Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Gwyddor Biofeddygol a Gwyddor Gofal Iechyd (YChGIC)

Llyfrau Argraffedig

Mae llyfrau yn fan cychwyn da ar gyfer eich ymchwil ac yn rhoi trosolwg ardderchog o bwnc. Cedwir y rhan fwyaf o lyfrau Gwyddor Biofeddygol a Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghanolfan Ddysgu Llandaf, gyda rhai yng Nghyncoed. Gellir dod o hyd i lyfrau drwy chwilio ChwiloMet neu yn Rhestrau Darllen Leganto y mae eich tiwtor yn eu darparu ar Moodle. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i 'Defnyddio ChwilioMet'.

Y rhif silff allweddol (lleoliad) ar gyfer y pwnc hwn yw 572 i'w cael ar feingefn y llyfr ac arwyddion diwedd eil. Gweler y blwch rhifau silff defnyddiol ar y dde am fwy o leoliadau sy'n berthnasol i'ch pwnc.

Mae desgiau cymorth llyfrgell ar bob llawr yn ein Canolfannau Dysgu yn Llandaf ac yng Nghyncoed. Gofynnwch i’n Staff Llyfrgell eich helpu i ddod o hyd i lyfrau.

Elyfrau

Mae miloedd o elyfrau ar ChwilioMet ac, yn wahanol i lyfrau wedi argraffu, maent ar gael unrhyw le ar unrhyw adeg. Mae elyfrau yn cynnig ystod o nodweddion wrth ddarllen ar-lein, gan gynnwys nodiadau, newid maint testun, lawrlwytho ac argraffu. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Chwilio am Lyfrau ac Elyfrau, sy'n cynnwys sut i gadw llyfrau.

Sut i wybod a oes llyfr ar gael ar-lein?

Yn eich canlyniadau ChwilioMet, mae Ar gael yn yn golygu bod y llyfr ar gael ar ffurf gopi caled. Mae nodyn yn dweud Mynediad arlein yn golygu ei fod yn Elyfr a bod mynediad ato ar-lein.

Awgrymwch bryniant neu gofynnwch am lyfr

Os hoffech gael llyfr ond nad yw gennym ni, yna ystyriwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd, neu gallwch wneud Cais i Brynu

Rhifau Silff Defnyddiol

  • 570 Gwyddorau Bywyd , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 572 Biocemeg, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 574 Bioleg, Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 611 Anatomeg Dynol , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 612 Ffisioleg Dynol , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 612.015 Biocemeg Feddygol , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 616.079 Imiwnoleg , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf
  • 616.9041 Microbioleg , Llawr cyntaf Llyfrgell Llandaf