Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (YAPhCC)

Cronfeydd Data

Nid yw'r llyfrgell yn tanysgrifio i lyfrau a chyfnodolion yn unig, mae gennym hefyd fynediad i amrywiaeth eang o gronfeydd data ar gyfer eich maes astudio neu ymchwil. Mae 'Cronfa Ddata' yn golygu ffynonellau gwybodaeth electronig, sy'n cynnwys casgliadau e-gylchgronau ac e-lyfrau, delweddau, adroddiadau marchnad, ystadegau, darlithoedd fideo, a mwy.

Sut i ddefnyddio'r Cronfeydd Data A-Y

Mae ein Cronfeydd Data A-Y yn rhestr yn nhrefn yr wyddor o'n holl gronfeydd data. Mae croeso i chi sgrolio drwy'r rhestr gyfan neu glicio ar lythyren i neidio i enwau cronfa ddata sy'n dechrau gyda'r llythyren honno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Defnyddio Cronfeydd Data A-Y.



Fel arall, chwiliwch am gronfeydd data yn ôl enw, pwnc neu’r math o wybodaeth a gwmpesir.

Eiconau

Wrth ochr bob cronfa ddata, mae labeli sy'n dynodi pa fath o gronfa ddata ydyw a hefyd eiconau sy'n amlygu nodweddion, megis hygyrchedd, e-Hyfforddiant, apiau symudol cydymaith, neu a oes angen cofrestriad ychwanegol.

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad at y gronfa ddata neu os hoffech wybod mwy amdani.

Cronfeydd Data a Argymhellir

Egyfnodolion
  • Arts & Humanities Database Mae cronfa ddata cyfnodolion testun llawn yn cynnwys cannoedd o deitlau sy'n cwmpasu celf, pensaernïaeth, dylunio, hanes, athroniaeth, cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr ac astudiaethau diwylliannol.
  • Drama Online Offeryn ymchwil ar-lein ar gyfer drama a llenyddiaeth. Yn cyfuno cynnwys testun chwarae a chyhoeddiadau ysgolheigaidd â pherfformiadau byw wedi'u ffilmio, addasiadau ffilm, a dramâu sain..
  • JSTOR Cronfa ddata sy'n darparu mynediad i archif ysgolheigaidd o gyfnodolion, delweddau a ffynonellau sylfaenol o'r celfyddydau, busnes ac economeg, y dyniaethau, y gyfraith, meddygaeth, gwyddoniaeth, a'r gwyddorau cymdeithasol./li>
  • ProQuest One Literature Mae ProQuest One Literature yn dwyn ynghyd y casgliad mwyaf cynhwysfawr o destunau sylfaenol, e-lyfrau, ffynonellau cyfeirio, cyfnodolion testun llawn, traethodau, fideos a mwy.

Cyfeirnodi
  • Cite Them Right Offeryn cyfeirio ar-lein i helpu myfyrwyr i gyfeirnodi'n gywir a deall sut i osgoi llên-ladrad.

Newyddion
  • European Newsstream Chwiliwch y cynnwys newyddion diweddaraf o'r DU ac Ewrop gydag archifau yn ôl i'r 1990au. Yn cynnwys papurau newydd fel The Guardian a The Times, gwifrau newyddion, cyfnodolion, a gwefannau mewn fformat testun llawn.
  • Times Digital Archive Cronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys pob rhifyn o bapur newydd The Times sy’n rhoi mynediad at yr holl erthyglau, hysbysebion a lluniau/ffotograffau.

Fideo a Sain
  • BBC Shakespeare Archive Chwaraewch dros 900 o raglenni o archif y BBC o ddramâu, cerddi a sonedau Shakespeare.
  • Box of Broadcasts Gwasanaeth teledu a radio ar-alw Learning on Screen ar gyfer addysg.
  • Sage Research Methods Video: Practical Research and Academic Skills Mae Fideo Dulliau Ymchwil Sage: Ymchwil Ymarferol a Sgiliau Academaidd yn cefnogi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu cynigion, dylunio prosiectau, a sicrhau cymeradwyaeth foesegol.
  • Teacher's TV Casgliad a grëwyd gan Adran Addysg y DU o fideos cyfarwyddiadol yn cynnwys arddangosiadau a sylwebaeth ddiddorol ac ymarferol yn y dosbarth.

Ystadegau a Data
  • Statista Llwyfan data byd-eang a gwybodaeth busnes gyda chasgliad helaeth o ystadegau, adroddiadau, mewnwelediadau a ffeithluniau.

Geiriaduron
  • Literary Encyclopedia Mae’r Literary Encyclopedia yn adnodd cyfeirio sy’n darparu proffiliau manwl o awduron a thestunau, a gwybodaeth sylfaenol am eu cyd-destunau diwylliannol.

Ymchwil
  • Sage Research Methods FoundationsYn rhoi cyflwyniad i ddulliau a thermau ymchwil ar gyfer y rhai sy'n newydd i ymchwil yn gyffredinol neu i ddull penodol.
  • Scopus Cronfa ddata haniaethol a dyfyniadau amlddisgyblaethol o lenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid, yn cwmpasu'r meysydd ymchwil canlynol: gwyddoniaeth, technoleg, meddygaeth, y gwyddorau cymdeithasol, a'r celfyddydau a'r dyniaethau.