Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Iechyd yr Amgylchedd (YChGIC)

Dod o Hyd i Gymorth

Mae cymorth ar flaenau eich bysedd, mor agos â chlic i ffwrdd. Ein hyb Dod o Hyd i Gymorth yw’r lle gorau i ddysgu am y ffyrdd niferus o gysylltu â ni, megis E-bost, Cyfryngau Cymdeithasol, neu Sgwrs Llyfrgell.

Ymarfer Academaidd

Mae Ymarfer Academaidd yn golygu dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich aseiniadau a dod yn ddysgwr effeithiol yn y Brifysgol. Mae ein hyb Ymarfer Academaidd yn llawn canllawiau ar sut i gyfeirnodi eich gwaith yn gywir, gwella eich arddull ysgrifennu academaidd, neu allu meddwl yn feirniadol.

StudySmart

Yn ogystal â’r hwb Ymarfer Academaidd, mae StudySmart yn adnodd Moodle sy’n agored i holl fyfyrwyr Met Caerdydd. Mae'n llawn canllawiau, taflenni ffeithiau, darllen pellach a chyrsiau bach sy'n eich helpu i gael y gorau o'ch amser fel dysgwr yn y Brifysgol.

Darganfod@MetCaerdydd

Yn Darganfod@MetCaerdydd gallwch ddod o hyd i lawer o ganllawiau defnyddiol i helpu eich astudiaethau. P'un a oes angen i chi wella'ch sgiliau chwilio, dysgu mwy am MetSearch neu Google Scholar, neu sut i ddefnyddio'r Cronfeydd Data A-Z, mae gennym ni rywbeth i chi yn y canllawiau hyn!

Archwiliwch ein canllawiau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i gael y gorau o'n hadnoddau, yn ogystal â'r offer ymchwil a darganfod amrywiol a gynigir ym Met Caerdydd.

Cadwch mewn Cysylltiad

Yn olaf, hoffem ddymuno croeso cynnes i chi i Wasanaethau Llyfrgell Met Caerdydd a phob lwc gyda'ch astudiaethau. Os oes gennych unrhyw adborth am y canllaw hwn, cysylltwch â ni.

Archebwch Lyfrgellydd

Mae ein Llyfrgellwyr Academaidd yma i'ch helpu i gael y gorau o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data'r Llyfrgell yn y canllaw hwn. Defnyddiwch Cysylltwch â Llyfrgellydd i drefnu apwyntiad ar-lein neu ar y campws gydag un o'n staff cyfeillgar a phroffesiynol. Cofiwch y gallwch chi hefyd alw heibio yn un o'n Hybiau Llyfrgell during yn ystod oriau staff.

Archebwch Weithdy

Beth am archebu lle ar un o'n gweithdai sy’n rhad ac am ddim, sesiynau hyfforddi allgyrsiol ar Sgiliau Ymarfer Academaidd.