Ar ei anterth roedd y Llyfrgell Sleidiau yn cynnwys dros 95,000 o sleidiau ac am flynyddoedd lawer hi oedd y brif ffynhonell delweddau ar gyfer cyflwyniadau ac addysgu i staff a myfyrwyr. Lleolwyd y llyfrgell sleidiau yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar gampws Gerddi Howard ac yn ddiweddarach cafodd ei symud i Lyfrgell Llandaf.
Defnyddiwyd y llyfrgell sleidiau hefyd i gartrefu sleidiau o arwyddocâd i'r ysgol gelf megis sleidiau o waith darlithwyr, arddangosfeydd myfyrwyr ac ati.
Yn 2018 cynhaliwyd adolygiad o'r casgliad gyda ffocws ar gadw sleidiau oedd â chysylltiad â Chymru, Caerdydd, neu Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Maint y casgliad: 5 o gypyrddau fo sleidiau + deunydd cysylltiedig 3.5m
Mynediad: Nid yw’r gwaith o gatalogio wedi dechrau eto. I gael mynediad, cysylltwch â: SpecialCollections@cardiffmet.ac.uk
Mae detholiad o gynnwys a phynciau o'r casgliad Llyfrgell sleidiau wedi’u rhestru isod:
Casgliad o sleidiau sy'n dogfennu gwaith, digwyddiadau ac arddangosfeydd myfyrwyr ac aelodau staff a gynhaliwyd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd o'r 1960au tan ddechrau'r 2000au. Mae rhai ohonynt wedi'u rhestru isod:
Gellir dod o hyd i ragor o ddeunydd yn ymwneud â'r casgliad hwn yn y National Arts Education Archive (NAEA), Parc Cerfluniau Swydd Efrog, sy'n storfa o gasgliadau sy'n ymwneud â datblygu addysg gelfyddydol yn y DU o 1870 hyd heddiw.