Nid yw'r llyfrgell yn tanysgrifio i lyfrau a chyfnodolion yn unig, mae gennym hefyd fynediad i amrywiaeth eang o gronfeydd data ar gyfer eich maes astudio neu ymchwil. Mae 'Cronfa Ddata' yn golygu ffynonellau gwybodaeth electronig, sy'n cynnwys casgliadau e-gylchgronau ac e-lyfrau, delweddau, adroddiadau marchnad, ystadegau, darlithoedd fideo, a mwy.
Mae ein Cronfeydd Data A-Y yn rhestr yn nhrefn yr wyddor o'n holl gronfeydd data. Mae croeso i chi sgrolio drwy'r rhestr gyfan neu glicio ar lythyren i neidio i enwau cronfa ddata sy'n dechrau gyda'r llythyren honno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Defnyddio Cronfeydd Data A-Y.
Fel arall, chwiliwch am gronfeydd data yn ôl enw, pwnc neu’r math o wybodaeth a gwmpesir.
Wrth ochr bob cronfa ddata, mae labeli sy'n dynodi pa fath o gronfa ddata ydyw a hefyd eiconau sy'n amlygu nodweddion, megis hygyrchedd, e-Hyfforddiant, apiau symudol cydymaith, neu a oes angen cofrestriad ychwanegol.
Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad at y gronfa ddata neu os hoffech wybod mwy amdani.