cliciwch ar ‘Advanced Wi-Fi Settings’ neu ‘Wired Settings’ (ar gyfer Ethernet).
  6. Chwiliwch am y Cyfeiriad MAC o dan y ‘connection details’.

Teledu Clyfar Sony
  1. Trowch eich Teledu Clyfar Sony ymlaen.
  2. Pwyswch y botwm ‘Home’ ar y rheolydd pell.
  3. Ewch i ‘Settings’ (eicon gêr).
  4. Ewch i ‘Network & Internet’ (neu dim ond ‘Network’ ar rai modelau).
  5. Dewiswch ‘Network Status’ neu ‘Adanced Settings’.
  6. Dewiswch ‘Network Information’ neu ‘Wired/Wireless Setup’, yn dibynnu ar eich math o gysylltiad.
  7. Bydd y Cyfeiriad MAC ar gyfer Wi-Fi ac Ethernet (os yw'n berthnasol) yn cael ei arddangos.