Skip to Main Content

Gwasanaethau Llyfrgell

Canllawiau Pwnc - Rhagymadrodd

Beth yw Canllawiau Pwnc y Llyfrgell?

Yn syml, canllawiau ydyn nhw sydd wedi’u creu i’ch rhoi ar ben ffordd wrth ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’ch Ysgol a’ch Adran. Nid yw’r Canllawiau Pwnc yn gynhwysfawr – dim ond y deunyddiau allweddol ydyn nhw y mae’n rhaid ichi ddod yn gyfarwydd â nhw.

Beth am ChwilioMet?

Porth yw ChwilioMet i’r holl gynnwys premiwm, taledig y mae eich darlithwyr a’ch llyfrgellwyr wedi’u prynu i’ch cefnogi yn eich cyrsiau. Mae ChwilioMet yn adnodd gwerth miliynau o bunnoedd sydd, yn annhebyg i Google Scholar, yn eich helpu chi i ddod o hyd i ddeunyddiau o ansawdd, sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac sy’n berthnasol yn academaidd. Fe’i hariennir yn rhannol gennych chi yn eich ffioedd cwrs felly mae’n gwneud synnwyr eich bod yn ei ddefnyddio. Pan fyddwch yn chwilio, mae ChwilioMet fel arfer yn rhoi llawer o filoedd o ganlyniadau ichi - felly mae’n bwysig hidlo eich canlyniadau e.e. yn ôl pwnc neu ddyddiad.

Pam ddylwn i chwilio yn ôl pwnc?

Dull arall o chwilio yw chwilio’n fwy penodol yn ôl pwnc. Fel arfer, byddwch yn cael llai o ganlyniadau, ond rhai mwy penodol (efallai y bydd angen ichi hidlo o hyd).

Gweler ein tudalennau Canfod a Defnyddio Adnoddau i ddysgu mwy.