Leganto yw system rhestrau darllen ar-lein Met Caerdydd. Mae rhestrau darllen yn eicj galluogi i gyrchu adnoddau a argymhellir gan eich darlithwyr yn hawdd ac yn gyflym.
Ar eich rhestr ddarllen fe welwch fanylion y llyfrau, y penodau a'r erthyglau y disgwylir i chi eu darllen wrth baratoi ar gyfer darlithoedd, seminarau ac aseiniadau.
Mae rhestrau darllen Leganto yn caniatáu ichi:
Gallwch gyrchu eich rhestr ddarllen o'r cwrs Moodle perthnasol neu drwy fewngofnodi i ChwilioMet a chlicio ar y ddolen “Rhestrau Darllen” ar frig y dudalen:
Fe welwch eich holl restrau darllen yn yr adran Rhestrau. I gyrchu cynnwys rhestr, cliciwch ar y teitl:
Bydd y rhan fwyaf o restrau yn cael eu rhannu'n adrannau, megis Gofynnol, a Argymhellir neu Darllen pellach ond gall hefyd fod adrannau ar gyfer darllen wythnosol neu ar gyfer darlithoedd, seminarau neu aseiniadau penodol:
Gallwch weld a yw pob eitem ar gael ar-lein neu ble gallwch ddod o hyd iddi yn y llyfrgell:
Gallwch ddefnyddio Leganto i gadw golwg ar yr hyn sydd gennych ac nad ydych wedi’i ddarllen. Cliciwch ar y tic i’r chwith o eitem er mwyn ei nodi fel ‘wedi gwneud’:
Yna bydd yn ymddangos gyda chroes drwyddo ar eich rhestr:
Mae’r botwm ‘ffefrynnau’, Favourites, yn eich galluogi i greu casgliad eich hun o adnoddau o restrau darllen neu unrhyw ffynhonnell ar-lein arall. I ychwanegu eitem o restr ddarllen at Favourites, cliciwch ar y tri dot wrth ymyl eitem a dewiswch Save as favourite.
I ychwanegu eitemau o adnodd ChwilioMet, chwiliwch am adnoddau llyfrgell am eitemau sydd yn ein casgliad. Cliciwch ar y teitl a dewiswch yr opsiwn Leganto yn yr adran Send to. Dewiswch Favourites ac yna ychwanegu at Add to reading list.
Gallwch hefyd ychwanegu eitemau at Favourites oddi ar wefannau. I wneud hyn, bydd angen i chi ychwanegu botwm Cite It! at lyfrnodau eich porwr. Cliciwch ar eich enw ar ochr dde uchaf y sgrin, yna dewiswch Cite It! a llusgwch y botwm porffor sy’n ymddangos ar sgrin y ffenestr naid i’ch bar llyfrnodau:
Pan fyddwch yn dod o hyd i eitem berthnasol a restrir ar wefan, dewiswch botwm Cite it! a bydd ffenestr naid yn ymddangos. Yna gallwch ei ychwanegu’n uniongyrchol at Favourites.
Gellir gweld rhyngwyneb Leganto naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. I ddewis eich dewis iaith, cliciwch ar y cog Gosodiadau ar ochr dde uchaf y sgrin a dewiswch Saesneg. Bydd blwch Dewiswch eich iaith yn agor. Dewiswch Cymraeg a Cau.
Mae'n bosibl ffurfweddu'r gosodiadau hygyrchedd yn Leganto i osod maint y ffont a chyferbyniad:
Cliciwch ar y cog Gosodiadau yn y gornel dde uchaf a dewiswch Gosodiadau Hygyrchedd.
Dewiswch eich maint ffont a ddymunir, cyferbyniad safle a ffefrir, pa mor hir i arddangos neges adborth, a dewiswch Cau. Mae eich gosodiadau wedi’u gosod.