Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Y Gyfraith (YRC)

Llyfrau Argraffedig

Mae llyfrau yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil ac yn rhoi trosolwg ardderchog o bwnc. Cedwir y rhan fwyaf o lyfrau Y Gyfraith yng Nghanolfan Ddysgu Llandaf, gyda rhai yng Nghyncoed. Gellir dod o hyd i lyfrau drwy chwilio ChwiloMet neu yn Rhestrau Darllen Leganto y mae eich tiwtor yn eu darparu ar Moodle. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i 'Defnyddio ChwilioMet'.

Y rhif silff allweddol (lleoliad) ar gyfer y pwnc hwn yw 340 i'w cael ar feingefn y llyfr ac arwyddion diwedd eil. Gweler y blwch rhifau silff defnyddiol ar y dde am fwy o leoliadau sy'n berthnasol i'ch pwnc.

Mae desgiau cymorth llyfrgell ar bob llawr yn ein Canolfannau Dysgu yn Llandaf ac yng Nghyncoed. Gofynnwch i’n Staff Llyfrgell eich helpu i ddod o hyd i lyfrau.

Elyfrau

Mae miloedd o elyfrau ar ChwilioMet ac, yn wahanol i lyfrau wedi argraffu, maent ar gael unrhyw le ar unrhyw adeg. Mae elyfrau yn cynnig ystod o nodweddion wrth ddarllen ar-lein, gan gynnwys nodiadau, newid maint testun, lawrlwytho ac argraffu. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Chwilio am Lyfrau ac Elyfrau, sy'n cynnwys sut i gadw llyfrau.

Sut i wybod a oes llyfr ar gael ar-lein?

Yn eich canlyniadau ChwilioMet, mae Ar gael yn yn golygu bod y llyfr ar gael ar ffurf gopi caled. Mae nodyn yn dweud Mynediad arlein yn golygu ei fod yn Elyfr a bod mynediad ato ar-lein.

Awgrymwch bryniant neu gofynnwch am lyfr

Os hoffech gael llyfr ond nad yw gennym ni, yna ystyriwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd, neu gallwch wneud Cais i Brynu

Rhifau Silff Defnyddiol

  • 331.1026 Cyfraith Cyflogaeth, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 340.0711 Dysgu'r System Gyfreithiol a Sgiliau, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 341.2422 Cyfraith Ewropeaidd, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 342.41 Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 343.420998, 343.410999 Cyfraith Cyfryngau a Thechnoleg Gwybodaeth, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 344.41046, 363.70026 Cyfraith Amgylcheddol, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 345 Seiberdrosedd, Cyfraith Droseddol, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 346.42 Cyfraith Contractau, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Tir, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 346.42004 Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 346.4207, 381.34026 Cyfraith Masnachol a Diogelu Defnyddwyr, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 347.052 Eiriolaeth, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 347.42, 349.42 System Gyfreithiol Lloegr, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 347.4206 Cyfraith Tystiolaeth, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 381.34026 Cyfraith Defnyddwyr, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 382.026 Cyfraith Masnach Ryngwladol, Ail lawr Llyfrgell Llandaf
  • 650.026 Cyfraith Busnes, Ail lawr Llyfrgell Llandaf