Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Lawrlwytho e-lyfrau ar gyfer mynediad all-lein

VLeBooks - Lawrlwytho pennod

Os ydych chi'n gwybod y bennod neu'r adran rydych chi eisiau cael mynediad iddi all-lein, argymhellir eich bod yn lawrlwytho'r bennod fel PDF. Nid oes angen meddalwedd trydydd parti wrth lawrlwytho pennod ac nid yw'n dod i ben ar ôl cyfnod o amser, felly gallwch gadw'r PDF.

Cliciwch ar ‘Read Online’ ar dudalen manylion y llyfr:

O dudalen manylion y llyfr, cliciwch ar yr eicon argraffu ar frig y dudalen:

Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am nifer y tudalennau y gallwch eu hargraffu/cadw o'r llyfr. Ar ôl i chi argraffu / lawrlwytho tudalen, mae'r lwfans yn cyfrif i lawr yn awtomatig.

Teipiwch y tudalennau rydych chi am eu cadw a chliciwch ar ‘Print’:

Nesaf i ‘Destination’ cliciwch ar y gwymplen a dewiswch ‘Save as PDF’. Cliciwch ‘Save’ a bydd hyn yn rhoi'r opsiwn i chi gadw'r tudalennau a ddewiswyd fel PDF:

VLeBooks - Lawrlwytho llyfr gyfan

Cyn lawrlwytho llyfr llawn ar VLeBooks, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod Adobe Digital Editions ar eich dyfais.

Dewch o hyd i'r llyfr rydych chi am ei lawrlwytho a chliciwch ar ‘Download’:

Dewiswch nifer y diwrnodau rydych chi am ei lawrlwytho a chliciwch ar ‘Download’:

Bydd hyn yn creu dolen lawrlwytho. Cliciwch ar ‘Click here to download’ a bydd y llyfr yn agor yn Adobe Digital Editions:

O Adobe Digital Editions gallwch weld pa mor hir rydych sydd gennych nes i'r llyfr ddod i ben:

VLeBooks - Lawrlwytho i ffôn symudol

Gosod ap Adobe Digital Editions (Ar gael ar Apple App Store a Google Play):

Chwiliwch am y llyfr rydych chi am ei lawrlwytho ar MetSearch a'i agor yn VLeBooks.

1. Cliciwch ‘Download’:

2. Dewiswch nifer y diwrnodau rydych chi am ei lawrlwytho:

3. Cliciwch ‘Click here to download’:

4. Cliciwch ‘Download’:

5. Cliciwch ar y saeth lawrlwytho sy'n ymddangos wrth ymyl yr URL:

6. Cliciwch ar y rhif llyfr:

7. Cliciwch ar y saeth uwchlwytho yn y gornel dde uchaf. Dewiswch Digital Editions:

Yna bydd y llyfr yn ymddangos yn eich llyfrgell a bydd ar gael alllein tan y dyddiad dod i ben.