Cyfeirnodi yw'r arfer o gydnabod ffynonellau tya ddefnyddiwyd gennych wrth ysgrifennu eich gwaith. Mae cyfeirnodi cywir yn nodwedd o waith academaidd o ansawdd uchel ac mae’n rhan bwysig o waith. Mae yna lawer o ffyrdd o gyfeirnodi a elwir yn arddulliau cyfeirio. Ym Met Caerdydd, mae'r rhan fwyaf o'n hysgolion yn defnyddio un o arddulliau Cite Them Right er y dylech ddilyn cyngor gan arweinwyr eich cwrs ar ba arddull sy'n cael ei ffafrio.
Mae Apiau Rheoli Cyfeirio yn boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr a staff fel ei gilydd gan eu bod yn awtomeiddio'r broses lled ddiflas o gynhyrchu dyfyniadau. Mae apiau o'r fath yn gwneud mwy na chynhyrchu llyfryddiaeth yn unig, ac mae ganddynt y nodweddion canlynol:
Mae Met Caerdydd wedi prynu'r fersiwn lawn a diweddaraf o EndNote 21 ar eich cyfer chi. Dyma’r mwyaf cynhwysfawr o'r holl feddalwedd cyfeirio sydd ar gael. Mae'r ap EndNote eisoes wedi'i osod ar bob cyfrifiadur ar y campws. Ar gyfer dyfeisiau personol yn unig, gallwch lawrlwytho EndNote o AppsAnywhere. Ar ôl mewngofnodi gyda'ch rhif a'ch cyfrinair myfyriwr neu staff arferol.
Fel arall, mae AppsAnywhere hefyd yn cynnwys cynhyrchion eraill fel Mendeley a Zotero. Mae nodweddion, swyddogaethau a rhyngwynebau defnyddwyr EndNote, Mendeley a Zotero bellach yn debyg iawn, ac mae dewis rhyngddynt yn fater o ddewis personol. Fodd bynnag, dim ond cyfrif sylfaenol gyda swyddogaeth storio dogfennau cyfyngedig a gynigir gan Mendeley a Zotero. Os oes angen mwy o storio arnoch, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cynllun tanysgrifio personol a thalu amdano eich hun.
Mae dau ap rheoli cyfeirio mwy nodedig y gallech fod am roi cynnig arnynt. Papers a Paperpile yw’r rhain. Nid yw’r ddau yma ar AppsAnywhere, ac mae'r ddau yn cynnwys treial am ddim ac yna cynllun tanysgrifio personol. Mae Paperpile ychydig yn rhatach ac mae hefyd wedi'i glymu i ecosystem Google h.y. Drive, Docs a Chrome.
Yn y pen draw, oni bai bod arweinwyr eich cwrs yn dweud fel arall, y chi sy’n penderfynu p'un a ydych yn dymuno defnyddio Apiau Cyfeirnodi neu’n parhau i ddefnyddio pa bynnag ddull rydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gofnodi a storio eich ymchwil.
Os yw'r manteision yn gorbwyso'r anfanteision yn y tabl uchod, yna ewch i AppsAnywhere a lawrlwytho EndNote, Zotero a / neu Mendeley i'ch dyfais bersonol. Neu gallwch gofresru ar gyfer treial am ddim gyda Papers neu Paperpile.
Ceisiwch ddefnyddio'r meddalwedd gydag ymarfer yn y byd go iawn, ond ni gyda dyddiad cau agos. Cofiwch y bydd y meddalwedd yn cymryd amser i ddysgu ac ymgorffori yn eich ymarfer.
Defnyddiwch y canllawiau hunan-ddysgu rhagorol hyn ar gyfer Mendeley, EndNote Help Guides, EndNote YouTube, a Zotero, a Papers Training Center.
Ar gyfer EndNote, mae Gwasanaethau Llyfrgell Met Caerdydd wedi creu cyflwyniad fideo y gellir ei lawrlwytho sy’n cwmpasu'r prif nodweddion.
Gosod: Os oes gennych unrhyw anhawster wrth osod Apiau Rheoli Cyfeirio ar eich dyfais bersonol, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth TG.
Hyfforddiant: Am gymorth ac hyfforddiant wrth ddefnyddio'r apiau, cysylltwch â Gwasanaethau Llyfrgell.
Am arweiniad mwy cyffredinol ar gyfeirnodi a materion cysylltiedig, ewch i hyb Ymarfer Academaidd ein gwefan Gwasanaethau Llyfrgelloedd, neu StudySmart, y modiwl Llyfrgell ac Ymarfer Academaidd ar Moodle.