Yma, gallwch roi gwybod i ni beth rydym yn ei wneud yn iawn, neu lle rydym yn mynd o'i le. Rydym yn glustiau i gyd!
Bwrdd adborth Padlet yw'r lle i roi gwybod i ni beth hoffech chi wrth y gwasanaethau, y gofodau a'r adnoddau astudio a ddarparwn. Dywedwch wrthym am eich profiadau yn y Canolfannau Dysgu, gyda'r wefan neu os oes gennych unrhyw syniadau ffres ar gyfer digwyddiadau hoffech i ni eu cynnal. Os cliciwch ar y tri dot ar ochr dde'r Palet gallwch agor ar ffurf sgrin lawn i wneud hyn yn haws. Ac os hoffech aros yn ddienw, gwnewch yn siŵr NAD ydych chi'n mewngofnodi i Padlet.
Ar y ffurflen yn is i lawr ar y dudalen gallwch roi adborth manylach i ni ar wefan y Gwasanaeth Llyfrgell. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu ein gwefan, felly ymunwch â'r sgwrs!