Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Animeiddio (YGDC)

Cronfeydd Data

Nid yw'r llyfrgell yn tanysgrifio i lyfrau a chyfnodolion yn unig, mae gennym hefyd fynediad i amrywiaeth eang o gronfeydd data ar gyfer eich maes astudio neu ymchwil. Mae 'Cronfa Ddata' yn golygu ffynonellau gwybodaeth electronig, sy'n cynnwys casgliadau e-gylchgronau ac e-lyfrau, delweddau, adroddiadau marchnad, ystadegau, darlithoedd fideo, a mwy.

Sut i ddefnyddio'r Cronfeydd Data A-Y

Mae ein Cronfeydd Data A-Y yn rhestr yn nhrefn yr wyddor o'n holl gronfeydd data. Mae croeso i chi sgrolio drwy'r rhestr gyfan neu glicio ar lythyren i neidio i enwau cronfa ddata sy'n dechrau gyda'r llythyren honno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Defnyddio Cronfeydd Data A-Y.



Fel arall, chwiliwch am gronfeydd data yn ôl enw, pwnc neu’r math o wybodaeth a gwmpesir.

Eiconau

Wrth ochr bob cronfa ddata, mae labeli sy'n dynodi pa fath o gronfa ddata ydyw a hefyd eiconau sy'n amlygu nodweddion, megis hygyrchedd, e-Hyfforddiant, apiau symudol cydymaith, neu a oes angen cofrestriad ychwanegol.

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad at y gronfa ddata neu os hoffech wybod mwy amdani.

Cronfeydd Data a Argymhellir

Egyfnodolion
  • Art Full Text Cronfa ddata ymchwil celf yn darparu 1,110 o gyfnodolion gweithredol wedi'u mynegeio a’n haniaethol, y mae 778 ohonynt yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Mae'n ymdrin â chelfyddyd gain, addurniadol a masnachol, yn ogystal â ffotograffiaeth, ffilm a phensaernïaeth.
  • Arts & Humanities Database Mae cronfa ddata cyfnodolion testun llawn yn cynnwys cannoedd o deitlau sy'n cwmpasu celf, pensaernïaeth, dylunio, hanes, athroniaeth, cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr ac astudiaethau diwylliannol.
  • Taylor & Francis Journals Cyfnodolion amlddisgyblaethol sy’n ymdrin â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Gyfraith, Meddygaeth ac Iechyd, Gwyddoniaeth a Mathemateg a Gwyddorau Cymdeithasol.

Cyfeirnodi
  • Cite Them Right Offeryn cyfeirio ar-lein i helpu myfyrwyr i gyfeirnodi'n gywir a deall sut i osgoi llên-ladrad.

Newyddion
  • European Newsstream Chwiliwch y cynnwys newyddion diweddaraf o'r DU ac Ewrop gydag archifau yn ôl i'r 1990au. Yn cynnwys papurau newydd fel The Guardian a The Times, gwifrau newyddion, cyfnodolion, a gwefannau mewn fformat testun llawn.

Delweddau, Fideo a Sain
  • Box of Broadcasts Gwasanaeth teledu a radio ar-alw Learning on Screen ar gyfer addysg.
  • Bridgeman Education Adnodd delwedd ar-lein ar gyfer addysg. Yn darparu archif o ddelweddau digidol o brif amgueddfeydd, orielau, artistiaid cyfoes a chasgliadau preifat y byd.
  • British Cartoon Archive Mae’r British Cartoon Archive wedi digideiddio Carl Giles Digital Archive, yr archif bwysicaf o gartwnau papurau newydd Prydain ac yn adnodd allweddol ar gyfer hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain.
  • JSTOR contains journals, images and primary sources from the arts, business and economics, humanities, law, medicine, science, and the social sciences.
  • John Johnson Collection: An Archive of Printed Ephemera Yn amhrisiadwy ar gyfer astudio datblygiad diwylliant argraffu a gweledol ym Mhrydain fodern, mae'r casgliad hwn yn cynnwys posteri adloniant, printiau topograffig poblogaidd a deunydd hysbysebu o'r 18fed, 19eg a'r 20fed ganrif mewn ffacsimili lliw-llawn, eglur iawn.
  • Sage Research Methods Video: Practical Research and Academic Skills Mae Fideo Dulliau Ymchwil Sage: Ymchwil Ymarferol a Sgiliau Academaidd yn cefnogi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu cynigion, dylunio prosiectau, a sicrhau cymeradwyaeth foesegol.

Cyfrifiadureg ac Electroneg
  • ACM Digital Library Cronfa ddata gynhwysfawr yn canolbwyntio ar bynciau gwyddoniaeth gyfrifiadurol gan Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura. Yn cynnwys testun llawn cyhoeddiadau ACM, gan gynnwys cyfnodolion, trafodion cynadleddau, cylchgronau a chylchlythyrau.
  • IEEE Xplore Yn darparu mynediad i lenyddiaeth dechnegol mewn peirianneg drydanol, cyfrifiadureg ac electroneg. Yn cynnwys llyfrau, trafodion cynadleddau, cyfnodolion a chylchgronau, a safonau.

Ystadegau a Data
  • Mintel Mynediad testun llawn i adroddiadau ymchwil marchnad a gynhyrchwyd gan Mintel. Yn cynnwys adroddiadau marchnad y DU, dadansoddiadau, data a newyddion ar ddiwydiannau, cynhyrchion, brandiau a chwmnïau.
  • Statista Llwyfan data byd-eang a gwybodaeth busnes gyda chasgliad helaeth o ystadegau, adroddiadau, mewnwelediadau a ffeithluniau.

Ymchwil