Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Lawrlwytho e-lyfrau ar gyfer mynediad all-lein

Adobe Digital Editions

I lawrlwytho llyfr llawn o'r rhan fwyaf o lwyfannau, gan gynnwys Ebook Central a VLeBooks, mae angen i chi osod Adobe Digital Editions ar eich dyfais. Mae Adobe Digital Editions yn e-Ddarllenydd am ddim sy'n eich galluogi i ddarllen a lawrlwytho e-lyfrau mewn fformatau PDF ac EPUB a gellir eu defnyddio ar gyfrifiaduron, Macs, tabledi neu ddyfeisiau symudol. Gallwch lawrlwytho meddalwedd hwn am ddim oddi wrth wefan Adobe. Mae'r ap hefyd ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store ar ddyfeisiai Apple a Google Play Store.

Noder: os oes gennych liniadur Met Caerdydd, efallai y bydd angen i chi gysylltu â TG i osod Adobe Digital Editions ar eich gliniadur.

I osod Adobe Digital Editions, dewiswch yr opsiwn cywir ar gyfer eich dyfais:

Pan ofynnwyd "Do you want to allow this app to make changes to your device?" cliciwch Yes ac yna derbyn telerau'r cytundeb trwydded a chlicio Next:

Yna bydd y meddalwedd yn gosod ac yn agor. Os gofynnir i chi Awdurdodi Eich Cyfrifiadur, ticiwch y blwch wrth ymyl I want to authorize my computer without an ID:

Ar ôl ei osod, gallwch fynd yn ôl i’r llyfr a lawrlwytho’r testun llawn.