Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, bydd angen i chi ddyblygu eich rhestrau darllen, fel eu bod ar gael ar gyfer modiwlau'r flwyddyn nesaf. Geliwr y broses ddyblygu hon yn flaenorol yn Leganto fel 'trosglwyddo'.
- Ar ôl i chi drosglwyddo eich modiwl yn Moodle, ewch i Rhestrau yn Leganto. Hofran dros y rhestr rydych chi am ei dyblygu a chliciwch ar yr elipsis i weld dewislen y Rhestr. Dewiswch Dyblygu Rhestr o'r gwymplen.
- O dan Dolen i’r cwrs, chwiliwch am y modiwl wedi'i drosglwyddo yn ôl rhif neu deitl y modiwl hwnnw.
- Gadewch y botwm wedi'i osod i Ie ynghylch ailgyfeirio dolenni rhanadwy i'r rhestr newydd, a gwnewch unrhyw newidiadau yn y Gosodiadau Uwch.
- Gwiriwch eich bod yn hapus ag enw eich rhestr ddarllen newydd, wedi'i ddyblygu, gan ddileu'r testun '(Trosglwyddo)' wedi'i fewnosod yn awtomatig, yna cliciwch Creu rhestr. Mae eich rhestr wedi’i ddyblygu bellach yn gysylltiedig â'ch modiwl sydd newydd ei drosglwyddo.
- Bydd eich rhestr yn cael ei hanfon yn awtomatig i'r Llyfrgell i'w hadolygu. Er mwyn ei gwneud yn weladwy i fyfyrwyr, cliciwch ar Mae fy rhestr yn barod.
- Bydd hen restrau yn cael eu harchifo o bryd i'w gilydd. Yn Rhestrau, gallwch weld a chael mynediad at eich rhestrau wedi'u harchifo gan ddefnyddio'r Hidlydd.