Neidio i'r Prif Gynnwys

Gwasanaethau Llyfrgell

Plismona Proffesiynol (YAPhCC)

Cronfeydd Data

Nid yw'r llyfrgell yn tanysgrifio i lyfrau a chyfnodolion yn unig, mae gennym hefyd fynediad i amrywiaeth eang o gronfeydd data ar gyfer eich maes astudio neu ymchwil. Mae 'Cronfa Ddata' yn golygu ffynonellau gwybodaeth electronig, sy'n cynnwys casgliadau e-gylchgronau ac e-lyfrau, delweddau, adroddiadau marchnad, ystadegau, darlithoedd fideo, a mwy.

Sut i ddefnyddio'r Cronfeydd Data A-Y

Mae ein Cronfeydd Data A-Y yn rhestr yn nhrefn yr wyddor o'n holl gronfeydd data. Mae croeso i chi sgrolio drwy'r rhestr gyfan neu glicio ar lythyren i neidio i enwau cronfa ddata sy'n dechrau gyda'r llythyren honno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw pwrpasol i Defnyddio Cronfeydd Data A-Y.



Fel arall, chwiliwch am gronfeydd data yn ôl enw, pwnc neu’r math o wybodaeth a gwmpesir.

Eiconau

Wrth ochr bob cronfa ddata, mae labeli sy'n dynodi pa fath o gronfa ddata ydyw a hefyd eiconau sy'n amlygu nodweddion, megis hygyrchedd, e-Hyfforddiant, apiau symudol cydymaith, neu a oes angen cofrestriad ychwanegol.

Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad at y gronfa ddata neu os hoffech wybod mwy amdani.

Cronfeydd Data a Argymhellir

Egyfnodolion
  • Criminal Justice Database Mae'r Gronfa Ddata Cyfiawnder Troseddol yn gronfa ddata gynhwysfawr sy'n cefnogi ymchwil ar droseddu, ei achosion a'i effeithiau, goblygiadau cyfreithiol a chymdeithasol, yn ogystal â thueddiadau ymgyfreitha a throseddu.
  • ProQuest Central Mae ProQuest Central yn dod â llawer o'n cronfeydd data a ddefnyddir fwyaf at ei gilydd i greu cronfa ddata ymchwil amlddisgyblaethol gynhwysfawr ac amrywiol.
  • Taylor & Francis Journals Cyfnodolion amlddisgyblaethol sy’n ymdrin â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Gyfraith, Meddygaeth ac Iechyd, Gwyddoniaeth a Mathemateg a Gwyddorau Cymdeithasol.

Cyfeirnodi
  • Cite Them Right Offeryn cyfeirio ar-lein i helpu myfyrwyr i gyfeirnodi'n gywir a deall sut i osgoi llên-ladrad.

Newyddion
  • European Newsstream Chwiliwch y cynnwys newyddion diweddaraf o'r DU ac Ewrop gydag archifau yn ôl i'r 1990au. Yn cynnwys papurau newydd fel The Guardian a The Times, gwifrau newyddion, cyfnodolion, a gwefannau mewn fformat testun llawn.

Cyfraith
  • Law Trove Mae Law Trove yn darparu mynediad testun llawn i bron i ddau gant o werslyfrau cyfraith a throseddeg a gyhoeddwyd gan Oxford University Press (OUP).
  • Lexis+ UK Cronfa ddata ymchwil gyfreithiol y DU gan gynnwys achosion, deddfwriaeth, erthyglau cyfnodolion, sylwebaeth a thestunau ymarferwyr.
  • Westlaw UK Mae Westlaw UK yn ymdrin â phob agwedd ar y gyfraith gan ddarparu mynediad at gyfraith achosion, deddfwriaeth, erthyglau cyfnodolion, sylwebaeth, newyddion ac e-lyfrau.

Fideo a Sain

Ystadegau a Data
  • Statista Llwyfan data byd-eang a gwybodaeth busnes gyda chasgliad helaeth o ystadegau, adroddiadau, mewnwelediadau a ffeithluniau.

Ymchwil