Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch ChwilioMet, ond gadewch i ni ddechrau trwy chwilio am lyfrau. Os oes gennych restr ddarllen wrth law, dyma lle rydych chi'n dechrau.
Ewch i ChwilioMet trwy ddefnyddio’r ddolen uchod a MEWNGOFNODI. Dyma'r peth pwysicaf i'w gofio pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio ChwilioMet, fel eich bod bob amser yn cael mynediad llawn i'n holl adnoddau electronig.
Os yw'ch chwiliad yn cynhyrchu llawer o ganlyniadau gallwch ddefnyddio'r offeryn “Addasu fy Nghanlyniadau” yn ChwilioMet i hidlo eich canlyniadau. Ar ochr dde'r sgrin, gallwch weld yr opsiynau sydd ar gael:
Gallwch hidlo eich canlyniadau i ddangos llyfrau o'r naill gampws neu'r llall gan ddefnyddio'r opsiwn Llyfrgell neu ddewis cyfyngu ar yr ystod dyddiad. Yna mae unrhyw hidlwyr rydych chi'n eu hychwanegu at eich chwiliad yn cael eu harddangos uwchben y golofn “Addasu fy Nghanlyniadau”. Os ydych am ddefnyddio’r un hidlwyr ar gyfer chwiliadau lluosog, yna gallwch gloi eich dewisiadau wedi’u hidlo trwy glicio ar “Cofiwch yr holl hidlyddion”. Peidiwch ag anghofio “Ailosod yr hidlwyr” pan fyddwch wedi gorffen.
Bydd defnyddio'r offeryn “Addasu fy Nghanlyniadau” yn lleihau nifer y canlyniadau, gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i adnoddau.
NODER: Bydd “Ehangu Fy Nghanlyniadau” yn cynnwys canlyniadau chwilio o fynegai adnoddau nad oes gan Met Caerdydd fynediad atynt. O ganlyniad, mae'r nodwedd hon o ChwilioMet i'w defnyddio'n bennaf wrth ddyfnhau eich ymchwil i faes penodol ar gyfer eich traethawd hir israddedig neu PhD, er enghraifft. Bydd pob astudiaeth israddedig yn cael ei darparu ar gyfer heb fod angen defnyddio'r nodwedd hon.
AWGRYM DA — Rhif y gyfrol/rhifyn neu’r dyddiad cyhoeddi: Cadwch lygad allan ar y ddau ddarn pan fyddwch yn chwilio ar ChwilioMet i sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r gyfrol/rhifyn cywir.
Bydd y rhifyn neu'r dyddiad cyhoeddi i’w weld yn glir pan fyddwch yn dewis un o'ch canlyniadau:
Cymerwch nodyn o'r rhif MARC SILFF. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddod o hyd i'r llyfr print yn y llyfrgell:
Mae rhifau marc silff yn cyfeirio at bwnc y llyfr ac yn rhedeg o 000 i 999. Po hiraf y rhif, y mwyaf penodol yw pwnc y llyfr. Er enghraifft, mae'r llyfr yn y chwiliad uchod yn ymdrin â seicoleg ddatblygiadol - maes pwnc eang – felly mae ganddo’r rhif 155. Fodd bynnag, mae llyfr sy'n ymchwilio i seicoleg lluniadu plant yn 155.413 gan ei fod yn faes astudio mwy penodol.
Y llythrennau ar ddiwedd y rhif yw 3 llythyren gyntaf enw'r awdur neu'r prif olygydd, e.e. 155 BUR. Weithiau mae llawer o deitlau gyda’r un rhif a gall fod yn anodd dod o hyd i'r un sydd ei hangen arnoch. Trwy ychwanegu tair llythyren gyntaf enw'r awdur, gallwch ddod o hyd i'r un cywir.
Os ydych chi ar y campws cymrwch y rhif hwn - naill ai nodwch ef i lawr er mwyn dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch, neu ofyn i aelod o’r llyfrgell am gymorth.
AWGRYM DA — Pori: Mae'r llyfrau ar y silff sydd a’r un rhif yn trafod yr un pwnc, felly gallwch bori ar y campws. Mae ChwilioMet hefyd yn caniatáu ichi wneud hyn ar-lein, sgroliwch i lawr at waelod y dudalen i ddarganfod yr adran “Pori”. Mae’r llyfrau wedi’u trefnu yn ôl y marc silff ac yma galwch sgrolio drwy ystod o grynoluniau o gloriau’r llyfrau fel petaech yn pori’r silff. Felly, gallwch bori ar y campws neu gartref!
Pan fyddwch am ofyn am lyfr, ac nad yw’r llyfr ar gael i’w fenthyg neu wedi'i leoli ar gampws arall, gallwch ofyn amdano drwy sgrolio i lawr i 'Archebu' a chlicio ar "Cais". Mae hyn yn caniatáu ichi gadw'r llyfr rydych chi ei eisiau.
Ar ôl i chi glici "Cais"gallwch chi ddewis o ba gampws rydych am gasglu eich llyfr, waeth pa gampws rydych wedi'ch lleoli; er enghraifft, os ydych yn byw ar gampws Cyncoed a bod y llyfr yn Llandaf, byddwn yn ei anfon at lyfrgell Cyncoed i chi ei gasglu.
Gallwch hefyd ddewis anfon y llyfr i'ch cyfeiriad cartref yn rhad ac am ddim, a bydd hwn yn dod gyda chyfeiriad rhadbost fel y gallwch ei bostio'n ôl atom am ddim hefyd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael os nad ydych yn gallu mynd ar y campws i gasglu eich llyfr, er enghraifft os ydych chi’n sâl.
*NODER: Nid yw'r gwasanaeth dosbarthu Post ar gael i fyfyrwyr Masnachfraint, staff Masnachfraint a Benthycwyr Allanol.
Cyn i chi adael y llyfrgell peidiwch ag anghofio benthyg y llyfr gan ddefnyddio un o'r peiriannau hunanwasanaeth. Bydd angen eich CerdynMet arnoch i wneud hyn.
Yn ogystal â'r llyfrau print niferus mae gennym lwyth o e-lyfrau.
Peidiwch ag anghofio MEWNGOFNODI i ChwilioMet fel na fyddwch yn colli allan ar y miloedd o adnoddau electronig sydd gennym ar gael i chi eu defnyddio.
Pan fyddwch yn chwilio am e-lyfr, defnyddiwch “Addasu eich Canlyniadau” i hidlo’r holl e-lyfrau sydd ar gael gan ddefnyddio hidlyddion "Argaeledd = Mynediad Ar-lein" a "Math o Adnoddau".
NODER: Bydd “Ehangu Fy Nghanlyniadau” yn cynnwys canlyniadau chwilio o fynegai adnoddau nad oes gan Met Caerdydd fynediad atynt. O ganlyniad, mae'r nodwedd hon o ChwilioMet i'w defnyddio'n bennaf wrth ddyfnhau eich ymchwil i faes penodol ar gyfer eich traethawd hir israddedig neu PhD, er enghraifft. Bydd pob astudiaeth israddedig yn cael ei darparu ar gyfer heb fod angen defnyddio'r nodwedd hon.
Mae clicio ar y canlyniad rydych chi ei eisiau yn mynd â chi i dudalen lle gallwch ddarllen yr e-lyfr cyfan ar-lein:
Am ragor o wybodaeth am sut i lawrlwytho ac arbed eLyfrau i’w defnyddio all-lein gweler ein canllaw yma.